Paratoi ar gyfer eich cyfweliad
Yn gyntaf, llongyfarchiadau am gael cyfweliad gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
I’ch helpu i fanteisio ar y cyfweliad i’r eithaf, edrychwch ar y dolenni gwe isod. Byddan nhw’n eich helpu i ddeall yr hyn a wnawn yn y Gronfa a sut rydyn ni’n cefnogi pobl a chymunedau ledled y DU i ffynnu.
Mae’r ffordd yr ydych chi’n paratoi ar gyfer eich cyfweliad wir yn gwneud gwahaniaeth. Ar wahân i wneud i chi sefyll allan i’ch panel cyfweld, bydd yn eich helpu i deimlo’n barod ac yn ymlaciedig.
Rydym eisiau i chi fod eich hun, felly boed ydych chi’n brofiadol mewn cyfweliadau, neu’n poeni am sut fyddwch chi’n ymdopi yn y sefyllfa, cofiwch eich bod wedi cyrraedd mor bell â hyn oherwydd rydych eisoes wedi dangos bod gennych y gallu. Mwynhewch y broses, ac os oes unrhyw bryderon neu anghenion ychwanegol gennych nad ydynt wedi cael eu trafod a’u cytuno arnynt eisoes, cysylltwch â Timpobl@cronfagymunedolylg.org.uk
Hoffem i chi gael profiad da yn eich cyfweliad gyda ni; rydym wedi ymrwymo i fod yn deg ac yn gynhwysol. Edrychwn ymlaen at eich cyfarfod ac fe’ch anogwn i ddysgu’r hyn y gallwch chi am ein gwaith a’n pobl.
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol – sut rydym ni’n ariannu ac yn cefnogi pobl a chymunedau ledled y DU.
Interview checklist:
- Darllenwch eich e-bost cadarnhau cyfweliad yn fanwl. I ymgeiswyr Cymraeg, gwiriwch ym mha iaith (Cymraeg neu Saesneg) y bydd eich cyfweliad yn cael ei gynnal.
- Ymchwiliwch i’r Gronfa – chwiliwch am erthyglau newyddion diweddar, defnyddiwch beiriannau chwilio (Google, Bing ayb), defnyddiwch y dolenni uchod a darllenwch yr Adroddiad Blynyddol a’r Cynllun Corfforaethol.
- Sicrhewch eich bod yn gwybod eich hanes gyrfa, byddwch yn barod i drafod eich gyrfa hyd yn hyn
- Gwnewch ymchwil am eich panel o gyfwelwyr – defnyddiwch LinkedIn ar gyfer hyn, mae’n dangos eich bod yn rhagweithiol a bod diddordeb gennych yn eu cefndir
- Côd gwisg – Smart/Hamddenol – taclus ac wedi’ch paratoi
- Ymarferwch ateb rhywfaint o gwestiynau trwy ddefnyddio’r enghreifftiau yn y pecyn hwn
- Rhowch amser i’ch hun – Ymchwiliwch y daith i’r swyddfa/lawrlwythwch y feddalwedd os yw’r cyfweliad ar-lein a gwiriwch eich bod chi’n hapus â’ch safle ar y camera. Byddwch yn barod 15 munud cyn y cyfweliad a chymerwch funud i reoli eich anadlu. Cyn pob cwestiwn, cymerwch anadl ddofn a meddyliwch cyn ateb
- Gwenwch ac ymgysylltwch â’r panel cyfan
- Cyn y cyfweliad – Nodwch enwau’r panel mewn llyfr nodiadau (rhag ofn i chi eu hanghofio) a pharatowch ychydig o gwestiynau ar eu cyfer (3 – 5). Efallai bydd y cwestiynau hyn yn cael eu hateb yn ystod y cyfweliad beth bynnag, ond o leiaf gallwch chi ddweud eich bod wedi paratoi rhai ohonynt. Gallwch fynd â’r llyfr nodiadau hwn gyda chi i’r cyfweliad
- Os ydych chi’n gwneud cyflwyniad, sicrhewch eich bod yn gwybod sut i rannu eich sgrîn ac ymarferwch ychydig o weithiau i sicrhau eich bod yn aros o fewn y terfyn amser. Cadwch amser ar gyfer cwestiynau ar y diwedd, os yn bosibl.
Paratoi ar gyfer cyfweliad fideo
- Sicrhewch fod eich dyfais wedi’i gwefru a bod y feddalwedd gywir wedi’i lawrlwytho cyn y cyfweliad
- Gwiriwch osodiad y camera a’r cefndir gan gynnwys y goleuo cywir
- Dim gwrthdyniadau.
Cwestiynau nodweddiadol i ofyn i’r panel
- Beth yw prif heriau’r rôl, yn enwedig yn ystod y chwe mis cyntaf?
- Faint o bobl sydd yn fy nhîm a beth yw eu rolau?
- Sut fyddech chi’n disgrifio diwylliant y cwmni?
- Nawr eich bod chi wedi fy nghyfarfod, beth ydych chi’n disgwyl i fod fy her fwyaf petawn i’n llwyddiannus?
Mae ein dull cyfweld yn gyffredinol yn seiliedig ar gymhwysedd, oni bai ein bod wedi dweud fel arall. Cofiwch baratoi ac ymarfer, os gwelwch yn dda!
- Wrth baratoi am y dull cyfweld hwn, defnyddiwch enghreifftiau i’r cyfrifoldebau swydd o fewn y swydd ddisgrifiad.
- Byddwch eich hun wrth ateb cwestiynau’n seiliedig ar gymwyseddau. Defnyddiwch enghreifftiau go iawn oherwydd bydd hyn yn eich helpu i’w cyfathrebu’n hyderus.
- Mae’n gyffredin iawn i gael eich gofyn i ddisgrifio adeg y gwnaethoch ddangos sgil benodol o fewn sefyllfa benodol.
- Defnyddiwch y rheol STGC (Sefyllfa, Tasg, Gweithredoedd, Canlyniadau) a byddwch mor gryno â phosibl:
- Dewch o hyd i enghraifft addas
- Eglurwch y sefyllfa
- Amlygwch y dasg
- Pa weithred/oedd gymeroch chi?
- 6. Pa ganlyniadau gawsoch chi?
Cwestiynau enghreifftiol: Cymwyseddau unigol
- Disgrifiwch sefyllfa lle y gwnaethoch reoli nifer o ofynion a dyddiadau cau a sut y gwnaethoch gyflwyno’r rhain ar amser.
- Sut ydych chi, neu sut fyddech chi’n, mynd i’r afael â phrosiectau yr ydych chi’n gyfrifol amdanynt?
Cymwyseddau rheoli – y gallu i arwain a rheoli
- Dywedwch wrthyf am adeg y gwnaethoch arwain grŵp i gyflawni amcan.
- Sut ydych chi’n cymell eich tîm i gyflawni eu hamcanion?
Cymwyseddau dadansoddi – Y gallu i ddadansoddi, prosesu a gweithredu datrysiadau
- Dywedwch wrthyf am adeg pan wnaethoch adnabod dull newydd i ddatrys problem.
- Disgrifiwch adeg yr oedd hi’n anodd i chi wneud penderfyniad yn y gweithle. Sut ddaethoch chi o hyd i ddatrysiad?
Cymwyseddau rhyngbersonol
- Disgrifiwch sefyllfa lle y gwnaethoch annog pobl i gydweithio.
- Dywedwch wrthyf am sefyllfa oedd yn gofyn i chi ddefnyddio dull gwahanol i gyfathrebu.
- Dywedwch wrthym am adeg y bu’n rhaid i chi ddelio â gwrthdaro â rhanddeiliad.
Cymwyseddau cymhelliant – Beth sy’n eich cymell
- Sut ydych chi’n diffinio llwyddiant yn eich rôl?
- Pryd wnaethoch chi weithio fwyaf caled a theimlo’r ymdeimlad mwyaf o gyflawniad?