Prosiect celf cymunedol yn dod â phobl yng nghefn gwlad Ceredigion ynghyd cyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron
Mae Menter Silian yn cynnal prosiectau cymunedol yn Silian, Ceredigion gyda’r bwriad o adfywio’r plwyf a’i ardaloedd cyfagos. Maen nhw’n darparu gweithgareddau awyr agored i’r gymuned, fel grwpiau garddio, teithiau cerdded, helfeydd trysor a barbeciws. Daeth y syniad am brosiect celf o ddigwyddiad bore coffi gyda 40 o bobl leol. Cynigiodd y capel lleol ei festri fel lleoliad i gynnal y prosiect.
Dyfarnwyd grant £5,685 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gynnal prosiect celf cymunedol cyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron gerllaw.
Mae ‘gwisgo’ pentrefi cyfagos i nodi adeg yr Eisteddfod yn draddodiad hirhoedlog yng Nghymru. Daeth grwpiau cymunedol, ysgol gynradd, addoldai a sefydliadau ieuenctid mewn pentrefi ar hyd yr A485, y brif ffordd i Dregaron, at ei gilydd mewn cyfres o weithdai celf i greu murlun mawr, lliwgar sy’n portreadu tirnodau lleol ac yn dathlu’r ardal. Mae bellach wedi’i arddangos ar Bont Silian gyda balchder, yn barod i groesawu ymwelwyr i’r ŵyl ym mis Awst.
Mae’r gymuned leol yn chwarae rhan bwysig yn y grŵp ac fe’u hanogir i roi adborth a rhannu syniadau i hysbysu prosiectau yn y dyfodol a sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu bodloni. Mewn arolwg diweddar o anghenion y pentref, roedd cyfleoedd i ddod ynghyd yn brif flaenoriaeth, ac mae hyn yn sicr wedi cael ei gyflawni trwy’r prosiect celf hwn. Mae’r prosiect wedi atgyfnerthu cysylltiadau lleol, o fewn cymuned Silian a phentrefi cyfagos, rhwng pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ynysrwydd gwledig a chymdeithasol a diffyg mynediad at wasanaethau yn ystod y pandemig. Mae aelodau o’r gymuned o bob oedran, gallu a chefndir wedi dod ynghyd, gan eu cysylltu â digwyddiad sy’n bwysig yn genedlaethol ac yn dathlu iaith a diwylliant Cymru.
Dywedodd Dr Nikki Vousden, Ysgrifennydd Menter Silian: “Does unman dan do i bobl Silian gwrdd â’i gilydd eto, ac roedden ni’n ymwybodol bod yr ynysrwydd cymdeithasol y mae trigolion lleol yn ei brofi wedi cael ei waethygu gan y pandemig. Daeth y syniad o sgwrs gyda phobl mewn digwyddiad cymunedol a gynhelir gennym eleni. Credon ni y byddai’n gyfle gwych i ddod â Silian a’r gymuned ehangach ynghyd i greu arddangosfa i ni gyd fod yn falch ohoni, sy’n dangos ein tirwedd leol unigryw a’n treftadaeth adeiledig”.
Dywedodd y Cynghorydd Eryl Evans, Cadeirydd Menter Silian: “Mae’r adborth wedi bod yn dda iawn, ac mae’r prosiect wedi amlygu cymaint oedd angen y cyfle arnom i ddod ynghyd. Roedd sgwrsio dros baned o de a chreu darnau o gelf a fydd yn dangos ein bro yn ffordd ddelfrydol o gael pobl i deimlo’n rhan o’u cymuned eto. Roedd hi’n wych gweld pobl yn mwynhau’r creadigrwydd a’r gwmnïaeth. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn sbarduno pobl leol i ymweld â’r Eisteddfod a mwynhau’r digwyddiad diwylliannol mwyaf yn ein hardal ers Eisteddfod 1984 yn Llambed”.
Gallwch ddysgu rhagor am brosiectau Menter Silian a dilyn eu cynnydd ar Facebook ac Instagram.
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn yr wythnos at achosion da ledled y DU. Chwilio am gyllid i gefnogi eich cymuned i ffynnu? Dysgwch ragor am ymgeisio am grant