Arian y Loteri Genedlaethol yn cefnogi llu o Wyliau Cymraeg Cymunedol yr haf hwn
O’r diwedd, mae’r gwyliau yn ôl, a dros yr haf hwn mae amryw o wyliau cymdeithasol Cymreig wedi’u hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Dyma grynodeb o rai ohonynt.
Ar y seithfed o Fai 2022, cynhaliwyd yr Ŵyl Gerddoriaeth a Diwylliant Gymraeg Cymunedol gyntaf erioed yng Nghrymych, Gŵyl Fel ‘na Mai. Ceisiwyd ei chynnal nôl yn 2019, ond bu rhaid oedi oherwydd y pandemig. Prif nod yr ŵyl oedd ceisio codi ymwybyddiaeth am gelfyddyd Gymraeg yn gyffredinol, gan gefnogi cerddoriaeth Gymraeg yng Ngorllewin Cymru, yn bennaf drwy gynnal cyngherddau, gigs, dramâu, ac arddangosfeydd celf. Bu’r ŵyl yn llwyddiannus yn eu cais, a derbyniwyd £9,994 o arian y Loteri Genedlaethol.
Helpodd arian y Loteri Genedlaethol i ddatblygu Gŵyl Fach y Fro yn y Bari'r haf hwn hefyd, gyda grant o £10,000. Dyma yw’r unig ŵyl Gymraeg ym Mro Morgannwg, ac eleni, hoffent ddatblygu elfennau cymunedol a gweithgareddau i blant ymhellach. Gan fod yr ŵyl wedi cael ei chynnal ers 2015, teimla’r trigolion lleol bod yr ŵyl yn allweddol i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu yn yr ardal.
Gŵyl arall sydd wedi elwa o gefnogaeth y Loteri Genedlaethol yw Tafwyl. Eleni, roeddent eisiau datblygu ardal les yr ŵyl. Gyda grant o £10,000, roeddent eisiau cynnig mwy o weithgareddau oedd yn cynnig cymorth i fynychwyr Tafwyl, o sesiynau meddwlgarwch a ioga, i wersi coginio a gweithdai hunanhyder.
Bu brwdfrydedd mawr i ail-gynnal Gŵyl Maldwyn wedi’r pandemig hefyd. Eleni, roedd safle newydd dan sylw gan y trefnwyr, a olygodd y gallant gynnig lle i aros dros y penwythnos. Gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol , llwyddwyd i wneud hynny, yn ogystal â datblygu elfennau marchnata megis creu gwefan a hysbysebion.
Sicrhaodd y trefnwyr y byddai’r holl gymuned yn gallu bod yn rhan o’r ŵyl, o oedrannau ysgol, i bobl ifanc, a hŷn. Ehangwyd y pwyllgor i sicrhau bod cynrychiolaeth o bob oedran, gan wahodd tri o bobl ifanc ar y pwyllgor, gan mai’r to iau a deimlir wedi’i heffeithio fwyaf o’r pandemig.
Dyma’r hyn oedd gan Emyr Wyn, Cadeirydd Gŵyl Maldwyn i’w ddweud:
“Mae’r grant ‘de ni wedi ei dderbyn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi galluogi ni fentro i safle newydd ac ehangu gweithgareddau i’r gymuned gyfan. Fe fydd yr Wyl yn agored i bob oed, babanod a’r ifanc ar y dydd Sadwrn, a gwledd i bawb ar y nosweithiau. Rydym hefyd yn croesawu y rhai sydd wedi symud i’r ardal ac yn mynychu gwersi dysgu i oedolion.”
Drwy ein rhaglen Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol, mae’n bosibl derbyn grant hyd at £10,000 os yw eich prosiect yn cyrraedd o leiaf un o’n blaenoriaethau ariannu, sef;
- Dod â phobl at ei gilydd ac adeiladu perthynas gref mewn ac ar draws cymunedau
- Gwella lleoedd a mannau sy'n bwysig i gymunedau
- Helpu mwy o bobl i gyrraedd eu potensial, drwy eu cefnogi ar y cam cynharaf.
Gweler rhagor o wybodaeth ynglŷn â’n rhaglen Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yma. Efallai gall eich prosiect chi fod yn addas ar ei gyfer.
Mae’n bwysig bod eich digwyddiad yn cael ei ddatblygu gan weithio gyda’r gymuned ehangach, fel eglurodd Ruth Bates, Pennaeth Cyfathrebu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, “Rydym yn chwilio am gyfraniad y gymuned ehangach wrth gynllunio a chyflwyno unrhyw waith a arianwn“.
Felly, os ydych chi’n credu bod eich prosiect yn cyrraedd o leiaf un o’n blaenoriaethau ariannu, cyflwynwch gais, ac ewch am grant Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol, i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned leol chi.