Grantiau Bach, Effaith Fawr
Rwy’n hapus iawn i gyhoeddi ein hadroddiad newydd, ‘Grantiau Bach, Effaith Fawr’ sy’n amlygu effaith a chyrhaeddiad rhaglen grantiau lleiaf Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Bob dydd, mae pobl ar draws y genedl yn gwneud y penderfyniad gweithredol i fynd allan a chefnogi eu cymuned, boed yw hynny trwy wirfoddoli, helpu yn eu canolfan gymunedol, neu sicrhau fod gan gymdogion hŷn gefnogaeth a rhywun i siarad â nhw. Y gweithgarwch hwn – a llawer mwy – yr ydym ni’n ei gefnogi trwy ein grantiau bach, llwybr ariannu gwerthfawr i bobl ymgeisio am unrhyw beth yn hawdd ac yn gyflym – o £100 i £10,000 – sy’n gallu cyfrannu at yr hyn sydd ei angen ar eu cymuned.
Grantiau bach yw’r hyn sy’n cadw adeiladau a mannau cymunedol ar agor, ond maen nhw hefyd yn darparu ffrwd ariannu fach ond hanfodol lle mae gweithredu cymunedol yn gallu ffynnu a thyfu dros amser. Ar y naill law maen nhw’n trwsio’r tô, y boeler a chadw’r golau ymlaen, ond ar y llaw arall maen nhw’n galluogi ysbryd cymunedol i barhau a meithrin perthnasoedd pwysig a chyfalaf cymdeithasol.
Rydym wedi defnyddio symiau bach o arian ar gyfer amrywiaeth o achosion da; i sicrhau fod gan bobl ifanc fynediad at lefydd chwarae, i alluogi siopau cymunedol i ffynnu ac i gynnal tafarndai a gerddi cymunedol. Rydym hefyd wedi defnyddio ein grantiau bach i ddod â chymunedau ynghyd, a hynny’n fwyaf diweddar ar gyfer Jiwbilî Platinwm y Frenhines, lle y defnyddiwyd dros 1,200 o grantiau gwerth cyfanswm o £7.6 miliwn i helpu pobl ar draws y wlad i ddod ynghyd a dathlu.
Credaf mai’r grantiau bach hyn sy’n creu sylfaen ariannu cymunedol ac sy’n ein galluogi i gyrraedd pobl mewn ardaloedd a fyddent yn anodd eu cyrraedd fel arall.
Credaf hefyd eu bod yn ffrwd ariannu bwysig yn ecosystem ehangach gwneud grantiau a diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym ni yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn gallu dosbarthu’r symiau hyn ar lefel eang.
Y llynedd, roedd 40% o’r sefydliad a ariannwyd gennym wedi derbyn grantiau gennym am y tro cyntaf. Dyma’r rheswm fy mod mor falch mai Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw cyllidwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU, gyda’r rhan fwyaf o’r prosiectau yr ydym yn eu cefnogi’n derbyn grantiau bach. Mewn gwirionedd, roedd 84% o’r grantiau a ddyfarnwyd gennym y llynedd ar gyfer £10,000 neu’n llai. Mae hyn yn golygu yr oeddem ni’n gallu dyfarnu dros 12,000 ohonynt bob blwyddyn, gan gyrraedd pob etholaeth a chymuned yn y DU a chyrraedd dros 90% o holl wardiau’r DU.
Rydym wedi cadw’r broses yn syml ac agored i bawb, gan alluogi cymunedau ledled y wlad efallai nad ydynt wedi ymgeisio am grantiau eraill i gyrchu ein cyllid. Rydym hefyd wedi parhau i weithio i sicrhau ein bod ni’n cyrraedd mannau oer ac ardaloedd â llai o gyfalaf cymdeithasol, er enghraifft mae ein dyfarniadau i Ffyniant Bro Ardaloedd Lleol Blaenoriaeth 1 wedi cynyddu o 42% i 50% yn ystod y tair blynedd diwethaf. Mae’r ardaloedd hyn yn cynrychioli traean poblogaeth y DU.
Dyma’r rheswm fy mod i mor hapus i gyhoeddi’r adroddiad hwn, sy’n dangos cyrhaeddiad ac effaith ein rhaglenni grant lleiaf – y gallai eu cyrhaeddiad cyfunol gynrychioli lledaeniad effaith ehangaf cyllid y Loteri Genedlaethol.
Boed yw hyn er mwyn helpu cymunedau i gynnal seilwaith lleol pwysig, i gefnogi pobl ifanc gyda sgiliau a llefydd i fynd, neu i roi cyfle i wirfoddolwyr weithio ar yr hyn y maen nhw’n gwybod sydd ei angen ar eu cymuned, mae’r symiau bach hyn o arian yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Faiza Khan MBE, Cyfarwyddwr Ymgysylltu a Mewnwelediad Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
I gael rhagor o wybodaeth am gryfhau eich cais ar gyfer cyllid grantiau bach, darllenwch ein blog Arian i Bawb defnyddiol.