‘Penderfyniadau i bobl ifanc, yn cael eu gwneud gan bobl ifanc’ – Mae Tom yn trafod ei amser ar Dîm Llais Ieuenctid Cymru
‘Cefais ymdeimlad o falchder wrth allu dylanwadu ar benderfyniadau mawr a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar bobl ifanc Cymru’ dywedodd Tom.
Roedd Tom, 23 oed, yn gwirfoddoli gyda’r sefydliad elusennol Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS) pan benderfynodd ymuno â Thîm Llais Ieuenctid Cymru gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae wedi bod yn rhan o’r Tîm ers mis Hydref 2021 ac yn ystod yr amser hwnnw, mae wedi bod ynghlwm â chyd-ddatblygu ‘Meddwl Ymlaen’, rhaglen £10 miliwn a ariennir gan y Loteri Genedlaethol i gefnogi iechyd meddwl a gwytnwch pobl ifanc yng Nghymru. O wneud penderfyniadau i asesu ceisiadau, roedd Tom a’r tîm yn rhan o’r broses bob cam o’r ffordd.
“Roedd y profiad hwn yn amhrisiadwy i mi. Mae wedi bod yn wych gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n bwysig i ni fel pobl ifanc a gallu gwneud gwahaniaeth.”
Pa brofiad a roddwyd i’r panel fel rhan o Dîm Llais Ieuenctid Cymru?
Roedd y tîm nid yn unig yn gallu gwneud penderfyniadau amhrisiadwy a hollbwysig am bwy gafodd eu hariannu a’r materion yr oeddent yn credu yr oedd angen mynd i’r afael â nhw’n gyntaf, ond hefyd, roedden nhw’n gallu gweithio ar sgiliau pwysig.
Dywedodd Tom, “Ers gweithio gyda Thîm Llais Ieuenctid Cymru, rwyf wedi gwella sgiliau penderfynu fy hun, yn ogystal â fy hyder ynddynt, yr hyder i godi llais, a dysgu i fod yn fwy pendant gyda’r penderfyniadau rwy’n eu gwneud a gallu dadlau manteision ac anfanteision yr holl ganlyniadau posibl.”
Wedi’i arwain gan y Loteri Genedlaethol, mae’r grŵp hwn o Bobl Ifanc wedi gallu cymryd rheolaeth dros broses penderfynu ar raddfa fawr, sydd wedi rhoi profiad iddyn nhw a fydd yn eu harwain at gamau nesaf pa bynnag lwybrau y maen nhw’n eu dewis.
Beth yw Tîm Llais Ieuenctid Cymru?
Mae Tîm Llais Ieuenctid Cymru’n cefnogi strategaeth Llais Ieuenctid Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Ei bwrpas yw cyflawni ein gweledigaethau Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) trwy lais ieuenctid, gan ddod ag amrywiaeth o feddyliau a phrofiadau byw i’r meysydd lle mae’r rhan fwyaf o’n cyllid yn cael ei ddosbarthu. Trwy’r strategaeth Llais Ieuenctid, hoffem: -
- Adeiladu gwybodaeth a dysgu’r Gronfa ar Lais Ieuenctid, fel bod pawb yn deall gwerth a phwysigrwydd Llais Ieuenctid
- Cynnwys EDI yn ein dull i ddenu staff ac arweinwyr y dyfodol, yn ogystal ag ymgeiswyr grant
- Gweithredu fel pont rhwng pobl ifanc a’n platfformau dylanwadol i fod yn gatalydd dros newid
- Cyd-ddylunio strategaethau ariannu ac ymgysylltu’r dyfodol gyda phobl ifanc i sicrhau bod profiad byw’n cael ei blannu trwy gydol ein grantiau
- Gosod pobl ifanc fel arbenigwyr o fewn ein modelau, fel enghreifftiau o wneud grantiau cyfranogol.
Ar draws y Gronfa, rydym wedi recriwtio grwpiau o bobl ifanc i weithio gyda ni fel dylanwadwyr, eiriolwyr, ymchwilwyr, ymgyngoreion a phenderfynwyr. Rydym wedi dysgu llawer wrth weithio gydag aelodau Tîm Llais Ieuenctid Cymru trwy eu cyfranogiad â Meddwl Ymlaen a’u cyfranogiad ehangach gyda diwrnodau strategaeth Pwyllgor Cymru ac Adolygiad Portffolio Cymru.
Beth oedd cyfranogiad pobl ifanc yn y rhaglen “Meddwl Ymlaen”?
Caiff cyfranogiad pobl ifanc yn y rhaglen “Meddwl Ymlaen” (MOF) ei ddeall orau yng nghyd-destun ymrwymiad ehangach y Gronfa i wneud grantiau cyfranogol, h.y. gosod pwyslais ar archwilio gwahanol fodelau o symud pŵer penderfyniadau gwneud grantiau i’r cymunedau sy’n cael eu heffeithio ganddynt. Yn ei hanfod, roedd cyfranogiad pobl ifanc yn MOF yn cynnwys:
- cytuno ar enw rhaglen
- cyfathrebu a hyrwyddo’r rhaglen i randdeiliaid
- datblygu deunyddiau ymgeisio a chanllawiau rhaglen
- asesu a gwneud penderfyniadau
- cynnal cyfweliadau cyfryngau i ddathlu cyhoeddiad y naw gwobr.
I nodi mis #powerofyouth, gwnaethom gynhyrchu’r ffilm hon sy’n dangos proses cyfranogiad Tîm Llais Ieuenctid Cymru wrth lywio a chyd-ddylunio rhaglen Meddwl Ymlaen