Meithrin cysylltiad cymdeithasol mewn cymunedau - The Essential Mix
Gyda’r nod o gyfoethogi cysylltiad cymdeithasol mewn cymunedau ledled y DU, mae Neighbourly Lab yn enghraifft dda o sefydliad yn defnyddio dull unigryw a mentrus i helpu dod â phobl ynghyd – un o’n prif flaenoriaethau fel cyllidwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’r grŵp wedi derbyn grant Mewn Undod Mae Nerth £300,000 ar gyfer ei brosiect The Essential Mix, sy’n meithrin cysylltiad cymdeithasol rhwng gweithwyr hanfodol, fel gweithwyr siop a bws a swyddogion gorfodi’r gyfraith, a thrigolion trwy hyrwyddo ‘rhyngweithiadau micro’ cadarnhaol.
Mae’r dull yn dod o ganlyniad i ymchwil a gynhaliwyd yn ddiweddar (Gunayadin et al., 2020) sy’n awgrymu y bydd rhyngweithiadau bach dyddiol - gwên, chwifio llaw, a hyd yn oed cyfarchion sylfaenol - gyda phobl yr ydym ni’n eu gweld yn hamddenol, dros amser, yn helpu hybu ein lles cyffredinol, lleihau ynysrwydd a’n galluogi i gael mwy o ymdeimlad o berthyn i’n cymunedau.
Mae’r potensial i’r dull hwn greu effaith gadarnhaol, barhaus, er ei fod yn hawdd ei ddefnyddio, yn eithaf sylweddol pan fyddwch chi’n ystyried y bydd y rhan fwyaf o bobl yn cysylltu â gweithwyr hanfodol yn rheolaidd yn ystod ein bywydau o ddydd i ddydd.
Felly sut mae pethau wedi mynd hyd yn hyn?
Mae Grainne O’Dwyer, Uwch Reolwr Rhaglenni Neighbourly Lab, yn rhannu’r effaith y mae The Essential Mix wedi’i chael ar gymunedau hyd yn hyn:
“Yn ystod ein camau cynnar o ethnograffeg a chyd-ddyluniad gyda gweithwyr hanfodol, roedd y gwerth a’r angen i hyrwyddo rhyngweithiadau mwy cadarnhaol ac aml gyda thrigolion yn amlwg i drigolion a gweithwyr hanfodol.
“Dywedodd gyrrwr bws: ‘Pan fyddwch chi’n clywed pobl yn dweud ‘diolch gyrrwr’ neu ‘diolch mêt’, mae’n codi ysbryd’, a rhannodd un trigolyn: ‘Dwi wrth fy modd yn siarad gyda fy mherchennog siop lleol – rydyn ni’n cefnogi’r un tîm pêl droed ac felly rydyn ni’n chwerthin a chrio am hynny bob wythnos’.
“Rydym ni’n dechrau ar gyfnod treialu gyda swyddogion gorfodi’r gyfraith yn Llundain a siopau Tesco yn Glasgow, gyda’r adborth cychwynnol yn gadarnhaol iawn.
“Mae swyddogion gorfodi’r gyfraith sydd wedi ymgymryd â hyfforddiant ymgysylltu cymunedol yn teimlo’n fwy hyderus wrth ymgysylltu â thrigolion i feithrin perthnasoedd dibynadwy. Rydym ni nawr yn symud at gyfnod o ddigwyddiadau cymunedol newydd i roi’r sgiliau hyn ar waith. Dywedodd un swyddog gorfodi’r gyfraith: ‘Mae’n agor eich llygaid ac yn eich helpu i ddeall yr effaith a gawn ar drigolion. Bydd fy narpariaeth gwasanaeth i’r cyhoedd yn bendant yn gwella.’
“Mewn siopau Tesco, rydym wedi bod yn cynnal digwyddiadau achlysurol lle mae sefydliadau cyhoeddus a thrydydd sector yn defnyddio dull mwy newydd o allgymorth, gan fynd at bobl lle maen nhw. O dri digwyddiad, mae grwpiau cymunedol wedi cyrraedd mwy na 210 o bobl ac wedi rhannu gwybodaeth a mynediad at wasanaethau. Mae adborth gan y sefydliadau mor gadarnhaol, mae’r dull hwn i ymgysylltu wedi helpu agor meysydd newydd o’r gymuned iddynt.
“Ar hyn o bryd, rydym ni’n casglu data cyn y treial gyda gyrwyr bws yn Hammersmith, Llundain. Bydd y treial yn digwydd yn nes ymlaen eleni ac rydym yn gobeithio rhannu effaith gadarnhaol. Byddwn ni hefyd yn gweithio gyda phobl ifanc mewn ysgol uwchradd yn Drumchapel, Glasgow yn ystod y misoedd nesaf.”
Beth yw’r rhaglen Mewn Undod Mae Nerth?
Mae’r rhaglen Mewn Undod Mae Nerth yn ceisio ariannu prosiectau gyda grantiau rhwng £200,000 a £500,000, yn ogystal â nifer fach o grantiau hyd at £1 miliwn.
Mae’r rhaglen yn cefnogi prosiectau sy’n meithrin cysylltiadau cryfach ledled cymunedau. Mae’n rhaid i brosiectau ddarparu ar gyfer o leiaf dwy wlad yn y DU (Lloegr, Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon), sy’n gallu bod trwy weithio mewn rhwydwaith neu bartneriaeth. Rydym ni’n chwilio am brosiectau sy’n defnyddio ac yn arbrofi â dulliau newydd, neu gyfuniad newydd o ddulliau i ddod â phobl ynghyd.
Mae hefyd diddordeb gennym i gefnogi prosiectau sy’n ymateb i ddigwyddiadau cenedlaethol ac arwyddocaol sy’n bwysig i gymunedau ledled y DU ac yn berthnasol i’r heriau cymdeithasol a wynebwn.
Mae’n rhaid i brosiectau fodloni o leiaf un neu ragor o’r blaenoriaethau canlynol:
- Cefnogi ac archwilio’r hyn sydd ei angen i gysylltu cymunedau
- Meithrin ymdeimlad cadarnhaol o berthyn trwy leihau agweddau ‘nhw a ni’
- Adeiladu cydweithrediad a chryfhau cymunedau
Canolbwyntio ar greu’r amodau ar gyfer newid hirdymor
Ymgeisio am grant Mewn Undod Mae Nerth
Mae Grainne yn cynnig ei chyngor ar y broses ymgeisio a sut aeth Neighbourly Lab i’r afael â’u cais:
“Cymerwch yr amser i ymgolli’ch hunain yn y gymuned leol i ddeall y cyd-destun y byddai eich prosiect yn gweithredu a chasglwch dystiolaeth o’r angen am y gwaith yr ydych chi’n ei wneud. Defnyddiom ni ddull ethnograffeg a chyd-greadigol wrth ddeall anghenion cymunedol a datblygu syniadau ymyrryd posibl. Roedd hyn yn golygu fod gennym syniadau a arweinir gan y gymuned i’w rhannu.”
Dyma rai awgrymiadau eraill:
- Sicrhewch eich bod wedi gwirio cymhwysedd y rhaglen ac wedi darllen y blaenoriaethau
- Sicrhewch eich bod chi’n disgrifio pa mor gynhwysol yw eich gwaith a bod llais y gymuned yn amlwg
- Meddyliwch am sut mae eich prosiect yn arbrofol a/neu’n profi dulliau newydd o ddod â phobl a chymunedau ynghyd
I gael gwybodaeth bellach, ewch i’n gwefan Mewn Undod Mae Nerth ac os oes unrhyw gwestiynau gennych, ffoniwch ein llinell gymorth ar 0345 410 2030 neu anfonwch e-bost at cymru@cronfagymunedolylg.org.uk