Rydym ni yma i chi – diweddariad gan David Knott, Prif Weithredwr
Mae’r argyfwng costau byw nid yn unig yn dominyddu penawdau’r newyddion, ond mae’n ymddangos yn rheolaidd mewn sgyrsiau gyda’n deiliaid grant.
Rydych wedi dweud wrthym am yr effaith mae’n ei chael ar y gefnogaeth a’r gwasanaethau rydych chi’n gallu eu cynnig i’ch cymuned, y beichiau sydd wedi’u rhoi arnoch, sut mae’n effeithio ar wytnwch ariannol eich sefydliad a’ch gallu i ddenu a chadw staff neu wirfoddolwyr.
Rydych yn benderfynol o gefnogi eich cymunedau trwy’r anawsterau hyn, ac rydym ni’r un mor benderfynol o’ch cefnogi chi.
Rydych wedi bod yn agored am yr heriau a wynebir gennych ac mae hyn wedi ein galluogi i wrando ac ymateb. Hoffem i chi wybod ein bod ni yma i chi – a dyma’r hyn rydym yn ei wneud.
Yn debyg i’r ffordd y gwnaethom gefnogi cymunedau trwy ddyddiau tywyllaf COVID-19, gallwch ddisgwyl i ni fod yn hyblyg ac ymatebol. Bydd ein dull yn cael ei arwain gan bedair egwyddor:
- Bydd ein cyllid yn parhau i fod ar gael ac yn agored – mae ein holl bortffolios ariannu ar agor i geisiadau newydd, boed yn rhai newydd ai peidio. Rydym yn disgwyl ymrwymo dros £75 miliwn i gefnogi cymunedau gyda chostau byw drwy gydol y flwyddyn nesaf, gan ystyried ymrwymiadau hyd heddiw a mwy o hyblygrwydd wrth gynnig grantiau.
- Byddwn ni’n hyblyg ac yn addasadwy – gwyddom, gan gynnwys o brofiad yn ystod Covid-19, mai un o’r pethau pwysicaf y gallwn eu cynnig fel cyllidwr yw hyblygrwydd ac ystwythder o ran ein dull cynnig grantiau. Rydym bellach wedi gwneud newidiadau i alluogi mwy o amrywiad ac addasiadau i adlewyrchu pwysau costau byw ac yn Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon byddwn ni’n agor i sefydliadau sy’n ymgeisio am grantiau Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol ychwanegol eleni – gwerth hyd at £20,000 yn gyfangwbl. Byddwn ni’n eich diweddaru am yr argaeledd yn Lloegr yn fuan.
- Mae ein hymrwymiad i bobl a chymunedau yn parhau i fod yn gyson – fel y gwnaethom nodi yn ein Hymrwymiadau Rhoi Cymunedau’n Gyntaf y llynedd, byddwn ni’n cydbwyso ymateb nawr a llywio’r dyfodol. Mae’r galw am gyllid yn parhau i fod yn uchel, ac er na allwn ni ariannu pob prosiect, bydd ein cyllid yn parhau i gael ei arwain gan gymunedau a lle y gall ein cyllid wneud y gwahaniaeth mwyaf ar y cyd ag eraill.
- Byddwn ni’n gweithio gydag eraill i ddefnyddio gwybodaeth, mewnwelediad, a rhagwelediad – dros y cyfnod o’n blaenau, byddwn ni’n gwrando ac yn defnyddio ein data a mewnwelediad cynnig grantiau i’n helpu ni– ac eraill – i adeiladu darlun o’r hyn sy’n digwydd. Byddwn ni’n cynnig hyn er mwyn helpu dylanwadu a llywio ein dull ni ac eraill.
Mae’r sefyllfa rydym yn ymateb iddi’n fyw ac yn datblygu – gallwch fod yn hyderus y bydd ein dull yn cael ei adolygu’n gyson, fel bod ein cefnogaeth yn parhau i fod yn addas ar gyfer eich anghenion, gan eich galluogi i barhau i ddarparu eich gwaith ac ymdrechion gwerthfawr i’ch cymunedau.
Mae’n bwysig dweud hefyd fod yr argyfwng costau byw’n thema gyffredin mewn nifer o sgyrsiau a digwyddiadau gwrando rydym yn cymryd rhan ynddynt ar gyfer ein Hadnewyddiad Strategol. Dechreuodd y broses yn gynt eleni ac fe fydd hi’n helpu llywio sut all Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol gefnogi cymunedau orau nawr hyd at 2030.
Dechreuom y broses hon drwy ofyn i chi a’n rhanddeiliaid i’n helpu i ddeall yr heriau a’r cyfleoedd yr ydych chi’n eu hwynebu, eich dyheadau a gobeithion, a’r ffyrdd y gallwn gefnogi cymunedau orau yn y dyfodol.
Ers i ni lansio’r broses hon, rydym wedi ymgysylltu â bron i 2,000 o gymunedau a sefydliadau cymdeithas sifil ledled y DU, lle’r ydym wedi edrych yn benodol ar ein strategaeth ar gyfer y dyfodol. Rydych wedi rhannu eich syniadau, profiadau a mewnwelediadau ac rydym yn hynod ddiolchgar am eich mewnbwn.
Os hoffech chi wybod mwy am ein cynnydd, dyma rai adlewyrchiadau ar yr hyn rydym wedi’i glywed hyd yn hyn.
Nid yw’n rhy hwyr i chi gymryd rhan chwaith. Cadwch lygad ar ein tudalen Rhoi Cymunedau'n Gyntaf i gael diweddariadau pellach, gan gynnwys digwyddiadau ar-lein a manylion am sut allwch chi leisio eich barn ar ein fforwm ar-lein.