How is mental health affecting young people accessing the labour market and quality work?
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw ariannwr anstatudol arweiniol cyfleoedd i bobl ifanc. Mae hyn yn golygu bod cyfoeth o fewnwelediad a dysgu gennym o’n rhaglenni sydd wedi canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc gyda’u hiechyd meddwl a’u taith cyflogaeth.
Ein hamcan yw rhannu ein mewnwelediad a dysgu ac fel rhan o’r wythnos ddiwethaf, gwnaethom ymateb i Ymchwiliad APPG at Gyflogaeth Ieuenctid: Sut mae iechyd meddwl yn effeithio ar bobl ifanc yn cael mynediad at y farchnad lafur a gwaith o ansawdd uchel?
Yn ein hymateb, gwnaethom ganolbwyntio ar dair o’n rhaglenni ariannu strategol ar raddfa fawr, dros sawl blwyddyn, sydd wedi cefnogi pobl ifanc yn Lloegr: HeadStart, Building Better Opportunities a Talent Match.
Beth rydym wedi’i ddysgu am iechyd meddwl a chyflogaeth pobl ifanc?
Mae ein gwaith mewnwelediad a gwerthuso’n awgrymu nad yw iechyd meddwl gwael ymysg pobl ifanc yn effeithio’n niweidiol ar eu mynediad at y farchnad lafur a’u gallu i ddod o hyd i waith o ansawdd uchel. O gychwyn cyntaf ein rhaglenni cyflogaeth, mae problemau iechyd meddwl wedi cael eu nodi fel rhwystr i gyflogaeth ac roedd mesurau ychwanegol yn ofynnol i gefnogi anghenion y cyfranogwyr.
Er enghraifft, yn y rhaglen Building Better Opportunities (BBO), gwnaeth gwerthusiadau cynnar nodi anghenion iechyd meddwl ymysg cyfranogwyr. Mynegodd ymatebwyr i’r arolwg yn 2021 sut oedd eu hiechyd meddwl wedi gweithredu fel rhwystr i waith. Er nad oedd ein harolwg yn gofyn yn benodol a oedd iechyd meddwl yn her i gyfranogwyr, dywedodd bron i chwarter (23%, neu 59 o ymatebwyr) wrthym am eu hiechyd meddwl heb gael eu hysgogi i wneud hynny, gan nodi graddfa’r her a wynebir gan y rhai hynny sy’n ymgysylltu â BBO i wella cyflogadwyedd.
Pa effaith y mae ein rhaglenni wedi’i chael?
Heb ymyrraeth gynnar yn ystod plentyndod neu’r glasoed, mae tebygolrwydd problemau iechyd fel oedolyn yn cynyddu’n sylweddol.1 Felly, un o nodau HeadStart oedd codi ymwybyddiaeth ymysg oedolion sy’n gweithio gyda phobl ifanc. Helpodd y rhaglen ofalwyr, rhieni, gwarcheidwaid ac oedolion allweddol eraill i fod yn ymwybodol o’r ffactorau, ysgogiadau ac arwyddion cyfrannol o ran iechyd meddwl ieuenctid a rhoi’r dulliau a’r wybodaeth iddynt i helpu ymyrryd a chefnogi’r unigolyn dan sylw. Er enghraifft, cynhyrchodd HeadStart Wolverhampton becyn lles i ysgolion sydd wedi cael ei ardystio gan y PSHE Association. Fel yr eglurodd un athro a oedd ynghlwm â HeadStart, “Cyn yr hyfforddiant, ni fyddai gennyf yr hyder i fynd at berson ifanc oedd yn amlwg yn cael trafferth, ond oherwydd fy mod wedi derbyn yr hyfforddiant, teimlais yn hyderus a llifodd y sgwrs yn naturiol iawn. Yr hyfforddiant wnaeth y gwahaniaeth.”2
Mae cefnogaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn thema allweddol yn y rhaglen BBO. Dywedodd un cyfranogwr wrthym eu bod wedi cymryd rhan mewn rhaglenni cyflogaeth eraill ond nad oedd yr ymyriadau’n ystyried eu heriau unigol. O ganlyniad, cawsant drafferth i symud i’r byd gwaith cyn ymuno â BBO – disgrifiodd y cyfranogwr y teimlad bod y gweithiwr allweddol BBO yn poeni amdanynt, a bod hynny wedi gwneud gwir gwahaniaeth. Yn wir, nododd y cyfranogwyr a oedd yn profi rhwystrau iechyd meddwl i weithio bwysigrwydd rôl y gweithiwr allweddol; nodwyd mai cael rhywun i siarad â nhw oedd y peth mwyaf defnyddiol am y gefnogaeth a dderbyniwyd ganddynt.
Mae’r gefnogaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a gynigir gan brosiectau BBO yn gwella cyfleoedd cyflogaeth miloedd o bobl ifanc. Ym mis Medi 2021, roedd 117,960 o gyfranogwyr wedi gadael y rhaglen, gyda 42,466 (36%) ohonynt wedi mentro i’r byd gwaith a 37,747 (32%) ohonynt wedi symud i addysg neu hyfforddiant. Yn ogystal, mae prosiectau BBO wedi monitro lles a hyder ymysg cyfranogwyr. Ym mis Mawrth 2021, roedd 74% ohonynt wedi adrodd mwy o hyder, cymhelliant a hunan-barch, gyda llai o ynysrwydd cymdeithasol.
Gwnaeth Talent Match gydnabod bod angen gwahanol lefelau o gefnogaeth ar wahanol bobl i gael cyflogaeth. Canolbwyntiodd y rhaglen ar helpu pobl ifanc a oedd wedi bod yn ddi-waith yn yr hirdymor ac wedi wynebu rhwystrau arwyddocaol a niferus i gyflogaeth, fel iechyd meddwl, er mwyn dod o hyd i gyfleoedd gyrfa. Erbyn mis Mawrth 2021, roedd bron i 12,000 (46%) o bobl ifanc wedi cael rhyw fath o swydd, gan gynnwys bron 4,500 (17%) a gafodd cyflogaeth barhaus neu hunangyflogaeth.
Yn ogystal â helpu pobl ifanc i ddod o hyd i waith, rhoddodd bartneriaethau Talent Match y sgiliau a’r gwytnwch oedd eu hangen ar unigolion i lywio gyrfa foddhaus. Roedd lles cyfranogwyr Talent Match i raddau helaeth yn waeth na lles y boblogaeth gyffredinol, ond caeodd y blwch hwn i’r rhan fwyaf o gyfranogwyr yn ystod eu hymgysylltiad gyda Talent Match. Roedd y rhan fwyaf ohonynt wedi adrodd mwy o foddhad yn eu bywyd: 70% o’r rhai hynny a ddaeth o hyd i swydd, a hefyd 60% o’r rhai hynny na wnaeth ddod o hyd i swydd. Datgelodd cyfweliadau gyda phobl ifanc bod rhai’n ystyried gwella eu lles fel eu prif flaenoriaeth. Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd natur integredig Talent Match, a oedd yn darparu cefnogaeth nad oedd yn berthnasol i’r gwaith - gan gynnwys datblygiad personol, gweithgareddau cymdeithasol a chymheiriaid, a chwnsela - ynghyd â chefnogaeth sy’n ymwneud â chyflogaeth. Canolbwyntiodd Talent Match ar y daith i gyflogaeth ac mae’r gwerthusiad terfynol yn dangos bod nifer sylweddol o bobl ifanc na wnaethant ddod o hyd i swydd yn fwy ‘parod i’r gwaith’ ar ôl cymryd rhan yn Talent Match.
Beth ydym wedi’i ddysgu o’n rhaglenni?
Yn seiliedig ar y dysgu o’r rhaglenni hyn, rydym wedi nodi bod y canlynol yn bwysig wrth gefnogi pobl ifanc i wella eu hiechyd meddwl a’u cyflogadwyedd:
- Cefnogaeth sy’n canolbwyntio nid yn unig ar atal neu drin problemau iechyd meddwl, ond hefyd ar wella lles pobl ifanc.
- Cyllid hirdymor gyda’r gallu i gadw’r cyfranogwr yn y rhaglen am gyhyd ag y bo angen cefnogaeth arnynt.
- Dull cyfannol i ddarpariaeth prosiect sy’n gallu cefnogi holl anghenion unigolyn.
- Cefnogaeth hyblyg sy’n gallu newid ac addasu wrth i anghenion newydd godi. Dylai gael ei theilwra i’r unigolyn – nid yw’r un peth yn addas i bawb.
- Dull gweithiwr allweddol – person dibynadwy i gyfranogwyr ymddiried ynddynt.
Partneriaethau gyda sefydliadau Gwirfoddol, Cymunedol a Mentrau Cymdeithasol gyda chysylltiad â chymunedau oherwydd maen nhw’n ddibynadwy ac yn cael eu hystyried fel mannau diogel.
1 Romeo, R., Knapp, M. a Scott, S. (2006), Cost economaidd ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol ymysg plant - a phwy sy'n ei dalu (Saesneg yn unig)
2 Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (2019), HeadStart: Meithrin gwytnwch pobl ifanc i gefnogi eu lles meddyliol ac emosiynol (Saesneg yn unig)