Dathlu achlysuron cenedlaethol allweddol 2023 gyda chyllid y Loteri Genedlaethol
Fel cyllidwr gweithgarwch cymunedol mwyaf y DU, mae gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol rôl hanfodol i’w chwarae wrth gefnogi cymunedau i ddod ynghyd a rhyddhau eu hegni a’u potensial. Y llynedd, gwnaethom ddyfarnu dros £579 miliwn o gyllid ledled y DU i brosiectau cymunedol anhygoel sy’n gweithio’n galed i wella bywydau mewn sawl ffordd a chefnogi pobl i ffynnu.
Un peth sydd gan ein holl brosiectau mewn cyffredin (heblaw am gyllid diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol) yw eu bod yn dod â phobl ynghyd.
Mae ein tystiolaeth yn dangos bod dathlu a dod â chymunedau ynghyd yn cryfhau balchder mewn lle ac yn cysylltu pobl â lle maen nhw’n byw, gan gynyddu ymdeimlad o berthyn a hunaniaeth o ran lle. Mewn blwyddyn arferol, mae 42% o’n deiliaid grant yn adrodd fod gan bobl mwy o falchder lleol ac ymdeimlad o berthyn oherwydd y gwasanaethau neu’r gweithgareddau yr ydym yn eu cefnogi i ddarparu.
Rydym wrth ein boddau eleni bod tri achlysur allweddol sy’n rhoi cyfle gwych i bobl a chymunedau yn y DU i ddod ynghyd a dathlu.
Edrychwn ymlaen at groesawu ceisiadau Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol ar gyfer gweithgareddau cymunedol i ddathlu Coroni’r Brenin ym mis Mai a Phenblwydd Windrush yn 75 oed ym mis Mehefin i gydnabod y cyfraniad enfawr y mae cenhedlaeth Windrush a’u teuluoedd wedi’i wneud i’r DU.
Rydym hefyd yn chwilio am geisiadau sy’n bwriadu cefnogi cymuned Wcráin yma yn y DU, gan gydnabod yr heriau a wynebir ganddynt ac adlewyrchu ar y ffaith fod y DU yn cynnal Eurovision ar ran Wcráin eleni.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi ariannu amrywiaeth o brosiectau’n cynnig cymorth ymarferol ac ariannol i ffoaduriaid o Wcráin sydd wedi ymgartrefu yma o ganlyniad uniongyrchol i’r rhyfel. Yn ystod y cyfnod sy’n arwain at Eurovision, croesawn geisiadau sy’n gweld y gystadleuaeth fel cyfle i fagu perthnasoedd cryf mewn cymunedau ac ar eu traws.
Gwyddom fod adegau fel hyn yn gallu rhoi pwynt ffocws i gymunedau ac rydym yn gobeithio y bydd nifer o sefydliadau yn ystyried ymgeisio am gyllid.
Am beth allwch chi ymgeisio?
Byddem yn croesawu ceisiadau’n benodol i raglen Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol. Mae’r rhaglen hon yn ariannu sefydliadau gwirfoddol a chymunedol gyda grantiau rhwng £300 a £10,000 trwy broses ymgeisio amlbwrpas. Er enghraifft, gallai sefydliadau ystyried defnyddio Eurovision fel cyfle i ddathlu a magu perthnasoedd cryf mewn cymunedau sydd wedi croesawu pobl o Wcráin.
Yn ein hadroddiad diweddar Grantiau Bach, Effaith Fawr,
gwnaethom ddadansoddi cyrhaeddiad ac effaith ein grantiau lleiaf, sef y ffordd fwyaf effeithiol sydd gennym o gefnogi’r bobl a’r sefydliadau sydd wrth wraidd y gweithgarwch ar lawr gwlad yn ein cymunedau. Rydym yn dyfarnu dros 12,000 o grantiau bob blwyddyn, gan gyrraedd pob etholaeth a chymuned yn y DU, ac mae dros wyth mewn deg (84%) ohonynt ar gyfer swm o dan £10,000.
Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol a Jiwbilî Platinwm y diweddar Frenhines
Fel cyllidwr, ar sawl adeg rydym wedi darparu cyllid Loteri Genedlaethol i gymunedau nodi adegau o bwysigrwydd cenedlaethol. Yn fwyaf diweddar, yn 2022 dyfarnwyd grantiau gan y Gronfa i gefnogi Jiwbilî Platinwm y diweddar Frenhines a dathlu ei theyrnasiad 70 mlynedd.
Mae enghreifftiau o brosiectau a ariannwyd gan grantiau llai yn ystod y Jiwbilî Platinwm yn cynnwys prosiect rhwng cenedlaethau am gyfnod o chwe mis yn Rotherham, lle cynhaliwyd gweithgareddau wythnosol mewn caffi cymunedol newydd i ddod â phobl iau ynghyd â thrigolion hŷn ynysig.
Yng Nghaerlŷr, roedd prosiect lleol yn cofio am genhedlaeth Windrush trwy gynnal sesiynau coginio i ddathlu bwyd Caribïaidd a Phrydeinig a darparu parseli bwyd i gefnogi teuluoedd sy’n cael trafferth a magu perthnasoedd cryfach. Yn Sunderland, cynhaliwyd Gŵyl Pride rhwng cenedlaethau gan sefydliad cymunedol lleol.
Yn gyfangwbl, dyfarnwyd dros £11 miliwn i gymunedau yn 2022 i helpu pobl ar draws y wlad i ddod ynghyd a dathlu.
Cynyddu balchder mewn lle ar draws cymunedau
Roedd polisi’r llywodraeth yn cynnig rhaglen bolisi o 12 nod i gynyddu twf economaidd a chyfleoedd trwy fynd i’r afael ag anghydraddoldebau daearyddol. Un o’r 12 nod i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn oedd cynyddu balchder mewn lle ym mhob ardal o’r DU erbyn 2030.
Roedd ein hadroddiad diweddar O gymdogion i gymdogaeth yn rhannu dysgu’r Gronfa am sut allai cynyddu balchder mewn lle weithio’n ymarferol, boed gan awdurdodau lleol unigol, cymunedau neu wneuthurwyr polisi. Trwy astudiaethau achos, mae’r adroddiad yn dangos sut y mae cefnogi lleoliadau cymunedol i ffynnu a harneisio diwylliant i ddod â phobl ynghyd, er enghraifft, yn gallu atgyfnerthu balchder mewn lle.
Mae dathlu adegau cenedlaethol gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol yn gyfle gwych i wneud hynny – gallwch ddod o hyd i enghreifftiau eraill o’n dysgu o grantiau perthnasol yma.