Beth rydym wedi’i ddysgu pan mae’n dod i ysgogi oedolion ifanc i wirfoddoli
Mhairi Holland, Policy Manager
Mae gwirfoddolwyr yn allweddol o fewn y sector gymunedol a gwirfoddol (VCS), ac oni bai amdanynt, ni fyddai nifer o’r gwaith y mae elusenau a grwpiau cymunedol yn ei wneud yn bosib. Yn newyddion positif i’r sector, mae arolwg diweddar yn nodi bod mwy o oedolion ifanc yn cynllunio i wirfoddoli.
Mae mynegai ymchwil y Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn arolwg blynyddol o dros 8,000 o oedolion ar draws y DU, ac wedi’i gynllunio i ddarganfod sut mae pobl yn teimlo am eu cymunedau. Dangosodd yr arolwg diweddaraf bod bron hanner ohonynt (49%) yn bwriadu gwirfoddoli yn 2023, ac mae oedolion ifanc yn arwain y ffordd yn eu hymdrechion meddyliol cymunedol, gyda saith ym mhob 10 (69%) o bobl 18-24 mlwydd oed yn bwriadu gwirfoddoli y flwyddyn yma.
Darganfuwyd darn bledleisiol arall, a gomisiynodd gan Pro Bono Economics, fod un ym mhob chwech o bobl 18-34 mlwydd oed yn cynllunio i gychwyn gwirfoddoli yn 2023, a olygir gall elusennau wel hyd at 2.5 miliwn o wirfoddolwyr newydd yn rhoi ychydig o’u hamser.1
Mae gan sefydliadau gwirfoddol ac elusennau ar y cyd efo cymunedau gyfleoedd hyfryd eleni i gyfalafu ar y bwriadau positif a symud oedolion ifanc i wirfoddoli. Ers mis Tachwedd 2021, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi ariannu 4,865 o brosiectau gwirfoddol ar gyfer pobl ifanc. Wrth edrych yn ôl ar yr hyn rydym wedi’i ddysgu, dyma rhai o’r ystyriaethau allweddol sydd ei angen wrth symud oedolion ifanc gwirfoddol.
Pwysleisio manteision gwirfoddoli.
Gall gwirfoddoli gynyddu hyder a sgiliau oedolion ifanc, a’u paratoi at eu gyrfa yn y dyfodol, a rhoi’r synnwyr iddynt o bwrpas a chysylltiad. Er enghraifft – drwy ein rhaglen ariannu Ein Dyfodol Disglair - Rhaglen arweinydd amgylcheddol gan UpRising, mae cyfle i oedolion ifanc rhwng 18-24 mlwydd oed i gael eu hyfforddi a mentora i fod yn arweinyddion gwyrdd, wedi i’r cyfranogwyr wirfoddoli ar ymgyrch o’u dewis.
Mae dros 3,000 o wirfoddolwyr ifanc yn gysylltiedig â 62 o ymgyrchoedd y rhaglen, ac mewn trafodaethau o dan themâu megis delwedd y corff, iechyd meddwl a chefnogi cyn-droseddwyr. Yn syml, mae arolwg yn dangos effaith y mae’r rhaglen wedi’i gael ar gyfranogwyr. Ar draws y rhaglen, adroddwyd gwelliant o 14% mewn hyder, 28% mewn cynyddu gwybodaeth, a 43% cynnydd mewn sgiliau. Adroddwyd un ym mhob 5 eu bod yn teimlo cynnydd mewn lles.
Dywedodd Agathe Dijoud, un o’r cyfranogwyr bod, ‘UpRising wedi fy herio i, fy ngwthio allan o fy mharth cyfforddus, ond mae hwn wedi fy helpu yn arbennig i gynyddu fy hyder mewn nifer o ardaloedd. Yn ogystal, ennill sgiliau a ellir fy helpu yn fy ngyrfa yn y dyfodol’. 2
Mae gan bob oedolyn ifanc gymhelliant gwahanol dros gymryd rhan, gan bwysleisio’r holl fanteision sydd drwy gymryd rhan drwy ymgysylltu.
Mynediad at gyfleoedd.
Nid holl oedolion ifanc sydd gyda’r un mynediad at gyfleoedd gwirfoddol. Dylai elusennau ystyried y bariau posib sydd, a gweld os gallant gael eu gwaredu. Er enghraifft, meddyliwch am yr anghenion arbenigol sydd gan ofalwyr a phobl ag anableddau. Edrychwch ar yr oedolion ifanc mewn ardaloedd gwledig sydd yn aml yn cael eu rhoi o’r neilltu, a meddwl am le a phryd mae sesiynau yn rhedeg a sut gellir eu gwneud yn hygyrch. Meddyliwch os yw gwaharddiad digidol yn rhwystro oedolion ifanc rhag cael mynediad at gyfleoedd a theilwra eich ymgysylltiad.
Rheolaeth gwirfoddol.
Dim bwys faint o wirfoddolwyr sydd gan sefydliad – boed yn 2 neu 200 – mae rheolaeth wirfoddol dda yn allweddol i gynnal gwasanaeth safonol sydd yn galluogi gwirfoddolwyr i ffynnu. Mae ein harian yn cefnogi sefydliadau i reoli eu gwirfoddolwyr yn well. Mae hyn yn cynnwys llogi cydlynydd gwirfoddol, darparu hyfforddiant neu gynnwys y gwirfoddolwyr mewn gwneud penderfyniad.
Mae Assist Sheffield yn cefnogi dros 140 o ffoaduriaid a cheiswyr lloches bob blwyddyn. Mae Assist eisiau gwella’r rheolaeth a’r gefnogaeth o 300 o wirfoddolwyr, sydd yn gwneud y gwasanaeth gofleidio yma’n bosib. Gyda pheth arian gan y Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, maent wedi creu rôl newydd, Rheolwr Cefnogaeth i Glieintiaid, rôl sydd yn galluogi nhw i ailstrwythuro sut mae eu gwirfoddolwyr a staff yn gweithio gyda’i gilydd, yn ogystal â gwella’r gefnogaeth, a’r hyfforddiant mae’r gwirfoddolwyr yn ei dderbyn. Mae hyn yn lleihau’r trosiant gwirfoddol, gan eu bod yn teimlo’n fwy cyflawn yn eu rolau.
Mae polisi diogelu ac ymarferion diwylliant diogel hefyd yn elfen bwysig o reolaeth wirfoddol. Mae’r Gronfa Hyfforddiant Diogelu yn rhaglen ariannu ar y cyd yn Lloegr sydd wedi’i datblygu gennym, a’r adran Ddigidol, Ddiwylliannol, Cyfryngau a Chwaraeon (DDCC). Mae wedi’i weld fel ‘Partneriaeth Sector Gymdeithasol Saffach’ – wedi’i arwain gan y Cyngor Cenedlaethol i Sefydliadau Gwirfoddol, crëwyd a lansiwyd casgliad o adnoddau ar-lein, rhad ac am ddim i helpu elusennau i wella eu polisi diogelu ac ymarferion diwylliant diogel. Mae’r adnoddau hyn yn addas ar gyfer holl elusennau, yn fach neu’n fawr, ac maent ar gael yma.
Mae rheolaeth wirfoddol dda yn golygu bod elusennau yn gallu gwireddu eu dyletswyddau gofal i’w gwirfoddolwyr, gan wneud yn siŵr nad ydynt yn gor-weitho neu yn delio gyda sefyllfaoedd nad ydynt yn hapus neu’n gyfforddus gydag. Gall hyn helpu i osgoi straen a phryder, ac mae’n golygu gall gwirfoddolwyr barhau yn hwyl a chyflawn.
Sut mae oedolion ifanc yn clywed am eich cyfleoedd?
- Hysbysebu – gwnewch yn siŵr eich bod yn hysbysebu ble mae oedolion ifanc. Er enghraifft, ar y cyfryngau cymdeithasol, mewn colegau a phrifysgolion.
- Modelau Rôl – meddyliwch am arddangos oedolion ifanc yn lleol, a drwy raglenni gwirfoddol blaenorol.
- Cynnal sesiynau byw, neu gwebinar cyn y rhaglenni, fel bod oedolion ifanc yn deall beth yw’r cyfleoedd sydd ar gael drwy wirfoddoli.
Sut ydych chi’n siarad am eich cyfleoedd?
- Crëwch gynnwys a rhannu storiâu llwyddiannus – rhannwch beth yw gwirfoddoli mewn fideo, sy’n cynnwys oedolion ifanc, gan gynnwys llwyddiannau o’r gorffennol sydd yn dangos beth sydd yn bosib.
- Ysbrydoli – defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol i rannu eich cynnwys o’r gwaith arbennig sydd yn cael ei gwneud gan gynnwys lluniau, fideos a ffeithlyniau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymchwilio i ba blatfform sydd yn fwyaf poblogaidd gydag eich cynulleidfa darged.
Darllen pellach
Rydym bellach wedi creu
nifer o adroddiadau a gwerthusiadau ble mae modd dysgu mwy am Wirfoddoli Ieuenctid, y manteision sydd wrth wirfoddoli, ac ysgogi gwirfoddolwyr. Gweler yr isod;
Power in purpose - The difference we make in mobilising volunteers (tnlcommunityfund.org.uk)
Power of youth volunteering (tnlcommunityfund.org.uk)
Top tips - how to make youth social action more accessible (tnlcommunityfund.org.uk)
Our-Bright-Future-_-UpRising-Project-Evaluation-Report.pdf (tnlcommunityfund.org.uk)
Our-Bright-Future-Final-Evaluation-Report_FINAL.pdf (tnlcommunityfund.org.uk)