“Pobl ifanc yw’r dyfodol ac mae ganddynt y pŵer i greu newid enfawr”
Kianna Leader, Swyddog Llais Ieuenctid
Fel cyllidwr anstatudol mwyaf plant a phobl ifanc yn y DU, rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu cynnwys yn ein holl waith. Kianna Leader sy’n helpu hynny i ddigwydd, Swyddog Llais Ieuenctid yma yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Yn y blog hwn, mae’n rhannu sut mae’n helpu grymuso pobl ifanc wrth ddatblygu sgiliau a phrofiad ei hun o fewn y sector.
Dechreuodd fy nhaith yn y sector pan oeddwn i’n gweithio ar fenter Cenhedloedd Unedig i wneud Leeds y ddinas cyfeillgar-i-fenywod cyntaf yn y DU trwy sefydliad o’r enw Getaway Girls. Roedd y rôl yn chwerth chweil tu hwnt oherwydd roeddwn i’n helpu gwneud fy ninas yn fwy teg. Un o’r uchafbwyntiau i mi a’r tîm oedd helpu sefydlu canolfannau brechu menywod yn unig a chyfweld â’r AS Dawn Butler. Yn 2020, cefais fy recriwtio gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i fod yn un o 10 o bobl ifanc, i gyd o brosiectau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, a fyddai’n helpu ffurfio panel ymgynghori ieuenctid o’r enw Pobl Ifanc yn Arwain.
Pobl Ifanc yn Arwain
Bwriad Pobl Ifanc yn Arwain oedd creu newid arwyddocaol a chadarnhaol mewn cymunedau trwy gynnwys llais ieuenctid yn ein grantiau ac agweddau eraill o’r sefydliad. Cefais y profiad gorau. Roeddwn i wrth fy modd yn rhannu arferion gorau â chyllidwyr eraill, creu pecyn cymorth asesu i fy nghydweithwyr arall, ac yn bwysicach oll, creu cysylltiadau pwysig.
Oherwydd llwyddiant Pobl Ifanc yn Arwain, cafodd Timau Llais Ieuenctid eu creu yn 2021 yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon. Cefais y cyfle i ddechrau rôl Swyddog Llais Ieuenctid ac roedd hyn yn gyfle i barhau i helpu lleisiau a safbwyntiau pobl ifanc i gael eu clywed. Yn y rôl hon, rwy’n gyfrifol am sicrhau bod holl aelodau ein Timau Llais Ieuenctid yn cael profiad gwych llawn hyfforddiant, rhwydweithio a nifer o gyfleoedd datblygu.
Mae’n bwysig i mi greu perthynas cydfuddiannol rhwng y swyddogaethau eraill yma a’r Timau Llais Ieuenctid. Hoffwn i weddill Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, megis y timau ariannu, strategaeth, gwybodaeth a dysgu, allu gweithio gyda Thimau Llais Ieuenctid Cymru i gasglu eu mewnwelediad ar faterion fel hygyrchedd, iechyd meddwl a chyflogaeth. Yn yr un modd, mae fy nghydweithwyr a chymheiriaid yn cael cipolwg ar y sector cynnig grantiau, yn datblygu eu sgiliau ac yn magu cysylltiadau.
Digwyddiadau
Fel Swyddog Llais Ieuenctid, rwyf wedi goruchwylio sawl digwyddiad. Cynhaliwyd un yn ddiweddar yn Birmingham, lle daeth holl Dimau Llais Ieuenctid Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ynghyd â phobl ifanc o gyllidwyr eraill. Prif fwriad y digwyddiad oedd clywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc am yr hyn y gallai’r sector cynnig grantiau ei wneud yn well, gyda syniadau a meddyliau’n cael eu hadrodd yn ôl i helpu llywio ein hadnewyddiad strategol cyfredol.
Roedd brwdfrydedd yr ystafell yn anhygoel. Gwnaethom i gyd glywed gan y gwahanol Dimau Llais Ieuenctid am eu teithiau a’u cyraeddiadau. Y peth gorau oedd nid yn unig eu bod wedi lleisio eu barn ar faterion pwysig, ond roeddent hefyd wedi creu lle i leisiau pobl ifanc eraill gael eu hamlygu.
Y Dyfodol
Rwyf wrth fy modd â fy rôl yn y Tîm Llais Ieuenctid. Rwy’n gyffrous i gyfoethogi profiadau a sgiliau pobl ifanc yn y sector ariannu. Drwy amlygu lleisiau sydd wedi’u tangynrychioli a chreu lle i bobl eirioli dros eu hunain, mae fy angerdd dros wneud newid systemig yn cael ei alluogi ymhellach. Hoffwn barhau i annog ein Timau Llais Ieuenctid i gael llais a chreu cysylltiadau ystyrlon a fydd yn fuddiol i’w dyfodol, yn yr un modd ag y cefais fy annog pan oeddwn i’n aelod o’r rhaglen Pobl Ifanc yn Arwain. Pobl ifanc yw’r dyfodol ac mae ganddynt y pŵer i greu newid enfawr.