Creu effaith gadarnhaol i bobl ifanc yng Nghymru
Fel un o aelodau mwyaf newydd ein Tîm Llais Ieuenctid Cymru, gwnaethom drafod â Tia am sut mae hi’n gobeithio creu effaith gadarnhaol i bobl ifanc yng Nghymru.
Mae Tia-zakura Camilleri yn storïwr, ysgrifennwr ac yn gyfarwyddwr theatr uchelgeisiol. Ei nod yw archwilio croestoriadedd a gwleidyddiaeth ddiwylliannol trwy wahanol ffurfiau celfyddydol. Yn ddiweddar, bu’n cyd-hwyluso gweithdai ysgrifennu geiriau i bobl ifanc fel rhan o’i chysylltiad creadigol â Fio. Mae Tia hefyd yn aelod o Fwrdd Cynghori Ieuenctid Canolfan Mileniwm Cymru a phanel gwrth-hiliaeth Hijinx.
Beth wnaeth dy annog i ymuno â Thîm Llais Ieuenctid Cymru?
“Rwy’n rhan o fwrdd ieuenctid Canolfan y Mileniwm hefyd ac fe wnes i wir fwynhau hysbysu gwahanol agweddau o’r ganolfan a cheisio ei gwneud yn fwy hygyrch i bobl ifanc. Credaf fod lleisiau pobl ifanc yn aml yn cael eu tawelu neu eu hanwybyddu, dyna pam rwy’n hoffi bod yn rhan o bethau lle gallwn godi llais a chael ein clywed.
Pan ddarllenais am y prosiect Meddwl Ymlaen, gwelais eu bod yn rhoi llawer o gyfrifoldeb i bobl ifanc sy’n braf ei weld oherwydd weithiau rydym yn cael ein gadael yn y cefndir pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud. Gyda 10 miliwn yn cael ei roi i bobl ifanc er mwyn iddyn nhw fuddsoddi yn yr hyn roedden nhw’n meddwl oedd yn bwysig ar y pryd.”
Pa themâu (gweithredu hinsawdd, tegwch, iechyd meddwl ac ati) sydd gen ti ddiddordeb i’w harchwilio fel rhan o Dîm Llais Ieuenctid Cymru?
“Y problemau mwyaf rwyf wedi’u hwynebu fel person ifanc yw gwahaniaethu ar sail hil. Dyna pam mae gen i angerdd dros degwch a chynrychiolaeth, sy’n rheswm arall pam roeddwn i eisiau ymuno â Thîm Llais Ieuenctid Cymru. Cyn ymuno, doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd cyfansoddiad y panel a dwi’n meddwl bod cael pobl ifanc o gefndiroedd amrywiol yn hanfodol.
Sut wyt ti’n gobeithio effeithio ar gyllid yn Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fel rhan o Dîm Llais Ieuenctid Cymru?
Rwy'n teimlo bod gennym ni fel pobl ifanc lawer i'w ddweud a hoffwn gyfrannu at wneud penderfyniadau. Yn enwedig os yw rhywun yn ymgeisio am gyllid ar gyfer prosiect i bobl ifanc, rwy’n teimlo y dylem fod yn rhan o’r penderfyniad hwnnw oherwydd rydym ni’n gwybod beth sydd orau ar gyfer ein hunain. Mae gennyf ddiddordeb mawr hefyd mewn grantiau bach oherwydd mae cyflwyno cais am gyllid yn gallu bod mor frawychus, os nad ydych erioed wedi cael eich dysgu sut i wneud cais, neu nad ydych erioed wedi cael eich meithrin yn y broses, felly efallai nad oes gennych chi’r profiad hwnnw. Felly mater o gael gwared ar y rhwystrau hynny ydyw er mwyn sicrhau bod pobl, yn enwedig pobl ifanc o gefndiroedd ymylol, yn teimlo y gallant gyflwyno cais. Hoffwn i wneud y broses yn hygyrch i bawb.