Windrush 75: awgrymiadau ar gyfer eich cais Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol
Dyma Katie Ayre, Swyddog Ariannu, yn rhannu awgrymiadau da ar sut i gryfhau eich cais Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau Windrush 75.
Mae pen-blwydd Windrush yn 75 oed eleni yn adeg i ddathlu, coffáu ac adlewyrchu ar yr etifeddiaeth anhygoel a grëwyd gan ymdrechion arloeswyr Windrush. Mae’n gyfle gwych i ddod â phobl ynghyd, a hoffem ni yma yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol eich helpu chi a’ch cymuned i elwa ohono.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae grantiau hyd at £10,000 ar gael drwy gydol y flwyddyn ar gyfer digwyddiadau a arweinir gan y gymuned a gweithgareddau a gynlluniwyd i goffáu’r achlysur hanesyddol hwn.
Adnoddau o glinigau ceisiadau ariannu Windrush 75
Drwy gydol mis Chwefror, cynhaliwyd cyfres o weithdai cynghori i gefnogi grwpiau gyda'u ceisiadau ariannu Windrush 75. Ynghyd â rhai o fy nghydweithwyr ariannu, siaradom am ein meini prawf cymhwysedd, ar beth y gellir gwario ein grantiau, a’r hyn yr ydym yn chwilio amdano mewn cais.
Peidiwch â phoeni os wnaethoch chi eu colli – rydym ni’n dal i fod yma i helpu. Darllenwch ein sleidiau PowerPoint o’r clinigau ceisiadau ariannu i ddysgu rhagor am ymgeisio i raglen Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol.
Cwestiynau a ofynnir yn aml
Rhoddodd y gweithdai’r cyfle hefyd i ddarpar-ymgeiswyr Windrush 75 i ofyn cwestiynau. Rydym wedi casglu’r cwestiynau a ofynnir yn aml ynghyd â’n hatebion – darllenwch y ddogfen ac efallai bydd eich cwestiwn wedi cael ei ateb!
Barod i gyflwyno cais?
Ewch i'ch tudalen we Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol lleol i ddysgu rhagor: Lloegr, Cymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon. Cyn gwneud cais, darllenwch ein canllaw byr a fydd yn eich helpu i osgoi rhai camgymeriadau cyffredin.
Chwilio am ragor o gefnogaeth?
Mae croeso mawr i chi ffonio ein Tîm Cyngor am gymorth ar 0345 4 10 20 30.
Rydym yn bwriadu cynnal cyfres arall o glinigau ceisiadau ariannu Windrush 75 yn nes ymlaen eleni. Byddwn ni’n cyhoeddi’r rhain ar ein tudalen Ticketsource unwaith y bydd y dyddiadau wedi’u cadarnhau.
Helpwch ni i rannu’r neges a rhowch wybod i grwpiau eraill y gallai fod ganddynt ddiddordeb yn y cyllid hwn.