Windrush 75: sut i gryfhau eich cais am grant Carnifal
Dyma Jo Sanders, Rheolwr Ariannu, yn rhannu cyngor ar sut i gryfhau eich cais Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau’r Carnifal.
Mae penblwydd Windrush yn 75 oed eleni yn adeg i ddathlu ac adlewyrchu ar yr etifeddiaeth anhygoel a grëwyd gan ymdrechion arloeswyr Windrush. Mae’n gyfle gwych i ddod â phobl ynghyd, ac rydym ni yma yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol eisiau eich helpu chi a’ch cymuned i fanteisio arno i’r eithaf.
Rydym yn deall y bydd rhai cymunedau yn coffáu’r achlysur tyngedfennol hwn fel rhan o ddathliadau eu Carnifal ac mae hyn yn rhywbeth y gallai ein cyllid ei gefnogi.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae grantiau hyd at £10,000 ar gael ar gyfer digwyddiadau untro fel Carnifalau, gwyliau a diwrnodau dathlu. Ond yn aml dyma rai o’r ceisiadau a welwn yma yn nhîm Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol nad ydynt yn llwyddo. Mae hyn yn aml oherwydd bod y ceisiadau yn methu â dweud wrthym yn glir sut maen nhw’n bodloni ein nodau.
Ond peidiwch â phoeni - rydyn ni yma i'ch helpu chi! Gyda hynny mewn golwg, dyma fy mhedwar awgrym ar gyfer cais carnifal Windrush 75.
- Dywedwch wrthym sut mae eich cymuned wedi bod yn rhan o benderfynu y dylid coffáu Windrush 75 fel rhan o'ch Carnifal a sut y byddant yn ymwneud â chynllunio a chynnal y digwyddiad.
Gall y wybodaeth hon ddod o gyfarfodydd cymunedol, polau ar-lein, trafodaethau ar y cyfryngau cymdeithasol, neu cael aelodau’r gymuned ar eich bwrdd, fel ymddiriedolwyr neu wirfoddolwyr.
Mae ceisiadau yn aml yn cymryd yn ganiataol y byddwn yn gwybod hyn yn barod, ond dim ond trwy ddarllen y wybodaeth a roddwch i ni y gallwn asesu eich cais felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud hyn wrthym yn glir. - Dangoswch i ni fod eich digwyddiad yn fwy na ‘dim ond’ dathliad. Mae llawer o geisiadau’n aflwyddiannus oherwydd mae’n ymddangos eu bod yn ddigwyddiad ‘untro’ sy’n fuddiol am gyfnod byr iawn yn unig. Mae angen i ni weld y gwahaniaeth mwy hirdymor y mae eich digwyddiad yn ei wneud i'r gymuned wrth iddi ddathlu Windrush 75.
Gallai hyn fod trwy gysylltu pobl na fyddent yn cyfarfod â’i gilydd fel arall. Gallai fod trwy ddarparu gweithgareddau sy'n dod â phobl o wahanol oedrannau, cefndiroedd a diwylliannau ynghyd. Gallai fod trwy fynd i’r afael ag ynysrwydd neu unigrwydd. Gallai fod yn llawer o bethau, ond rydym yn disgwyl i gymunedau fod yn fwy cysylltiedig o ganlyniad, y tu hwnt i’r diwrnod ei hun. Dylai eich cais ddweud wrthym yn glir sut mae'n bodloni o leiaf un o'n nodau. - Peidiwch â chanolbwyntio’n ormodol ar yr ochr ‘gelfyddydol’ yn eich cais. Gwerthfawrogwn fod Carnifalau yn gyfle gwych i arddangos y celfyddyd amrywiol a rhyfeddol o fewn cymunedau ac rydym yn gwerthfawrogi gwerth hyn. Fodd bynnag, mae angen i ni weld sut mae celfyddyd, megis dawns, cerddoriaeth, gorymdeithiau ac arddangosfeydd, yn cael ei ddefnyddio fel cyfrwng i gyflawni ein nodau ac i wneud gwahaniaeth yn y gymuned.
Gallai hyn fod trwy gysylltu pobl i fynegi ac adeiladu ar y gwerthoedd a ymgorfforir gan genhedlaeth Windrush. Gallai fod trwy helpu cysylltu a chefnogi pobl leol sy'n ynysig yn well trwy ymgysylltu â chelfyddyd gymunedol mewn digwyddiad. Gallai fod trwy wella iechyd meddwl pobl trwy ddefnyddio dawns, cerddoriaeth neu weithgareddau diwylliannol sy’n gysylltiedig â chenhedlaeth Windrush. - Defnyddiwch ein gwefan i'ch helpu gyda'ch cais. Rydym yn deall y gall llunio cais fod yn ddiflas a chymryd llawer o amser. Mae ein ffurflen gais yn syml, ond byddwn yn annog pob ymgeisydd i ymweld â’u tudalen we Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol leol a darllen ein cyngor a’n canllawiau yn drylwyr:
Lloegr, Cymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon
Mae’n hawdd hepgor pethau ymysg holl gyffro cyflwyno cais, ond y cymwysiadau cryfaf yw'r rhai sydd wedi darllen popeth cyn iddynt ymgeisio ac yn dangos yn glir yr hyn yr ydym yn chwilio amdano. Darllenwch ein canllaw byr a fydd yn eich helpu i osgoi rhai camgymeriadau cyffredin.
Byddwn yn annog ymgeiswyr yn gryf i gyrchu adnoddau defnyddiol o'n clinigau ceisiadau grant Windrush 75 diweddar. Darllenwch ein sleidiau PowerPoint i ddarganfod mwy am wneud cais Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol. Rydym hefyd wedi casglu’r cwestiynau mwyaf cyffredin a’n hatebion – darllenwch nhw ac efallai bydd eich cwestiwn eisoes wedi cael ei ateb!
Os yw ein proses ymgeisio yn teimlo’n frawychus, mae ein Tîm Cyngor cyfeillgar yma i'ch cefnogi. Cysylltwch â nhw ar 0345 4 10 20 30.