Windrush 75: sut i gryfhau eich cais Mis Hanes Pobl Ddu
Dyma Katie Ayre, Swyddog Ariannu, yn rhannu cyngor am sut i gryfhau eich cais Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau Windrush 75 yn ystod Mis Hanes Pobl Ddu.
Mae pen-blwydd Windrush yn 75 oed eleni’n gyfle gwych i goffáu a thalu teyrnged i’r etifeddiaeth a grëwyd gan arloeswyr Windrush.
Er ei bod hi bellach yn rhy hwyr i ymgeisio ar gyfer Diwrnod Windrush ei hun, yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol rydym ni’n dal i fod yma i’ch helpu chi a’ch cymuned i elwa o’r flwyddyn bwysig hon.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae grantiau hyd at £10,000 ar gael drwy gydol 2023 ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol sy’n coffáu’r adeg hanesyddol hon.
Rydym ni’n deall y bydd rhai cymunedau’n coffáu Windrush 75 fel rhan o Fis Hanes Pobl Ddu ym mis Hydref, a gall ein grantiau gefnogi hyn.
Yn yr un modd ag y gwnaethom yn ein blog cyngor ceisiadau grant carnifal, dyma dri awgrym i gryfhau cais Mis Hanes Pobl Ddu.
- Dywedwch wrthym sut mae eich cymuned wedi bod yn rhan o benderfynu y dylid coffáu Windrush 75 fel rhan o Fis Hanes Pobl Ddu a sut y byddan nhw’n cymryd rhan yng nghynllun a darpariaeth y prosiect.
Gall y wybodaeth hon ddod o gyfarfodydd cymunedol, pleidleisiau ar-lein, trafodaethau ar y cyfryngau cymdeithasol, neu aelodau cymunedol ar eich bwrdd, fel ymddiriedolwyr neu wirfoddolwyr.
Mae ceisiadau’n aml yn cymryd yn ganiataol y byddwn ni’n gwybod hyn yn barod, ond dim ond y wybodaeth a roddwch i ni y gallwn ei defnyddio i asesu eich cais, felly sicrhewch eich bod yn dweud hyn wrthym yn eglur.
Er enghraifft, os yw eich cais yn dweud eich bod wedi siarad â’r gymuned ac roedden nhw’n awyddus i gymryd rhan a chefnogi’r prosiect hwn, ond nid ydych yn rhoi unrhyw fanylion eraill am sut a phryd y gwnaethoch chi hyn neu sut y mae’r gymuned wedi llywio’r prosiect, mae hyn yn llai tebygol o gael ei ariannu oherwydd ni allwn ni weld yn glir sut rydych wedi cynnwys y gymuned. - Dangoswch i ni sut y bydd eich prosiect yn helpu eich cymuned – gan ddefnyddio hanes fel dull i wneud gwahaniaeth a chyflawni ein hamcanion.
Mae nifer o geisiadau’n aflwyddiannus oherwydd ymddengys eu bod nhw’n canolbwyntio’n bennaf ar ddarparu gwybodaeth ac addysg ac nad ydynt yn canolbwyntio ar ein hamcanion, megis helpu’r gymuned i feithrin perthnasoedd gwell neu helpu pobl i gyflawni eu potensial yn fwy buan.
Mae angen i ni weld y gwahaniaeth mwy hirdymor y mae eich prosiect yn ei wneud i’r gymuned wrth goffáu Windrush 75 a sut y bydd dysgu rhagor am hanes yn gwneud hyn.
Er enghraifft, os hoffech chi wneud podlediadau hanesyddol wythnosol neu deithiau rhithiol o ardaloedd hanesyddol, bydd angen i ni weld sut y mae hyn yn cyflawni ein hamcanion. Gallai hyn fod trwy gysylltu pobl na fyddent yn cyfarfod â’i gilydd fel arall. Gallai fod trwy ddarparu gweithgareddau sy’n dod â phobl o wahanol oedrannau, cefndiroedd a diwylliannau ynghyd. Gallai fod trwy fynd i’r afael ag ynysrwydd neu unigrwydd. Gallai fod yn sawl peth, ond hoffem i gymunedau fod yn fwy cysylltiedig o ganlyniad i’r prosiect. Dylai eich cais ddweud yn glir wrthym sut y mae’n bodloni o leiaf un o’n hamcanion. - Defnyddiwch ein gwefan i’ch helpu gyda’ch cais. Rydym yn deall y gall ysgrifennu cais fod yn broses hirfaith a diflas. Mae ein ffurflen gais yn syml, ond byddwn ni’n annog i bob ymgeisydd edrych ar eu tudalen Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol lleol a darllen ein cyngor a’n canllawiau yn drylwyr:
Lloegr, Cymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon
Y ceisiadau cryfaf yw’r rhai sydd wedi darllen popeth cyn iddyn nhw ymgeisio ac sy’n dangos yr hyn yr ydym yn chwilio amdano’n eglur. Darllenwch ein canllaw byr a fydd yn eich helpu i osgoi rhai camgymeriadau cyffredin.
Byddem ni’n annog ymgeiswyr i gyrchu adnoddau defnyddiol o’n clinigau ceisiadau grant Windrush 75 diweddar. Darllenwch ein sleidiau PowerPoint i ddysgu am ymgeisio i raglen Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol. Rydym hefyd wedi casglu cwestiynau cyffredin a’n hatebion – darllenwch nhw ac efallai bydd eich cwestiwn wedi cael ei ateb yn barod!
Mynychwch Glinig Ceisiadau Grant Mis Hanes Pobl Ddu
Ym mis Mehefin, byddwn ni’n cynnal gweithdai cyngor wedi’u teilwra’n arbennig i bobl sy’n ymgeisio am grant Mis Hanes Pobl Ddu Windrush 75.
Bydd ein tîm Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yn trafod ein meini prawf cymhwysedd, ar beth y gellir gwario ein grantiau, a’r hyn rydym yn chwilio amdano mewn cais. Cofrestrwch i fynychu ar ein tudalen Ticketsource.
A chofiwch fod ein Tîm Cyngor cyfeillgar yma i’ch cefnogi. Ffoniwch nhw ar 0345 4 10 20 30.
Rydym wir yn gobeithio eich gweld mewn un o’n gweithdai cyngor – bydd y wybodaeth yn eich helpu nid yn unig gyda chais Windrush 75, ond efallai gyda cheisiadau yn y dyfodol hefyd – etifeddiaeth addas ar gyfer y gymuned a’r digwyddiad hanesyddol sy’n cael ei nodi.