Adroddiad terfynol gwerthusiad cenedlaethol HeadStart
Mhairi Holland, Lorraine Joyce, Colleen Souness, Nicholas Lough
Ym mis Gorffennaf 2022 gwnaethom ddathlu diwedd rhaglen HeadStart, ymrwymiad chwe blynedd, gwerth £67.4 miliwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i archwilio a phrofi ffyrdd newydd o wella iechyd meddwl a lles pobl ifanc 10–16 oed.
Wedi’i lansio yn 2016, darparwyd HeadStart ar draws chwe phartneriaeth awdurdod lleol; Blackpool, Cernyw, Hull, Caint, Newham a Wolverhampton, ac yn ystod y chwe blynedd hynny rydym wedi gweld datblygiadau cadarnhaol yn iechyd meddwl cymaint o bobl ifanc a’r systemau cymorth o’u cwmpas.
Heddiw, mae Anna Freud wedi cyhoeddi'r adroddiad gwerthuso terfynol ar gyfer HeadStart. Mae’r adroddiad hwn yn cynrychioli carreg filltir anhygoel yn ein taith i ddeall a gwella iechyd meddwl a lles pobl ifanc. Dyma ddiwedd y gwaith ymchwil a gynhaliwyd yn HeadStart dros y pum mlynedd diwethaf, a arweiniodd at dros 60 o gyhoeddiadau.
Diolch i Dîm Dysgu HeadStart a phartneriaethau, mae HeadStart wedi cyfrannu tystiolaeth werthfawr a mewnwelediadau am iechyd meddwl pobl ifanc yn Lloegr a fydd yn parhau i lunio mentrau a chymorth iechyd meddwl yn y dyfodol.
Cyrhaeddodd y rhaglen 24,500 o blant a phobl ifanc drwy gymorth wedi’i dargedu, 246,000 o bobl ifanc drwy ddarpariaeth gyffredinol, a 5,200 o rieni a gofalwyr. Mae mwy na 24,000 o staff wedi cael eu hyfforddi mewn ffyrdd i gefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc.
Dyma fanylion pellach am rai o'r canfyddiadau:
1. Ffactorau sy'n helpu pobl ifanc i ymdopi
Darparodd HeadStart dystiolaeth gynhwysfawr ynghylch y ffactorau sy'n tanseilio iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc, yn ogystal â'u hamddiffyn. Canfuodd astudiaethau yn HeadStart fod rhai ffactorau yn cynyddu tebygolrwydd person ifanc o brofi problem iechyd meddwl, megis bod o deulu incwm isel a bod ag anghenion addysgol arbennig. Po fwyaf y ffactorau risg ym mywyd person ifanc, yr anoddaf y gallant fod i'w rheoli.
Fodd bynnag, roedd y canfyddiadau hefyd yn nodi po fwyaf y gallwn wreiddio cymorth a ffactorau amddiffynnol o amgylch person ifanc, y gorau yw eu hiechyd meddwl. Er enghraifft, mae cael ffynonellau niferus o gefnogaeth y gellir ymddiried ynddynt (e.e. gan deulu, ffrindiau a’r ysgol), y gallu a’r hyder i reoli emosiynau, ymwybyddiaeth o gryfderau a brwydrau, a’r gallu i ddatblygu a defnyddio strategaethau ymdopi pan fo angen i gyd yn ffactorau y gellir eu hybu i leihau’r tebygolrwydd y bydd pobl ifanc yn profi anawsterau.
Er na allwn amddiffyn pobl ifanc rhag cael anawsterau iechyd meddwl byth, mae dysgu am ffactorau risg ac amddiffynnol yn rhoi cipolwg ar sut y gallwn gefnogi pobl ifanc yn well i ymdopi gyda phrofiadau niweidiol.
2. Llai o waharddiadau ysgol
Mae canfyddiadau o'r papur 'Effaith Ymyriadau Headstart ar Absenoldeb, Gwahardd a Chyrhaeddiad Disgyblion Uwchradd ' yn nodi bod HeadStart wedi atal tua 800 o fyfyrwyr rhag cael eu gwahardd o'r ysgol yn 2016/17, ei flwyddyn gyntaf o weithredu. Roedd hyn yn cynrychioli gostyngiad o 10% mewn cyfraddau gwahardd ar draws ardaloedd lleol HeadStart, ac arbediad amcangyfrifedig o £6 miliwn .
Er bod yr astudiaeth yn dangos y gostyngiadau addawol hyn mewn cyfraddau gwahardd, ni all ddweud wrthym a oedd y gostyngiad mewn cyfraddau gwahardd o ganlyniad i welliant ym mholisïau ysgol neu newidiadau yn ymddygiadau pobl ifanc yn yr ysgol - neu gyfuniad. Cynlluniodd y chwe phartneriaeth HeadStart ymyriadau lluosog i fynd i'r afael â'r ddau ohonynt.
Mae'r canfyddiadau hyn yn bwysig oherwydd eu bod yn awgrymu potensial rhaglenni fel HeadStart i gefnogi pobl ifanc i aros yn yr ysgol. Mae gan waharddiad o'r ysgol oblygiadau sylweddol i orwelion pobl ifanc yn y dyfodol, felly mae unrhyw ymyriadau sy'n dangos y potensial i leihau gwaharddiadau yn galonogol.
3. Iechyd meddwl a rhywedd
Cynhaliodd HeadStart astudiaethau niferus yn archwilio iechyd meddwl a lles pobl ifanc yn ystod y glasoed cynnar (11-14 oed). Yn nodedig trwy gydol yr ymchwil oedd y darlun pryderus o iechyd meddwl a lles i ferched yn arbennig.
Dangosodd y canfyddiadau fod merched yn y glasoed (11-12 oed) yn adrodd am lefelau lles goddrychol is a bod ganddynt gyfraddau uwch o anawsterau iechyd meddwl na bechgyn yn y glasoed. Cynyddodd anawsterau o’r fath i ferched wrth iddynt ddatblygu drwy’r glasoed, gan amlygu dechrau’r ysgol uwchradd fel cyfle pwysig ar gyfer ymyrraeth gynnar ymhlith merched i atal problemau rhag gwaethygu.
Archwiliodd yr ymchwil hefyd wahaniaethau eraill, megis y mathau o anawsterau a brofodd bechgyn a merched: disgrifiodd cyfran uwch o fechgyn brofi dicter ffrwydrol, diffyg ffrindiau, anawsterau dysgu ac ymddygiad yn yr ysgol ac erledigaeth ymddangosiadol gan athrawon.
Ar y llaw arall, disgrifiodd cyfran uwch o ferched deimladau o bryder ac ofn a diffyg hyder. Cadarnhaodd HeadStart hefyd y darlun cynyddol o’r anghenion iechyd meddwl uwch a lles a chymorth cymdeithasol is ymhlith pobl ifanc trawsryweddol ac anneuaidd, a’r rhai a oedd yn cwestiynu eu hunaniaeth rhywedd.
Mae’r mewnwelediadau hyn, ynghyd â chanfyddiadau niferus eraill o’r ymchwil ar raddfa fawr yn HeadStart, yn cynnig tystiolaeth werthfawr ar gyfer llunio mentrau iechyd meddwl a chefnogaeth yn barhaus i bobl ifanc, a chyda nhw.
4. Cyfranogiad pobl ifanc
Mae canfyddiadau'r ymchwil yn dangos y gall cynnwys pobl ifanc yn natblygiad prosiectau a gwasanaethau wella bywydau pobl ifanc unigol a helpu sefydlu rhaglenni sy'n canolbwyntio mwy ar bobl ifanc ac sy'n gyfeillgar i bobl ifanc.
Disgrifiodd pobl ifanc HeadStart fel rhywbeth ar wahân ac unigryw i agweddau eraill o’u bywydau, gan rannu bod math gwahanol o ddiwylliant yn cael ei greu mewn mannau cydweithredol, gan roi cyfle cyfartal iddyn nhw gyfrannu.
Cyhoeddodd tîm dysgu HeadStart gyfres o astudiaethau sy'n archwilio'r modelau cyfranogiad sy'n bodoli ar hyn o bryd yn y maes, y gweithgareddau cyfranogiad a gynhaliwyd ar draws chwe phartneriaeth HeadStart ac astudiaeth ar safbwyntiau a phrofiadau pobl ifanc ar weithgareddau cyfranogiad.
Etifeddiaeth HeadStart
Yn ogystal â chefnogi gwelliannau i bobl ifanc unigol, roedd HeadStart hefyd yn anelu at fod yn gatalydd i ail-lunio'r systemau cymorth presennol o'u cwmpas.
Archwiliodd y gwerthusiad cenedlaethol y newidiadau yr oedd partneriaethau HeadStart yn ceisio eu gwneud ar lefel leol. Mae'r canfyddiadau'n dangos bod HeadStart wedi newid ymwybyddiaeth, agweddau a ffyrdd o weithio pobl drwy ddod â rhanddeiliaid o wahanol rannau o'r system at ei gilydd.
Etifeddiaeth arall HeadStart yw datblygiad y Fframwaith Mesur Lles (WMF), set o fesurau wedi’u dilysu i helpu ysgolion asesu iechyd meddwl disgyblion, gan gynnwys lles cadarnhaol, anawsterau ymddygiadol neu emosiynol. Mae’r dull WMF ar gael i ysgolion, ac mae set ddata ddienw WMF ar raddfa fawr HeadStart eisoes wedi’i defnyddio i lywio mentrau ac ymchwil gan eraill a bydd hwn ar gael i’r cyhoedd i’w ddefnyddio yn y dyfodol drwy Wasanaeth Data’r DU i wella ein dealltwriaeth am iechyd meddwl a lles pobl ifanc.
Hoffech chi ddysgu rhagor?
Gallwch ddarllen y gwerthusiad llawn yma neu archwilio’r cyhoeddiadau ac adnoddau a gynhyrchwyd gan Anna Freud a’u partneriaid yn Nhîm Dysgu HeadStart.
Gallwch hefyd ddod o hyd i gyfoeth o ddysgu a gynhyrchwyd gan Fiwro Cenedlaethol y Plant a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn archwilio arferion HeadStart ar draws y chwe phartneriaeth yn ein llyfrgell dystiolaeth.