Dewch i gyfarfod â Tilly
Yma yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol mae ein Tîm Llais Ieuenctid Cymru yn dangos ein hymrwymiad i alluogi pobl ifanc i gael llais ystyrlon yn ein cymunedau ledled y DU. Hoffem wreiddio llais ieuenctid yn ein dulliau a’n penderfyniadau. Cyd-ddatblygodd Tîm Llais Ieuenctid Cymru Meddwl Ymlaen, rhaglen grantiau £10 miliwn, gyda grŵp amrywiol o bobl ifanc o bob rhan o Gymru. Roedd pobl ifanc eisiau i’r rhaglen greu dyfodol iach a gwydn yn feddyliol i bobl ifanc mewn cymdeithas ôl-COVID-19.
Siaradom ag un o aelodau Tîm Llais Ieuenctid Cymru, Tilly, i ddysgu am yr hyn y mae hi'n ei gynnig i'r panel a'r hyn y mae hi wedi'i ddysgu yn ystod ei hamser ar y panel.
Mae Tilly yn fyfyrwraig yn Academi Chwaraeon Llandarcy. Mae hi’n gweithio gyda’r Gweilch i gefnogi’r gymuned trwy rygbi a chwaraeon eraill.
“Dwi’n gobeithio defnyddio chwaraeon i gefnogi a chodi ymwybyddiaeth o’r gwaith sy’n cael ei wneud yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc.”
Pam oeddet ti eisiau ymuno â Thîm Llais Ieuenctid Cymru?
“Clywais am y cyfle trwy’r gwaith a phenderfynais ymgeisio. Cefais alwad ffôn rhagarweiniol a theimlais y byddai’n gyfle da. Roeddwn i newydd fod yn rhan o brosiect i gefnogi fy iechyd meddwl a hunanhyder fy hun.
Roedd yr alwad tîm gyntaf yn teimlo fel galwad grŵp ar Facetime gan nad oeddwn wedi arfer â chyfarfodydd ar-lein. Yn y sesiwn, gofynnwyd i ni beth fyddem yn ei wneud gyda £10 miliwn. Mwynheais y sesiwn yn fawr.
Mae fy swydd yn ymwneud â helpu pobl i gael llais ac roeddwn yn gwybod y byddai Panel Llais Ieuenctid Cymru yn gyfle gwych i wneud hynny.”
Pa themâu (gweithredu hinsawdd, tegwch, iechyd meddwl ac ati) hoffet ti ymchwilio iddynt fel rhan o Dîm Llais Ieuenctid Cymru?
“Mae gen i ddiddordeb mewn chwaraeon, lles a deall iechyd meddwl. Dwi'n angerddol dros helpu eraill i helpu eu hunain gan fy mod yn deall bod angen i chi helpu eich hun yn gyntaf. Dwi'n angerddol iawn am raglen ariannu Meddwl Ymlaen Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac yn eiriolwr enfawr dros gael gwytnwch fel rhan o'r meini prawf. Ni allwch atal pethau heriol rhag digwydd bob amser ond helpu eich hun yw'r cam cyntaf ymlaen.
Trwy Meddwl Ymlaen, dysgais am ddulliau ymchwil ansoddol a meintiol ac am bwysigrwydd ymgynghori ag eraill y tu hwnt i Dîm Llais Ieuenctid Cymru. Gwnaethom gynnal yr ymchwil trwy sesiynau 1 wrth 1 a chyfweliadau gyda gwahanol bobl a chasglodd bawb eu canfyddiadau at ei gilydd.
Fel rhan o Dîm Llais Ieuenctid Cymru, hoffwn hefyd edrych ar y cyfnod pontio o’r coleg i’r brifysgol, yn enwedig ar gyfer pobl nad ydynt yn siŵr beth yr hoffent ei wneud â’u dyfodol a phobl nad ydynt yn credu bod y brifysgol iddyn nhw.”
Beth arall wyt ti wedi'i ddysgu o fod yn rhan o Dîm Llais Ieuenctid Cymru?
“Yn bennaf, dwi wedi magu’r hyder i leisio fy marn a chael llawer o hunangred. Mae bod yn rhan o Dîm Llais Ieuenctid Cymru wedi rhoi sgiliau cydweithio i mi. Dysgais sut i gynnal a chyflwyno cyfarfodydd ar-lein gan nad oeddem hyd yn oed wedi cyfarfod wyneb yn wyneb, ond roeddem ni’n dal i allu gweithio’n dda gyda’n gilydd ac ymddiried yn ein gilydd.”