Cymuned yw’r man cychwyn - Pennod nesaf Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
David Knott – Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Heddiw, ar ôl blwyddyn o archwilio a gwrando ar eich syniadau, eich gobeithion a’ch breuddwydion ar gyfer eich cymunedau, rwy’n gyffrous i lansio ein strategaeth a’n gweledigaeth newydd ar gyfer ein cyllid a fydd yn cryfhau cymdeithas ac yn gwella bywydau ledled y DU.
Cymuned yw’r man cychwyn – y cysylltiadau cymdeithasol a’r gweithgareddau sy’n dod â ni ynghyd fel calon cymdeithas iach, hapus a llewyrchus. Dyna pam y mae ein strategaeth yn cadarnhau ein hymrwymiad i gefnogi cymunedau i lywio eu dyfodol.
Newid mwy mentrus
Yn y bennod newydd hon, rydym ni'n adeiladu ar yr hyn yr ydym wedi'i ddysgu dros y 30 mlynedd diwethaf. Byddwn yn parhau i ddefnyddio dull lleol a pherthynol gyda’n grantiau, dull y gwyddom sy'n cael ei werthfawrogi cymaint. Ond hoffem wneud gwahaniaeth mwy. Gwyddom fod newid mwy mentrus yn gofyn am fwy o ffocws a phartneriaeth ddyfnach. Nid ydym yn disgwyl cael yr atebion i gyd a, thrwy fod yn fwy na chyllidwr, hoffem ddysgu a gweithio gydag eraill.
Rydym wedi llunio ein strategaeth gyda thri nod pwerus.
Cynyddu cyllid ar lawr gwlad
Yn gyntaf, rydym yn dyblu ein cyllid cymunedol ar lawr gwlad. Rydym wedi clywed am y gwerth y mae cymunedau yn ei roi ar hyn. Gwyddom mai dyma le y mae gan ein cyllid y cyrhaeddiad pellaf, a lle mae'n cefnogi ac yn creu'r mwyaf o gyfleoedd gwirfoddoli. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi clywed hyn dro ar ôl tro wrth siarad â chymunedau a gweld prosiectau yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban. Dyna pam y byddwn yn dyblu maint y grant posibl sydd ar gael a’r cyfnod amser y gellir cynnal y prosiect. Dyma’r newid mwyaf i raglen Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol ers cenhedlaeth a bydd mwy nag £1 biliwn o arian newydd ar gael i gymunedau dros y saith mlynedd nesaf.
Nodau cymunedol
Yn ail, rydym yn gwybod bod cymunedau eisiau newid mwy mentrus er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r heriau mawr y maent yn eu hwynebu a chlywsom y gallwn fod yn fwy mentrus fel cyllidwr. Rydym wedi gosod pedwar nod cymunedol, lle y byddwn ni’n canolbwyntio ein cyllid, ein dysgu a'n hymdrechion i ddylanwadu ar newid. Byddwn yn meithrin partneriaethau newydd a dwfn, wedi'u gwreiddio mewn pwrpas a llefydd, er mwyn cefnogi'r effaith fwyaf. Bydd nodau cymunedol yn cefnogi cymunedau i:
1. ddod ynghyd
2. bod yn amgylcheddol gynaliadwy
3. helpu plant a phobl ifanc i ffynnu
4. galluogi pobl i fyw bywydau mwy iach.
Gwyliwch ein fideo newydd a lansiwyd heddiw i glywed gan leisiau cymunedol sy’n amlygu pwysigrwydd ein nodau cymunedol – fel Gavin o Reaching Every Generation a Rashta o’r Unity Hubb.
Addasu i newid
Yn drydydd, wrth i ben-blwydd y Loteri Genedlaethol yn 30 agosáu, byddwn yn adeiladu ar y stori lwyddiant genedlaethol wych yr ydym wedi bod yn rhan ohoni, gan gefnogi prosiectau trawsnewidiol ledled y DU. Fel Un Gronfa rydym wedi adnewyddu ein gwerthoedd a'n ffyrdd o weithio i fod yn sbardun i weithredu. Er enghraifft, rydym yn glir y byddwn yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar degwch i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, gan fuddsoddi’r mwyaf lle mae'r angen mwyaf a helpu cymunedau i oresgyn rhwystrau. Rydym hefyd wedi rhoi effaith ar yr amgylchedd a byd natur wrth wraidd ein penderfyniadau, gan osod ein huchelgais i fod yn gyllidwr amgylcheddol adfywiol.
Mae ein strategaeth yn blatfform ar gyfer gweithredu. Byddwn yn barod i addasu i amgylchiadau sy'n newid, fel y mae profiad diweddar wedi'i ddysgu i ni. Ond, wrth edrych tuag at 2030 ac ar y nodau hyn yn hyderus, rydym yn glir na fyddwn yn caniatáu i hyn ein dal yn ôl rhag y gweithredu a'r gefnogaeth ar gyfer newid hirdymor a thrawsnewidiol lle mae ei angen fwyaf.
Cymuned yw’r man cychwyn
Mae ein strategaeth ar gyfer 2030 yn canolbwyntio ar wneud hyd yn oed mwy o wahaniaeth dros y blynyddoedd nesaf. Byddwn yn disgwyl gweithio mewn partneriaeth â chymunedau, cyllidwyr, y sector cyhoeddus a chymdeithas sifil gan ddod ag angerdd, pwrpas ac arbenigedd ein pobl i gyflymu ein nod cyffredin er mwyn cryfhau cymdeithas a gwella bywydau. Mae'r daith yn dechrau nawr a chymuned yw’r man cychwyn.
Dysgwch ragor am ein strategaeth newydd - Cymuned yw’r man cychwyn