Dewch i gwrdd â'r bobl a'r prosiectau anhygoel y tu ôl i'n fideo strategaeth newydd
Fel y dywed enw ein strategaeth saith mlynedd newydd – Cymuned yw’r man cychwyn, ac yn ein fideo newydd rydym yn canolbwyntio ar brosiectau anhygoel o’r Alban, Gogledd Iwerddon, Cymru a Lloegr, a’r bobl y tu ôl iddynt, sy’n rhannu eu straeon ysbrydoledig â ni.
Gweler y fideo yma a darllenwch eu straeon isod.
Paratowch i gael eich ysbrydoli
Rashta Butt – The Unity Hubb, Birmingham
Mae gan Rashta Butt hanes hir o waith cymunedol yn Birmingham, ar ôl cynnal gweithgareddau yn yr ardal am y saith mlynedd diwethaf, gan ddod â chymunedau ynghyd a’u hannog i rannu eu sgiliau a’u diddordebau.
Mae’r Unity Hubb wedi’i lleoli yn Eglwys St Margaret yn ardal Ward End y ddinas, ac mae’n croesawu pobl o naw diwylliant gwahanol i rannu syniadau a chreu’r math o gysylltiadau ystyrlon a all helpu’r ardal a’i chymuned i dyfu. Mae wedi derbyn nifer o grantiau Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol dros y blynyddoedd, gan gynnwys cyllid ar gyfer gweithgareddau wythnosol i ddynion ynysig neu sy’n profi galar neu golled, a sesiynau grŵp i helpu pobl i oresgyn teimladau o unigrwydd a lefelau isel o les corfforol a meddyliol.
Dywedodd Rashta, Rheolwr Datblygu Cymunedol a Chanolfan Unity Hubb: “Diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol rydym wedi gallu mynd i'r afael ag ynysu cymdeithasol a hybu iechyd a lles yn ein cymuned. Gwyddom fod dod â phobl ynghyd yn gallu datgloi amrywiaeth o sgiliau a phrofiad y gellir eu defnyddio i gryfhau a gwella cymunedau.
“Gwyddom hefyd fod dod â chymunedau ynghyd yn helpu creu ymdeimlad o falchder yn yr ardaloedd y maent yn byw ynddynt.”
Ceridwen Hughes - Same But Different, Yr Wyddgrug
Sefydlodd Ceridwen Same But Different yn Sir y Fflint, Cymru, yn 2015 fel prosiect ffotograffiaeth ar ôl i’w mab Isaac gael diagnosis o Syndrom Moebius, sy’n achosi parlys acíwt ar yr wyneb.
Gan ddefnyddio ei sgiliau creadigol, roedd hi eisiau adrodd nid yn unig stori Isaac, ond helpu teuluoedd mewn sefyllfa debyg i wneud yr un peth trwy arddangosfeydd a gwefan y sefydliad.
Ers hynny mae Same But Different wedi derbyn nifer o grantiau’r Loteri Genedlaethol ac wedi lansio nifer o wasanaethau newydd, gan gynnwys RAREhub , sy’n darparu cyngor ac arwyddbostio i rieni nad ydynt yn gwybod at le i droi oherwydd bod cyflyrau eu plant mor brin.
Dywedodd Ceridwen: “Un o’r problemau mwyaf sy’n wynebu cymdeithas ar hyn o bryd yw unigrwydd ac ynysrwydd, boed yw hynny oherwydd ôl-effeithiau’r pandemig COVID, yr argyfwng costau byw neu anghydraddoldebau iechyd. Rydym yn helpu teuluoedd i godi llais ac adrodd eu straeon unigryw, sy’n helpu lleihau stigma ac yn dod â chymunedau ynghyd. Rydyn ni’n gwneud hyn gyda chefnogaeth wych Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sydd wedi ein helpu ni’n ariannol a thrwy wybod eu bod nhw yno i’n cefnogi pe bai angen.”
Karen Healey, Parc Gwledig Creggan, Derry
Sefydliad dielw yw Creggan Country Park yn Derry a sefydlwyd gan y gymuned ar gyfer y gymuned ym 1997 ac sy’n darparu gweithgareddau hamdden awyr agored i bobl o bob oedran, yn ogystal ag oergell gymunedol sy’n mynd i’r afael â newid hinsawdd a thlodi bwyd yn lleol.
Mae Karen Healey yn gweithio fel Swyddog Amgylcheddol yn y parc a gyda’n cymorth ni, mae wedi’i drawsnewid dros y blynyddoedd i fod yn ganolbwynt addysg amgylcheddol ffyniannus sy’n codi ymwybyddiaeth o her yr hinsawdd ac yn dod â phobl sydd ag angerdd dros yr awyr agored ynghyd.
Dywed hi: “Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’n prosiect. Gwnaethon nhw ein helpu i ehangu i feysydd newydd gyda phethau fel y Man Anadlu, sy'n darparu domau helyg a mannau picnic i bobl eu mwynhau a'u defnyddio i helpu gwella eu hymdeimlad cyffredinol o les. Mae ein hoergell gymunedol hefyd yn rhaff achub i lawer o bobl sy’n cael amser anodd yn delio â thlodi bwyd, ac mae hefyd yn mynd i’r afael â newid hinsawdd drwy leihau gwastraff bwyd.
“Rydyn ni'n falch iawn o'r gwaith rydyn ni wedi gallu ei gyflawni. Roedd ein Hwb Natur, er enghraifft, yn ganolbwynt ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gorffennol, ond mae bellach wedi’i drawsnewid i fod yn ganolfan addysg amgylcheddol, sydd o fudd i bobl o bob oedran a gallu.”
Gavin McKenna, Reach Every Generation, Chelmsford
Gavin McKenna yw pennaeth Reach Every Generation yn Chelmsford, sydd wedi derbyn arian y Loteri Genedlaethol i helpu pobl ifanc i ddianc rhag diwylliant gangiau. Mae'n gwneud hyn trwy ddarparu mynediad i bopeth o wersi cerddoriaeth a champfa am ddim i weithdai sgiliau bywyd a chyfleusterau TG.
Sefydlodd Gavin Reach Every Generation ar ôl profi trais ieuenctid ei hun ac ar ôl trawsnewid ei fywyd, mae bellach yn defnyddio ei brofiad bywyd i helpu pobl ifanc eraill sydd mewn perygl o gamfanteisio troseddol.
Dywedodd Gavin, Rheolwr Gweithrediadau Reach Every Generation: ““Rwy’n eiriolwr mawr dros bobl ifanc ac yn yr oes sydd ohoni, mae gan lawer ohonynt fywydau cartref camweithredol, heb fawr o obaith o ddianc.
“Nid yw strategaeth newydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ymwneud â rhoi grantiau yn unig, mae hefyd yn fath o eiriolaeth i’n pobl ifanc, gan ddangos iddynt nad sefydliadau lleol yn unig sydd yno i’w helpu, ond bod eu heriau a’u rhwystredigaethau yn cael eu cydnabod ar lefel genedlaethol.”
Gregor Ritchie, Men Matter Scotland, Glasgow
Elusen atal hunanladdiad yw Men Matter Scotland a leolir yn Glasgow ac mae’n darparu lle diogel a rhwydwaith cymorth cymheiriaid i ddynion sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl.
Mae'n darparu cyfleoedd i ddynion gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau hamdden, gan gynnwys canu, pêl-droed a mynydda.
Cafodd Gregor drafferth gyda'i iechyd meddwl ei hun yn ifanc, a cheisiodd ddod â bywyd ei hun i ben. Gan nad oedd yn gallu dod o hyd i gymorth iechyd meddwl a oedd yn gweithio iddo, sefydlodd ef ac aelod arall o'i gymuned brosiect peilot o'r enw Dads Matter, a gynhaliwyd ganddynt yn llwyddiannus am 13 wythnos, gyda'r holl gyfranogwyr yn nodi eu bod angen i’r gwasanaeth, neu gwasanaeth tebyg, i barhau.
Ar ôl sylweddoli nad Tadau yn unig oedd angen gwasanaeth o’r fath, sefydlodd Men Matter Scotland, sydd bellach yn croesawu dynion ag amrywiaeth eang o heriau iechyd meddwl a phrofiadau bywyd, gyda’r ieuengaf yn 16 oed a’r hynaf yn 95 oed.
Mae'r sefydliad wedi defnyddio nifer o grantiau sydd wedi ei helpu i gyrraedd mwy o ddynion sy'n cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl.
Dywedodd Gregor: “Rydym yn croesawu ffocws Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar iechyd a lles fel un o'i phrif flaenoriaethau. Os gallwn gynyddu lles pobl, gall yr effeithiau hyn ar eu hanwyliaid, eu ffrindiau, eu cymdogion a’u cymunedau fod yn aruthrol.”
Mae’r strategaeth Cymuned yw’r man cychwyn yn amlinellu sut y byddwn yn canolbwyntio ein cyllid, ein dysgu a'n hymdrechion ar bedwar nod allweddol. Pwrpas y rhain yw cefnogi cymunedau i ddod ynghyd; bod yn amgylcheddol gynaliadwy; helpu plant a phobl ifanc i ffynnu; a galluogi pobl i fyw bywydau mwy iach.
Mae’r sefydliadau ysbrydoledig hyn eisoes yn gwneud gwaith gwych yn y meysydd hyn ac rydym wedi ymrwymo i’w helpu nhw, ac eraill, i wneud mwy.