Ein hymrwymiad strategol i ddyfodol cynaliadwy
Yn ddiweddar, cyhoeddwyd ein strategaeth newydd hyd at 2030 a fydd yn arwain sut rydym yn ariannu cymunedau dros y saith mlynedd nesaf. Mae Cymuned yw’r Man Cychwyn yn cydnabod pwysigrwydd gweithredu cymunedol fel catalydd ar gyfer newid mawr.
Fel rhan o hyn, rydym wedi addo ein cefnogaeth i fynd i'r afael â rhai o'r heriau cymdeithasol mawr sy'n wynebu'r DU.
Heddiw, un o’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu yw bygythiad newid hinsawdd a’i effaith, nid yn unig ar raddfa fyd-eang, ond ar y trefi, y dinasoedd a’r cymunedau yr ydym yn byw ynddynt.
Boed yw hynny’n mynd i’r afael ag achosion o lifogydd, lefelau uwch o lygredd, neu effeithiau planed gynhesach ar fioamrywiaeth leol, mae camau gweithredu cymunedau grymus yn mynd i’r afael â heriau newid hinsawdd ar draws y DU. Drwy greu’r amgylchedd galluogi hwn, mae cymunedau bellach yn hwyluso newid ymddygiad, yn sefydlu arferion cymdeithasol newydd, ac yn dylanwadu ar bolisïau a systemau newydd.
Dyna pam, yn ein strategaeth newydd, yr ydym wedi cynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol fel un o’n pedwar nod cymunedol.
Mae hyn yn golygu ariannu prosiectau sy’n:
- lleihau allyriadau carbon ac effaith amgylcheddol negyddol
- creu effeithiau amgylcheddol cadarnhaol
- sefydlu mynediad cyfartal i'r amgylchedd naturiol
- gwella ansawdd mannau naturiol.
Cronfa Gweithredu Hinsawdd
Ar flaen ein rhaglenni grant amgylcheddol mwy dros y blynyddoedd diwethaf y mae’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd (CAF), sydd ar hyn o bryd yn derbyn ceisiadau gan gymunedau ledled y DU i fynd i’r afael â’r her ynni a hinsawdd.
Mae £8.5 miliwn ar gael ar gyfer rhwng wyth i ddeuddeg o brosiectau ar draws y DU sy’n dangos sut y gall cymunedau fynd i’r afael â newid hinsawdd wrth daclo’r her ynni drwy weithredu cymunedol. Hoffem gefnogi prosiectau sy’n cael eu llywio gan y gymuned a fydd yn helpu cymunedau i elwa ar effeithlonrwydd ynni a datrysiadau ynni cynaliadwy, ysbrydoli gweithredu ar raddfa fawr, a hyrwyddo ymddygiad cynaliadwy hirdymor.
Bydd newid ein defnydd o ynni yn effeithio'n gadarnhaol ar yr hinsawdd, gan leihau allyriadau carbon a gwella ansawdd aer tra'n darparu manteision ariannol, iechyd a chymdeithasol.
Nid yw’r cyllid hwn ar gyfer prosiectau cyfalaf mawr fel gosod paneli solar, ond rydym yn croesawu ceisiadau gan brosiectau sy’n ceisio tynnu rhwystrau, ymgysylltu â chymunedau, meithrin gallu, ac ysbrydoli gweithredu ar newid hinsawdd ac arferion cynaliadwy ar ddefnydd ynni.
Rydym hefyd wedi ymrwymo £1.5 miliwn i sefydlu Rhwydwaith Dysgu Ynni ledled y DU a fydd, yn ein barn ni, yn cefnogi'r sector ynni cymunedol i rannu gwybodaeth a dysgu yn well.
Deiliad grant Cronfa Gweithredu Hinsawdd: Nottingham Energy Partnership
Un prosiect sydd wedi elwa o arian y Gronfa Gweithredu Hinsawdd ac sy'n croesawu ein hymrwymiad newydd i brosiectau amgylcheddol yw Nottingham Energy Partnership.
Yn 2020, dyfarnwyd dros £1.5m iddynt gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer eu cynllun Future-Fit Homes. Caniataodd y cyllid hwn i’r prosiect cymunedol ddarparu asesiadau ynni cartref wedi’u teilwra am ddim, a gyflwynwyd i gartrefi gan arbenigwyr hyfforddedig, er mwyn nodi cynllun hirdymor o welliannau i’r cartref.
Maen nhw hefyd wedi agor canolfan hinsawdd yn yr ardal gan ddarparu gweithdai rheolaidd i helpu trigolion Meadows i wneud gwelliannau i’w cartrefi eu hunain, yn ogystal â chyflwyno ‘hyrwyddwyr hinsawdd’, trigolion Meadows sy’n gwirfoddoli i gefnogi eu cymuned ac arwain mentrau gweithredu hinsawdd.
Dywedodd Heather Ince, Rheolwr Prosiect yn Green Meadows: “Ers dechrau’r prosiect, rydym wedi dysgu mai dim ond trwy weithio’n agos gyda’r gymuned ac ymateb i’w hanghenion y daw effaith barhaol. Mae nod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gynyddu’r cyllid ar gyfer prosiectau cymunedol rhwng 2023-2030 yn gam angenrheidiol tuag at ddyfodol cynaliadwy cynhwysol.”
Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol
Mae Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol wedi profi i fod yn ffynhonnell ariannu hanfodol ar gyfer sefydliadau amgylcheddol cymunedol ledled y DU ac o dymor yr hydref eleni, bydd grwpiau’n gallu ymgeisio am hyd at £20,000 dros gyfnod o ddwy flynedd. Rydym wrth ein boddau, gan fod hyn yn golygu y gall mwy o brosiectau gael mynediad at y cymorth pwysig hwn.
Greening Tameside
Un sefydliad amgylcheddol sydd wedi croesawu’r newyddion yw Operation Farm Limited yn Tameside, Manceinion Fwyaf, sydd wedi derbyn deg grant Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol dros y blynyddoedd. Yn fwyaf diweddar, dyfarnwyd grant ychydig o dan £10,000 iddynt ar gyfer y prosiect Greening Tameside, sy'n cynnwys cyflwyno mwy o arferion amgylcheddol i brosiectau tyfu bwyd cymunedol cyfagos.
Dywedodd Jonathan Atkinson, aelod o bwyllgor Operation Farm: “Mae Greening Tameside yn ymwneud ag ychwanegu mwy o agweddau amgylcheddol at y gwaith tyfu rhandiroedd cymunedol a chynnal a chadw perllannau cymunedol yr ydym eisoes yn ei wneud. Mae hynny’n golygu cynnig sgiliau newydd i’n gwirfoddolwyr a’n buddiolwyr fel sgiliau compostio, dulliau ‘dim palu’ a thyfu gyda chompost di-fawn. Mae’r rhain yn ddulliau sy’n helpu pobl i dyfu mwy o fwyd lleol, ond mewn ffordd sy’n lleihau effaith amgylcheddol ac yn helpu mynd i’r afael â newid hinsawdd.
“Mae'r argyfwng costau byw a chwyddiant wedi rhoi pwysau ar gyllid grwpiau cymunedol - mae ehangu cymorth Arian i Bawb yn gam yr ydym yn ei groesawu’n fawr. Croesewir ffocws ar leihau allyriadau carbon a gwella effeithiau amgylcheddol yn fawr; mae mynd i’r afael â newid hinsawdd yn dechrau ar lawr gwlad ac mae cefnogi cymunedau i weithredu yn hanfodol.”
Dysgwch ragor am Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol.
Lle bynnag yr ydych chi yn y DU, gall llawer o'n rhaglenni ariannu gefnogi gweithgarwch sy'n canolbwyntio ar yr amgylchedd. Dysgwch ragor