Mis Hanes Pobl Ddu: Dathlu menywod Du ysbrydoledig o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Mae Mis Hanes Pobl Ddu 2023 yn cynnig cyfle arwyddocaol i ddathlu menywod Du ysbrydoledig, eu cyflawniadau a’r cyfraniadau y maent wedi’u gwneud i gymunedau. Yn y blog hwn, rydym yn amlygu menywod Du o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, y rôl hanfodol y maent wedi'i chwarae yn y sector gwirfoddol ac elusennol, a'r hyn y mae Mis Hanes Pobl Ddu yn ei olygu iddynt.
Kianna Leader, Rheolwr Ariannu
“I mi, mae Mis Hanes Pobl Ddu yn ddathliad sydd nid yn unig yn cydnabod cyfraniadau anhygoel a chyflawniadau rhyfeddol pobl Ddu, sy’n cael eu hanwybyddu’n aml, ond sydd hefyd yn amlygu maint yr anghydraddoldebau a’r rhwystrau yr ydym yn parhau i’w hwynebu a’u goresgyn yn ddyddiol.
“Mae’n rhoi gofod pwrpasol a chyfle unigryw i wrando a dysgu am brofiadau pobl Ddu o gefndiroedd amrywiol, gan fynd y tu hwnt i gyfyngiadau’r profiad Du Prydeinig ac mae’n creu platfform ar gyfer gwell dealltwriaeth ac undod.
“Rwy'n falch i weithio i sefydliad sydd wedi cydnabod yn agored fod meysydd i’w gwella. Mae'n gam cyntaf hanfodol i wneud newid ystyrlon. Mae’r Phoenix Way, y mae’n fraint i mi fod yn rhan ohono, yn gyfle i sicrhau ein bod yn cyrraedd sefydliadau newydd a arweinir gan gymunedau Du ac ethnig leiafrifol, ac ar eu cyfer. Yn ei dro, bydd hyn yn creu etifeddiaeth wych ac yn gwella ein dysgu a’n perthnasoedd rhwng cyllidwyr a sefydliadau, a allai fod wedi wynebu rhwystrau enfawr i gael mynediad at arian.
“Un o fy nghyflawniadau allweddol yn y Gronfa yw gweithio gyda’n timau Llais Ieuenctid i sicrhau eu bod wedi’u grymuso ac yn cael cyfleoedd i herio a dylanwadu, yn enwedig yn ystod proses ein hadnewyddiad strategol – darllenwch fy mlog blaenorol am y gwaith hwn.
“Er mwyn eirioli drosom ein hunain fel menywod Du a chodi ein gilydd, dylem godi llais am ein cyflawniadau, gan sicrhau bod ein llwyddiannau’n cael eu cydnabod, heb adael lle i danseilio ein cyfraniadau.
“Un cam bach y gall pob cymuned ei wneud heddiw i wneud gwahaniaeth mawr yw dysgu am y term ‘misogynoir’ – term a fathwyd gan Moya Bailey, sy’n egluro’r croestoriad rhwng hiliaeth a chasineb at fenywod ac yn amlygu’r rhwystrau amlwg y mae menywod Du yn dod ar eu traws.”
Kalema White, Rheolwr Busnes
““Mae Mis Hanes Pobl Ddu yn gyfle i mi ddathlu fy niwylliant a’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn Ddu a Phrydeinig. Mae'n bwysig i ni arddangos ein hanes a phwy ydym ni, oherwydd mae cymaint wedi cael ei wneud i baentio pobl Ddu mewn goleuni negyddol ac i'n dileu ni o hanes yn gyfan gwbl.
“Yn union fel Mis Hanes Pobl Ddu, mae dathlu arloeswyr Windrush yn ffordd i amlygu rhan o hanes sydd wedi cael ei anwybyddu. Gwahoddwyd cenhedlaeth o bobl i ddod i wlad bell o'u gwlad eu hunain, nid yn unig o ran pellter ond diwylliant a hinsawdd. Profon nhw lawer o bethau na ddylent wedi gorfod eu hwynebu, ac er gwaethaf hyn i gyd, maent yn dal i gyfrannu i'r wlad hon. Wnaethon nhw ddim atal eu sgiliau, eu doethineb na'u deallusrwydd, felly pam na ddylem ni eu coffáu?
“Dwi’n bopeth yr ydw i oherwydd yr hyn a wnaeth fy Mamgu a Thadcu pan ddaethant i’r DU, yr aberthau a’r gwaith anhygoel a wnaethant yn ein gwarchod rhag gelyniaeth y byd y tu allan. Doedden nhw byth yn ei ddefnyddio fel esgus i beidio â chario ymlaen gyda bywyd fel arfer ac fe wnaethon nhw ein dysgu ni i wneud yr un peth.
“Dwi’n falch fy mod yn gallu bod fy hun yn y Gronfa, nad yw fy lliw na fy niwylliant erioed wedi bod yn broblem tra'n gweithio yma. Dwi'n teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi, fy ngwrando arnaf a dwi wedi cael cyfleoedd i dyfu a datblygu. Dwi hefyd yn falch o weld y Gronfa’n esblygu ac yn gweithio ar y cyd â staff ac yn gwrando arnynt i fynd i’r afael ag unrhyw anghydraddoldebau sydd gennym.
“Mae bod yn rhan o Brif Bwyllgor Rhwydwaith B.A.M.E. y Gronfa wedi bod yn un o fy nghyflawniadau allweddol yma – mae wedi fy helpu i ddod o hyd i fy llais. Nid gofod yn unig yw’r Rhwydwaith B.A.M.E. lle’r ydym yn cyfarfod i drafod materion sy’n effeithio arnom, ond mae hefyd yn lle i ni feddwl am syniadau ar sut y gall pethau fod yn wahanol a’r hyn y gallwn ei wneud i roi newid ar waith.
“Rwy’n annog pob cymuned i wrando ar leisiau menywod Du, cydnabod eu cyfraniadau, peidio â gwneud unrhyw ragdybiaethau – a dweud y gwir, heriwch eich rhagdybiaethau – chwilio amdanynt ‘yn yr ystafell neu wrth y bwrdd’ a dod â nhw i mewn os nad ydynt yno’n barod. Cymerwch ran yn nathliadau Mis Hanes Pobl Ddu, darllenwch y straeon sy’n cael eu hadrodd ac yna rhannwch nhw gyda rhywun rydych chi’n ei adnabod.
Fiona Joseph, Rheolwr Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)
“Fel cyn-athrawes hanes ac awdur llyfrau hanesyddol, credaf ei bod yn hollbwysig ein bod yn astudio hanes Du yn ei chyfanrwydd. Mae Mis Hanes Pobl Ddu yn gyfle gwerthfawr i ddysgu ac mae’n werth dathlu’r straeon unigol a’r cyfraniad cyfunol a wnaed gan genhedlaeth Windrush. Mae'n rhan mor bwysig o hanes y Deyrnas Unedig ac mae'n siapio'r hyn yw'r Deyrnas Unedig heddiw.
“Rwy'n falch i weithio yma oherwydd mae gan y Gronfa bwrpas anhygoel a strategaeth ariannu uchelgeisiol newydd sy’n seiliedig ar degwch - darllenwch am hyn mewn blog blaenorol. I mi, mae hyn yn golygu cael pobl sydd wedi’u grymuso i wneud eu gwaith gorau; arweinyddiaeth hyderus ac ysbrydoledig; diwylliant, polisïau a phrosesau sy'n gynhwysol ac yn deg; gweledigaeth strategol EDI fentrus; a chreu'r strwythur sefydliadol mwyaf effeithiol i ni ddefnyddio a rhyddhau'r egni cyfunol gwych hwn.
“Mae gweithio yn y maes EDI yn golygu delio â chanlyniadau annhegwch strwythurol a systemig mewn cymdeithas, gan hefyd geisio creu newid sefydliadol a chymdeithasol. Mae'n llawn cymhlethdod ac yn gofyn am lawer o feddwl dwfn. Yn fy rôl, rwy’n falch i ddod â gwahanol bobl a grwpiau ynghyd i ymgysylltu â materion EDI trwy ddeialog iach a pharchus. Mae hefyd yn wych gweld Fforwm Cydweithwyr EDI y Gronfa yn gweithio gydag egni ac ymrwymiad i wneud argymhellion i wella ein sefydliad.
“Mae yna adegau pan nad yw merched Du yn cael eu 'gweld' neu eu 'clywed' yn awtomatig yn y ffordd y mae pobl nad ydynt yn Ddu. Mae llawer o ymchwil academaidd ar ymdeimlad o bŵer (neu ddiffyg hynny) ymysg menywod Du yn y gweithle i gefnogi hyn - mae astudiaethau o'r fath yn rhwystredig, os nad yn ddigalon, i'w darllen. Yn ffodus, mae hunan-eiriolaeth o fewn eich rheolaeth, a daw'r ffurf orau o eiriolaeth o'r tu mewn. Byddwch yn hyderus am bwy ydych chi, y gwerthoedd sydd gennych, a chofiwch ba nodweddion rydych chi'n eu cynnig, boed hynny yn y gweithle neu mewn perthnasoedd personol. Felly, mae’r ffordd yr ydw i'n dewis ymddangos yn y byd hwn - gyda phositifrwydd, brwdfrydedd a rhywfaint o ddewrder - o fewn fy rheolaeth.
“Hoffwn rannu rhai egwyddorion cyffredinol ar gyfer ymddygiad caredig a chynhwysol y gellir ei gymhwyso i fenywod Du ac i bawb… Cynigiwch eiriau o anogaeth a gwerthfawrogiad neu ganmoliaeth ddiffuant – gallai wneud byd o wahaniaeth i hyder a chymhelliant rhywun. Rhowch glod am syniadau, gwybodaeth a doethineb person – yn enwedig pan ddaw o brofiad neu ddysgu o’u bywyd. Gwrandewch yn gyntaf, gydag empathi ac mewn ffordd anfeirniadol - gall cael eich clywed yn wirioneddol wneud i berson deimlo wedi’u grymuso.”
Pynciau: