Mis Hanes Pobl Ddu: Sut mae arian y Loteri Genedlaethol yn cefnogi cymunedau i goffáu Windrush 75
Mae Fiona Joseph, Rheolwr Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn adlewyrchu ar ddathlu Windrush 75 ac yn rhannu pam bod yr achlysur hwn yn bwysig iddi’n bersonol.
“Mae Mis Hanes Pobl Ddu a Windrush 75 yn atseinio'n gryf iawn gyda mi ac yn ennyn ymdeimlad gwirioneddol o falchder. Mae fy nhad o genhedlaeth Windrush; daeth o Challengers Village yn St Kitts i Birmingham ym mis Mai 1959. Gweithiodd yn gyntaf ar y rheilffyrdd ac yna treuliodd weddill ei fywyd gwaith ar y llinell gynhyrchu yn ffatri geir Austin yn Longbridge.
“Rwy’n falch iawn o’r cyfraniad anhygoel y mae ef ac eraill o genhedlaeth Windrush wedi’i wneud i fywyd cymdeithasol ac economaidd y DU. Mae fy 'Pop' yn ddiymhongar iawn ac ef fyddai'r person olaf i ystyried ei hun yn arwrol neu'n deilwng o gael ei ddathlu.
“Dyma pam y cefais yr anrhydedd o ymuno ag un o’r 140 o brosiectau cymunedol a dderbyniodd cyfran o fwy na £1.2 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol ledled y DU eleni i goffáu 75 mlynedd ers Windrush.”
Yn gynharach eleni, cynhaliodd Eglwys Sant Paul yn Balsall Heath ei 'Dawns Swper Windrush' fel rhan o Benwythnos Cymunedol y Maer yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr. Roedd y digwyddiad yn gyfle i bobl leol ddod ynghyd a dathlu’r cyfraniad anhygoel y mae cenhedlaeth Windrush wedi’i wneud i’r ardal leol a thu hwnt.
“Roedd yn wych gweld y gymuned leol yn dod ynghyd, gyda Maer Gorllewin Canolbarth Lloegr Andy Street, i dalu teyrnged i gyfraniad economaidd y bobl hynny a ddaeth o’r Caribî i helpu gyda phrinder llafur yn y DU ar ôl y rhyfel.
“Fe wnaethon ni fwynhau gweddi ddiolchgarwch cyn rhannu bwyd Caribïaidd gwych, gan gynnwys cyw iâr jerk, cyri gafr, a reis a phys. Eisteddais wrth fwrdd gyda grŵp o fenywod a buom yn cyfnewid straeon ac atgofion o'r gorffennol. Roedd amrywiaeth o gerddoriaeth reggae a soul o'r 1970au yn chwarae dros y system sain, a aeth â mi yn ôl i fy mhlentyndod ac a wnaeth i ni ddawnsio yn ein seddau. O amgylch yr ystafell roedd arddangosfeydd ffotograffig o hanes Windrush ac roedd aelodau o'r grŵp hanesyddol ‘Why Are West Indians’ yn bresennol.
“Nid oes modd mesur effaith cymuned o wahanol gymunedau ffydd a chenedlaethau yn uno mewn dathliad o ran rhifau neu ystadegau. Serch hynny, roedd ysbryd cymunedol go iawn yn yr ystafell sy'n codi cymunedau yn ystod cyfnodau anodd.
“Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i nodi pen-blwydd pwysig a chysylltiedig arall – 75 mlynedd ers sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Roedd Liz, nyrs gynorthwyol yn Ysbyty Plant Birmingham, yn un o blith nifer o fenywod Du ysbrydoledig y gwnes i gyfarfod â nhw ar y diwrnod. Mae Liz yn gofalu am fabanod a phlant hyd at bump oed. Ar wahân i gofleidio’r babanod – rhywbeth y mae hi’n ei garu – mae ei rôl yn aml yn golygu cefnogi rhieni a gofalwyr pan fyddant yn ofidus, yn bryderus neu’n galaru. “Dwi’n gofalu am yr oedolion cymaint ag yr wyf yn gofalu am y babanod a’r plant,” meddai hi. Cefais fy ysbrydoli gymaint gan ei hagwedd gariadus a’i hymroddiad i’w gwaith.”
Darllenwch ragor gan Fiona a menywod Du ysbrydoledig eraill yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am bwysigrwydd dathlu Mis Hanes Pobl Ddu yn ein blog blaenorol.