Mis Hanes Pobl Ddu: Pwysigrwydd cael amrywiaeth a phrofiad bywyd wrth ddyfarnu grantiau
Wrth i Fis Hanes Pobl Ddu 2023 ddod i ben, mae Danielle Walker Palmour, aelod o'r Bwrdd yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Chyfarwyddwr Sefydlu Friends Provident Foundation, yn rhannu pwysigrwydd cael amrywiaeth a phrofiad bywyd wrth ddyfarnu grantiau.
“Os byddwch yn mynd at unrhyw grŵp o gyllidwyr dyngarol yn Llundain, Caeredin, Belfast, Caerdydd neu Birmingham, byddwch yn gweld nad oes llawer o bobl Ddu yn y maes ariannu traddodiadol yn y DU. Credwch chi fi, fel Prif Swyddog Gweithredol ymddiriedolaeth rhoi grantiau a chyllidwr gweithredol ers dros 27 mlynedd, dwi wedi cerdded i mewn i sawl ystafell o’r fath. Mae'r ystadegau diweddaraf* yn dangos bod 92% o ymddiriedolwyr sefydliadau’n Wyn; mae cymhareb 2:1 rhwng dynion a menywod; ac mae 60% o ymddiriedolwyr dros 65 oed.
"Ac eto, rydym yn gwybod o'n portffolios ariannu bod cymunedau Du yn llawn gweithgareddau gwirfoddol sy'n mynd i'r afael ag anghenion ac yn cysylltu pobl gyda'i gilydd. Canfuodd arolwg diweddar gan y llywodraeth yn Lloegr mai pobl Ddu oedd y mwyaf tebygol o unrhyw set o grwpiau ethnig i gymryd rhan mewn gweithgarwch gwirfoddoli rheolaidd - llawer uwch na'r cyfartaledd.
"Fe wnaeth adroddiad diweddar gan y fenter #GiveBlack drafod syniadau o fy ngwlad enedigol, yr Unol Daleithiau, lle mae dyngarwch Du a thraddodiadau rhoi wedi'u cofnodi'n well. Yn y llenyddiaeth yno, mae rhoi ar y cyd mewn cymunedau Du wedi’i grynhoi gan dri pheth: amser, talent, a thrysor. Rwy'n credu bod hyn yn cydweddu'n dda â'r hyn a welwn yma yn y Deyrnas Unedig. Mae 'amser' yn cyfeirio at y gwirfoddoli a welwn yn cael ei gynrychioli mor gryf yn ystadegau'r llywodraeth; 'talent' i roi sgiliau a gwybodaeth i nodau cymunedol; a 'thrysor' i'r cyllid ac adnoddau eraill sydd eu hangen i ddod â phrosiectau cymunedol i fodolaeth.
"Yn y DU, mae'r datgysylltiad rhwng y profiad bywyd o weithgarwch cymunedol hanfodol a llewyrchus - yr 'amser' a'r 'talent' - sy'n amlwg yng nghymunedau Du Prydeinig, a rheolaeth yr arian sydd ei angen i gefnogi'r gweithgarwch hwnnw - y 'trysor' - yn amlwg.
"Trwy ein strategaeth newydd gyda’i hymrwymiad newydd i gefnogi gweithredu ar draws y gymuned, rydym yn gobeithio pontio'r rhaniad hwn. Rwy'n falch o fod ar Fwrdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol lle mae fy holl gydweithwyr ar y Bwrdd yn rhannu nod i sicrhau bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar grantiau, pwyllgorau a phaneli ariannu, yn cynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd o'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rydym bellach yn gweithio gyda thimau ym mhob un o bedair gwlad y DU i wireddu hyn.
"Mae'r Bwrdd hefyd wedi ymrwymo i weithio gyda chydweithwyr ledled Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i wneud ein gweithle yn rhywle lle gall pobl o liw, ac unrhyw un sy’n wynebu gwahaniaethu, ffynnu a chyflawni eu nodau personol a phroffesiynol. Mae'r Bwrdd wedi sefydlu Is-bwyllgor Pobl i gynnal ffocws manwl ar ddiwylliant, ffyrdd o weithio a monitro ein cynnydd yn y maes hwn.
"Fel cyllidwr, rydyn ni'n gwybod nad ydyn ni yno eto ond rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i symud ymlaen gyda hyn yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.
"Mae Mis Hanes Pobl Ddu yn adeg pan rydym yn cydnabod cyfraniad hanesyddol pobl Ddu i fywyd yn y DU. Gyda'n gilydd, trwy ein strategaeth newydd a'n harferion fel cyflogwr sydd wedi ymrwymo i gyfiawnder o ran hil a thegwch, gallwn chwarae rhan wrth sicrhau bod traddodiadau cryf gweithredu cymunedol yn parhau i'r dyfodol."
Darllenwch ein blogiau Mis Hanes Pobl Ddu eraill: 'Dathlu menywod Du ysbrydoledig o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol' a 'Sut mae arian y Loteri Genedlaethol yn cefnogi cymunedau i goffáu Windrush 75'.
* Lee et al (2017) Taken on Trust - The awareness and effectiveness of charity trustees in England and Wales. Centre for Charity Effectiveness, Cass Business School.