"Mae dysgu sgiliau cyfrifiadurol yn rhoi llawenydd a chred i’n myfyrwyr y gallant gyflawni beth bynnag y dymunant ei wneud."
Mae Sovereign House GH yn gweithio i rymuso a gwella bywydau plant sy'n wynebu anfantais. Wedi'i leoli yn Salford, mae eu Rhaglen Dysgu Cyfrifiadurol (CLP) yn datblygu sgiliau cyfrifiadurol plant, ynghyd â chymorth bugeiliol i fagu eu hyder a'u cyflogadwyedd yn y dyfodol.
Dyma Irene Lockett, sylfaenydd Sovereign House GH, yn adlewyrchu ar lwyddiannau'r CLP a sut mae cyllid Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol wedi helpu'r prosiect i gael mwy o effaith yn y gymuned.
Dywedwch wrthym am y Rhaglen Dysgu Cyfrifiadurol
Rydym yn gweithio gydag athrawon gwirfoddol o brifysgolion lleol i addysgu plant na fyddent fel arall yn cael cyfle i ddysgu sgiliau cyfrifiadurol. Mae'r dosbarthiadau'n cwmpasu popeth o hanfodion digidol i godio cymhleth a gwybodaeth seiber.
Mae'r plant a’r bobl ifanc hyn o ardaloedd mwyaf difreintiedig y DU, ac nid oes ganddynt fynediad at gyfrifiaduron. Mae'n her aml-genhedlaeth lle nad oes gan rieni wybodaeth ddigidol yn aml chwaith.
Mae ein myfyrwyr hefyd gan amlaf yn BAMER (Du, Asiaidd, Ethnig Leiafrifol a Ffoaduriaid), sy'n delio â materion cymdeithasol sy'n gallu arwain at waharddiad o'r ysgol a thueddiadau ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
Rydym yn helpu plant sy'n dymuno dysgu ac yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu sgiliau cadarnhaol, gan roi lle iddynt siarad am faterion y maent yn eu hwynebu gyda chyfoedion ac oedolion dibynadwy. Rydym yn gwahodd gweithwyr proffesiynol lleol i sgwrsio am eu profiadau a'u dyheadau yn y dyfodol, gan arddangos y posibiliadau o gyfranogiad brwdfrydig mewn dosbarthiadau.
Sut mae CLP yn helpu plant a phobl ifanc i ffynnu?
Mae ein myfyrwyr nid yn unig yn cyflawni o fewn ein dosbarthiadau ond maent wedi mynd ymlaen i ddangos gwelliannau enfawr yn eu dosbarthiadau ysgol, oherwydd y sgiliau datrys problemau a meddwl beirniadol y maent yn eu datblygu wrth ddysgu o’r CLP. Mewn technoleg gwybodaeth, mae ein myfyrwyr yn gwneud yn well mewn dosbarthiadau ac arholiadau na’u cyfoedion.
Mae myfyrwyr hefyd yn gallu cefnogi eu rhieni a'u cymdogion i gael mynediad at wasanaethau hanfodol ar-lein, gan gynyddu cyrhaeddiad ac effeithiolrwydd mentrau eraill sydd wedi'u cynllunio i gefnogi'r gymuned ehangach. Maen nhw wedi cynyddu rheolaeth dros eu profiad digidol, gan ei ddefnyddio i ddatrys problemau ac amlygu dyfodol gwell – gan anelu at yrfaoedd ac addysg uwch a allai fod wedi bod allan o’u cyrhaeddiad fel arall.
Rydym hefyd yn gweld manteision i'n gwirfoddolwyr cymunedol, sy'n teimlo eu bod yn gysylltiedig â phwrpas ac yn cael boddhad aruthrol wrth gefnogi ein plant i gyrraedd eu potensial.
Sut oedd eich profiad o ymgeisio i Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol am y tro cyntaf?
Daethom yn ymwybodol o raglen Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol trwy Salford CVS, a ddywedodd y byddai'n gweddu'n dda i'n gweithgareddau a gwnaethant gynnal cwrs hyfforddi ar sut i ymgeisio. Gwelsom yn fuan nad oedd ymgeisio yn anodd ac roedd y cwestiynau'n syml.
Ar ôl i’n cais lwyddo, mae ein grant wedi ein helpu i ehangu a chyrraedd llawer mwy o fuddiolwyr na fyddent fel arall wedi cael mynediad i'r rhaglen hon.
Oherwydd problemau staffio, dim ond dwy sesiwn yr wythnos yr oeddem yn gallu eu cynnal, ond roedd y grant hwn wedi’n galluogi i gyflogi staff a chynyddu ein capasiti. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal sesiynau bob dydd a gallwn ddenu staff, naill ai fel gwirfoddolwyr neu aelodau o'r tîm.
Byddwn yn annog unrhyw un sy'n ystyried ymgeisio i fynd amdani! Sicrhewch eich bod yn ateb cwestiynau'r cais yn fanwl, oherwydd yn y pen draw chi sy’n adnabod eich cymuned yn well na neb.
Beth yw cynlluniau CLP ar gyfer y dyfodol?
Rydym yn cynnal ein dosbarthiadau yn Salford mewn canolfan gymunedol, gyda nifer cyfyngedig o oriau mynediad bob wythnos. Gyda'r newidiadau i Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol, gallai grant mwy yn y dyfodol olygu y gallwn addasu ein model dysgu i fynd i'r afael â llawer mwy o gyd-destunau. Byddai cael lle i gynnal gwersi drwy’r dydd yn amhrisiadwy.
Rydym yn gobeithio mynd ymhellach i fynd i'r afael â'r diffyg sgiliau digidol ymysg oedolion yn y gymuned, yn enwedig rhieni, a fyddai wedyn yn gallu cefnogi eu plant yn well. Hoffem hefyd gyfrannu at ddarpariaeth amgen i fyfyrwyr, gan eu helpu i barhau i gymryd rhan mewn addysg.
Ein nod yw hwyluso grwpiau cymunedol eraill sydd ag anghenion penodol i ddarparu rhaglenni digidol wedi'u teilwra, boed hynny mewn iaith arall, ar gyfer demograffig penodol, neu i fynd i'r afael ag anghenion mynediad. Byddai cael rheolaeth dros leoliad a mynediad llawn amser yn rhan enfawr o hyn.
Rydym yn edrych ymlaen at ddyfodol ein sefydliad.