Grwpiau cymunedol Teesside yn arwain y ffordd ar weithredu hinsawdd!
Gwnaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol addewid i gefnogi cymunedau ledled y DU i fod yn amgylcheddol gynaliadwy trwy gynnwys yr amgylchedd fel un o themâu allweddol ein strategaeth 2030.
Fel rhan o'r uchelgais strategol hwn, rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio ein safbwynt unigryw fel ariannwr cymunedol mwyaf y DU i rannu arferion da ar draws y sector a thu hwnt a dangos y rôl y gall cymunedau ei chwarae wrth wella ein hamgylchedd.
Yn ddiweddar, mynychais arbrawf aml-sector cyffrous i ymweld â dau brosiect anhygoel a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yn Teesside, sy’n gweithio i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Wedi'u trefnu drwy'r fenter MovingBeyond, mynychwyd yr ymweliadau gan gynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau cenedlaethol a lleol, gan gynnwys NatWest, Quorn Foods, BP, Shell a North of Tyne Combined Authority.
Nod MovingBeyond yw "dod â busnesau, buddsoddwyr, y llywodraeth a chymdeithas ynghyd i gyflymu ymateb y DU i newid hinsawdd ac adeiladu ffordd fwy cynaliadwy o fyw".
Mae casglu'r 'cydweithrediad anarferol' hwn o bartneriaid mewn lleoliad preswyl dros sawl diwrnod yn caniatáu i berthnasoedd pwerus gael eu meithrin, i wirioneddau anghyfforddus gael eu harchwilio, a lle i ddatrysiadau creadigol ddatblygu.
Gyda'i amgylchiadau economaidd heriol yn dilyn nifer o weithfeydd cemegol mawr yn cau dros y blynyddoedd diwethaf, ynghyd â'i weledigaeth gyffrous o ddyfodol fel arweinydd byd-eang mewn ynni glân a chynhyrchu hydrogen, darparodd Teesside gefndir perffaith ar gyfer y digwyddiad hwn.
Roeddwn yn falch iawn o gyflwyno arweinwyr busnes i'r gwaith ysbrydoledig y mae grwpiau cymunedol yn ei wneud yn ddyddiol, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Mae eu gwaith gyda thrigolion yn ymgysylltu pobl â realiti newid hinsawdd ac yn cynnig camau ymarferol a diriaethol y gall pobl eu cymryd i helpu ein symudiad hanfodol tuag at ddyfodol sero net.
Daeth arweinwyr busnes yn ôl wedi'u hysbrydoli; i'r rhan fwyaf roedd yn agoriad llygad. I rai, roedd yn emosiynol. Mae'n dangos y pŵer o ddod â phobl sy'n gweithio mewn sectorau gwahanol iawn at ei gilydd i ddeall realiti dyddiol gweithio yn y gofod hwn, ac i geisio ysbrydoliaeth o'r man mwyaf annisgwyl. Oherwydd, yng ngeiriau'r tîm MovingBeyond: "Mae'r gwaith yma'n galed".
Rwy'n falch o rannu cipolwg gan ddau o fy nghydweithwyr ariannu o'r hyn a welsom ar yr ymweliadau hyn, a'r hyn sy'n bosibl pan fydd pobl a chymunedau'n chwarae rhan flaenllaw wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae'r ddau grŵp hyn yn cael eu hariannu drwy ein rhaglen Cronfa Gweithredu Hinsawdd gwerth £100 miliwn. Gallwch ddarganfod mwy am y rhaglen hon yma, gyda chyhoeddiad ariannu newydd yn dod yn fuan i gefnogi cymunedau i ddod ynghyd i ysbrydoli gweithredu hinsawdd
Middlesbrough Environment City (gan Julie Coxon, Swyddog Ariannu)
Mae'n anodd rhoi mewn geiriau pa mor bwysig yw Middlesbrough Environment City (MEC) i weithredu amgylcheddol yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr. Yn dilyn yr ymweliad, adlewyrchaf bod hwn yn brosiect blaenllaw ar gyfer gwaith amgylcheddol yn y rhanbarth. Yn ystod yr ymweliad, clywsom am y gwaith partneriaeth anhygoel sy'n digwydd gyda grwpiau cymunedol lleol fel ACTES, LINX Youth Project a The Other Perspective, i rymuso preswylwyr i gymryd camau amgylcheddol tra'n gwella eu lles eu hunain hefyd.
Roedd yn wych clywed sut mae prosiect Climate Action Middlesbrough – sy’n bosibl diolch i fwy na £1.5 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol - yn gweithio i leihau ôl-troed carbon y dref ac annog trigolion i fyw bywydau mwy cynaliadwy. Gan weithio ar draws meysydd bwyd cynaliadwy, trafnidiaeth, defnydd ynni domestig, gwastraff a’r amgylchedd naturiol, mae'r prosiect yn adeiladu ar y mudiad llawr gwlad sydd eisoes wedi'i hen sefydlu ledled y dref i leihau ôl-troed carbon Middlesbrough. Mae'n arbennig o gyffrous clywed sut mae'r prosiect yn rhoi pobl ifanc yn ganolog i'w uchelgais, gan eu grymuso i godi llais o ran mynd i'r afael â newid hinsawdd.
Mae'r gwasanaethau eraill a ddarperir gan MEC yn cynnwys:
- Siopau eco dros dro ar draws y dref, gan arbed cannoedd o dunelli o fwyd da o safleoedd tirlenwi.
- The Green Hub, sy'n darparu cyngor dyddiol i drigolion ar amrywiaeth o bynciau, o gynhesrwydd fforddiadwy gartref i gyfleoedd gwirfoddoli lleol.
- Rooted in Nature, rhaglen lles sy'n seiliedig ar fyd natur ar gyfer pobl sy'n profi problemau iechyd meddwl. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys coginio gyda thân, garddio, myfyrdod a gwehyddu basgedi.
- Ac wrth gwrs, rhaid crybwyll beic smwddi anhygoel Middlesbrough Environment City (lluniau isod!) sydd nid yn unig yn hwyl, ond sydd hefyd yn arwain at smwddis blasus, iach!
Adlewyrchiad terfynol: Dyma un o'r diwrnodau gorau i mi ei gael yng fy ngwaith gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol! Rwy’n edmygu pa mor frwdfrydig oedd pawb a pha mor hawdd oedd y sgyrsiau’n llifo. Roedd yn agoriad llygad go iawn!
Daisy Chain, Stockton-on-Tees (gan Beth Barker, Swyddog Portffolio’r DU)
Wedi'i sefydlu yn 2003, mae Daisy Chain wedi tyfu o fod yn brosiect bach ar lawr gwlad sy'n cael ei redeg gan deulu i fod y darparwr mwyaf o wasanaethau cymorth cyfannol i bobl sydd wedi'u heffeithio gan awtistiaeth ac anableddau niwroddatblygiadol yn Nyffryn Tees. Yn 2022/23 yn unig, cefnogodd dros 5,000 o deuluoedd a chyrchodd dros £500,000 mewn budd-daliadau heb eu hawlio ar gyfer oedolion awtistig.
Fodd bynnag, nid yw'r elusen yn stopio yno! Yn 2021, dyfarnwyd mwy na £150,000 o arian y Loteri Genedlaethol iddo ddod o hyd i ddatrysiad i wastraff tecstilau ffasiwn cyflym trwy ail-bwrpasu'r rhoddion tecstilau y mae'n eu derbyn drwy ei siop elusen. Amcangyfrifir bod y diwydiant ffasiwn yn gyfrifol am oddeutu 10% o allyriadau carbon byd-eang blynyddol. Drwy ei phrosiect arloesol NeuThread, mae Daisy Chain yn creu dillad sy'n ailddefnyddio ffibrau a thecstilau sy’n bodoli eisoes, gyda'r nod o leihau allyriadau carbon ac arbed dŵr, ynni a chemegau.
Roedd yn wirioneddol wych gweld Daisy Chain yn datblygu, dylunio, arddangos ac ailwerthu cynhyrchion ffasiynol, tra hefyd yn datblygu sgiliau a darparu lleoliadau gwaith yn y gymuned leol.
Ac os nad yw hynny'n ddigon, diolch i'r tîm gwych o wirfoddolwyr, mae Daisy Chain hefyd yn cyfrannu at fasnach leol trwy dyfu ei llysiau ei hun a gwerthu 'blychau llysiau' i'r cyhoedd, yn ogystal â chyflenwi masnachwyr lleol.
Rydym mor ddiolchgar i Daisy Chain am ddangos i ni y gall gweithredu cymunedol ac amgylcheddol fynd law yn llaw!