Ehangiad mwyaf arian y Loteri Genedlaethol ers tri degawd
Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, credwn fod cysylltiadau cymdeithasol a gweithgareddau cymunedol wrth wraidd creu cymunedau iachach, hapusach a chymdeithas sy’n ffynnu.
Dyma pam rydym yn cefnogi prosiectau cymunedol anhygoel, a pham rydym yn bwriadu gwneud gwahaniaeth mwy dros y blynyddoedd nesaf drwy wrando ac ymateb i gymunedau a chanolbwyntio ar gefnogi newid mwy mentrus.
Pan gyhoeddwyd ein strategaeth newydd, ‘Cymuned yw’r man cychwyn’, dywedom y byddwn yn cefnogi’r hyn sydd bwysicaf i wahanol gymunedau drwy dargedu darpariaeth ar draws ein pedwar nod cymunedol a chanolbwyntio ar le y mae’r angen mwyaf.
Heddiw, rwy’n gyffrous i rannu ein Cynllun Corfforaethol newydd sy’n nodi ein targedau uchelgeisiol ar gyfer y tair blynedd nesaf i gyflawni’r strategaeth honno a chefnogi’r hyn sy’n bwysig i gymunedau ledled y DU.
Mae’n gynllun datblygu uchelgeisiol sy’n bwriadu arloesi, dysgu ac addasu. Rydym yn pwysleisio partneriaethau oherwydd rydym yn gwybod pŵer gweithio ag eraill. Ac rydym wedi rhoi ein pobl, a fydd yn llywio ac yn cyflawni hyn, yn ganolog i hynny.
Mae'r cynllun newydd yn rhoi mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a defnyddio ymagwedd sy'n seiliedig ar degwch wrth wraidd yr hyn a wnawn. Fel ariannwr cymunedol mwyaf y DU, byddwn yn buddsoddi’r mwyaf yn yr ardaloedd mwy difreintiedig. Dyma pam rydym yn addo ehangu ariannu llawr gwlad i gymunedau ledled y DU ac yn gosod targed y bydd mwy na 50% o’r grantiau’n mynd i gymunedau sy’n profi’r tlodi ac anfantais fwyaf.
Dywedom hefyd y byddwn yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer gweithredu hinsawdd ar draws ein holl raglenni ariannu, ac y byddem yn buddsoddi mewn prosiectau amgylcheddol penodol, fel y gall cymunedau helpu creu planed iach. Felly, rydym yn addo ymrwymo 15% o’r cyllid ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol a chefnogi prosiectau i ystyried yr amgylchedd hyd yn oed pan nad dyna yw eu prif ffocws.
Bob tri munud, mae cymuned yn rhannu syniad gyda ni, felly rydym yn gwybod pŵer gweithio ag eraill a phwysigrwydd rhoi pobl a chymunedau yn ganolog i lywio a chyflawni ein cynllun. Dyma pam rydym wedi rhoi pwyslais ar bartneriaethau, a byddwn yn anelu at weld mwy nag 80% o gymunedau lleol yn ymgeisio ar gyfer arian y Loteri Genedlaethol, er mwyn iddo gyrraedd cymunedau ledled y DU, o Bude i Ballyclare, Brynmawr i Bannockburn.
A thrwy gymunedau lleol, rydym wir yn golygu cymunedau lleol – i lefel llawr gwlad gyda phoblogaeth o 7,500 fel arfer. Dyma’r ehangiad mwyaf yn arian y Loteri Genedlaethol ers tri degawd.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, byddwn yn dosbarthu o leiaf £4 biliwn pellach erbyn 2030 er mwyn cefnogi gweithgareddau a fydd yn cryfhau cymdeithas ac yn gwella bywydau.
Dros yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi treulio amser gyda sefydliadau seilwaith lleol yng Nghynhadledd Flynyddol NAVCA ac yn ymweld â phrosiectau fel Family Volunteering Club. Mae arian y Loteri Genedlaethol yn gwneud gwahaniaeth go iawn yn ein cymunedau, ac mae prosiectau fel Family Volunteering yn cyflwyno gwirfoddoli i blant yn gynnar iawn, fel bod pob plentyn yn teimlo’n gysylltiedig â’i gymuned leol.
Rydym ni’n ymrwymo heddiw y byddwn ni’n eglur ac yn atebol ac yn gweithio’n galed i gyflawni ein nod – a’r hyn rydym ni’n ei wybod: cymuned yw’r man cychwyn.
Darllenwch ein cynllun: https://www.tnlcommunityfund.org.uk/media/documents/corporate-documents/Corporate-Plan-2024-27-w.pdf