Cefnogi’r hyn sydd bwysicaf i gymunedau ledled Cymru
Credwn mai ‘Cymuned yw’r man cychwyn’ – gyda phobl yn cysylltu â’i gilydd ac yn cydweithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl a chymunedau ledled Cymru. Hoffem adeiladu ar gefnogi prosiectau cymunedol gwych a dyma pam rydym yn adnewyddu ein cynnig ariannu yng Nghymru yn unol â chyfeiriad ein strategaeth newydd.
Pan gyhoeddwyd ein strategaeth newydd, ‘Cymuned yw’r man cychwyn’ ym mis Mehefin 2023, dywedom y byddem yn cefnogi’r hyn sydd bwysicaf i wahanol gymunedau drwy dargedu darpariaeth ar draws ein pedwar nod cymunedol a chanolbwyntio ar le y mae’r angen mwyaf. Yr wythnos hon, lansiwyd ein Cynllun Corfforaethol sy’n gosod ein targedau uchelgeisiol dros y tair blynedd nesaf i gyflawni ein strategaeth.
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru: “Rydym yn bwriadu gwneud gwahaniaeth mwy dros y blynyddoedd nesaf a byddwn yn canolbwyntio’n fwy ar ein pedwar nod newydd sy’n cefnogi cymunedau i ddod ynghyd, bod yn fwy amgylcheddol gynaliadwy, helpu plant a phobl ifanc i ffynnu a galluogi pobl i fyw bywydau mwy iach.
“Byddwn yn rhoi mwy o ffocws ar fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, sy’n golygu y byddwn yn canolbwyntio’n fwy ar y mannau, pobl a chymunedau sy’n profi tlodi, anfantais a gwahaniaethu yng Nghymru. Byddwn hefyd yn cefnogi gweithredu amgylcheddol ar draws ein holl raglenni ariannu, gan fuddsoddi mewn cynaliadwyedd amgylcheddol a chefnogi prosiectau i ystyried yr amgylchedd hyd yn oed pan nad dyna yw eu prif ffocws.”
“Rydym felly’n adnewyddu ein cynnig ariannu yng Nghymru i sicrhau ein bod yn adeiladu ar yr hyn y dywedodd y cyhoedd a rhanddeiliaid wrthym oedd eu prif flaenoriaethau ar gyfer Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru. Rydym eisoes wedi cynyddu uchafswm maint grantiau Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol i £20,000, ac rydym wrthi’n adnewyddu’r rhaglen Pawb a’i Le ar hyn o bryd ac yn datblygu ffrwd ariannu newydd i ganolbwyntio ar y cysylltiad rhwng lles plant a’r amgylchedd naturiol.”
Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn unigryw o ran ymateb i argyfwng COVID-19 yn 2020-21 ac yna’r cynnydd arwyddocaol o ran costau byw. Ers 2022 rydym wedi dyfarnu £9,891,262 i 269 o brosiectau sy’n mynd i’r afael â heriau costau byw. Dros y 12 mis diwethaf, mae’r data’n dangos bod y galw cyffredinol wedi lleihau, gyda’r rhan fwyaf o grantiau ar gyfer prosiectau sy’n darparu bwyd fel clybiau brecwast, pantrïau bwyd neu fanciau bwyd. Mewn ymateb i’r tuedd hwn, rydym wedi symleiddio ein blaenoriaethau ar gyfer grantiau costau byw i ganolbwyntio ar effeithiau uniongyrchol o ran bwyd, gwres a heriau hylifedd yn y tymor byr. Gweler rhagor o fanylion yma
Ychwanegodd John Rose: “Gwyddom fod ein hymateb argyfwng dros y ddwy flynedd ariannol diwethaf wedi chwarae rôl bwysig wrth helpu lleihau sioc sydyn y costau byw i gymunedau yng Nghymru. Bydd ein grantiau’n parhau i fod yn ymatebol i’r anghenion hyn sydd wedi gwaethygu yn sgil yr argyfwng costau byw, ond byddwn yn canolbwyntio’n fwy ar ystyried sut allwn ni gefnogi ein deiliaid grant i ddatblygu eu gwytnwch i risgiau posibl yn y dyfodol.”
Mae ein ffrydiau ariannu agored presennol yng Nghymru’n cynnwys:
Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol
Ffordd gyflym i ymgeisio am symiau llai o arian rhwng £300 a £20,000.
Pawb a’i Le: Grantiau canolig
Ariannu prosiectau cyfalaf a refeniw cymunedol o £20,001 hyd at £100,000 ac hefyd yn gallu ariannu hyd at £50,000 i brosiectau sy’n diwallu heriau costau byw yn uniongyrchol
Pawb a’i Le: Grantiau mawr
Ariannu prosiectau cyfalaf a refeniw cymunedol o £100,001 hyd at £500,000.
Cefnogi syniadau gwych
Dyfarnu grantiau £20,001 a throsodd i gefnogi syniadau prosiect arloesol a strategol bwysig sy’n annog newid cymdeithasol cadarnhaol yng Nghymru.
Cronfa’r Deyrnas Unedig
Ariannu sefydliadau sydd eisiau gwneud mwy i helpu cymunedau ddod ynghyd a’n helpu i fod yn gymdeithas fwy cysylltiedig. Mae grantiau’n dechrau o £500,000 hyd at £5 miliwn.
Cronfa Gweithredu Hinsawdd – Ein Dyfodol Ni
Gyda’r rhaglen hon, hoffem gynnwys rhagor o bobl mewn gweithredu hinsawdd. Hoffem ysbrydoli newid mentrus a chyffrous. Mae’n addas i bartneriaethau ffurfiol sy’n gweithio ar draws sectorau. Dan arweiniad sefydliadau cymunedol a gwirfoddol neu sefydliadau’r sector cyhoeddus.
Maint y grant
Yr isafswm y gallwch ofyn amdano yw £500,000. Rydym yn disgwyl ariannu'r rhan fwyaf o brosiectau am rhwng £1 miliwn ac £1.5 miliwn dros gyfnod o 3 i 5 mlynedd. Efallai y byddwn yn ariannu nifer fach o brosiectau mwy neu hirach. Cysylltwch â ni os hoffech drafod hyn. Rydym yn anelu at ariannu hyd at 25 o brosiectau ar draws y DU.
I gael gwybodaeth am ddatblygiadau i’n grantiau yng Nghymru, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i ddeiliaid grant yma a darllenwch am ein rhaglenni ariannu yng Nghymru ar ein gwefan.
Dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu dros fil o grantiau i grwpiau cymunedol ac elusennau ledled Cymru gyda chyfanswm o £36,772,113. Mae’r grantiau hyn yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Astudiaethau achos
Hope Church
Rhoddwyd grant £78,000 i Hope Church Merthyr Tydfil dros ddwy flynedd i helpu ehangu ei gynnig i gymunedau drwy gynnig sawl gwasanaeth mewn un lle. Mae’r sefydliad yn cynnig pantri yn ogystal â grwpiau cyfeillgarwch i’r rheiny sy’n teimlo’n unig neu’n ynysig.
Eleni yw trydedd flwyddyn y Pantri a gyda chyfanswm o 260 o aelodau, mae’r pantri bwyd yn cyrraedd dros 400 o oedolion a thros 200 o blant yn yr ardal. Dywedodd un aelod: “Mae’r Pantri’n helpu i mi fwydo ein plant gyda bwyd iach, ac rydym wedi rhoi cynnig ar nifer o lysiau newydd. Mae’r arian dwi’n ei arbed wedi helpu talu am fy miliau nwy a thrydan, a dwi wedi gallu cynilo ychydig ar gyfer teithiau ysgol”.
Dywedodd Dr Paul Gaskin, Cadeirydd Ymddiriedolwyr yn Hope Church: “Mae gallu cefnogi aelodau ein cymuned gyda bwyd a chyfeillgarwch yn bleser. Mae ehangu ein gwasanaethau wedi ein galluogi ni a’u defnyddwyr i fod yn fwy gwydn yn erbyn costau byw cynyddol”.
Cardiff Salad Garden
Mae Cardiff Garden Salad, prosiect a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, wedi ehangu’r bwyd y maen nhw’n ei dyfu i leihau eu dibyniaeth ar brynu eitemau mewn siop. Gan ddod â chymunedau ynghyd, mae ganddynt gronfa o adnoddau a llafur, gan wneud garddio’n fwy fforddiadwy ac mae’n rhoi budd llesol i wirfoddolwyr.
Wedi’i leoli ym Mharc Bute, mae’r prosiect yn tyfu amrywiaeth o ddail salad drwy gydol y flwyddyn, sydd ar gael i ddanfon i gartrefi a chwsmeriaid cyfanwerthu yng Nghaerdydd. Maen nhw’n danfon y bwyd ar feic i sicrhau eu bod yn fusnes wirioneddol gynaliadwy.
Dywedodd Sophie Bolton, Rheolwr a Chyfarwyddwr Sefydlu Cardiff Salad Garden CIC: “Rydyn ni’n tyfu bob math o wahanol ddail salad yma. Rydyn ni’n hyrwyddo lles drwy sesiynau tyfu ddwywaith yr wythnos, lle y gall pobl ddod a chymryd rhan yn y gymuned”.