Cronfa’r Deyrnas Unedig: un flwyddyn ymlaen
Ym mis Gorffennaf 2023, lansiwyd Cronfa’r Deyrnas Unedig – un o’n hymrwymiadau mentrus fel rhan o’n strategaeth newydd, Cymuned yw’r man cychwyn i fynd i’r afael â rhai o’r problemau cymdeithasol mawr sy’n wynebu cymunedau’r DU.
Yn ystod ei blwyddyn gyntaf, mae Cronfa’r Deyrnas Unedig wedi canolbwyntio ar gefnogi cymunedau i gysylltu mewn ffyrdd sy’n fwy addas ar gyfer ein bywydau newidiol. Bydd cymunedau o Belfast a Glasgow i Gaerdydd a Chaint yn buddio o’r 12 prosiect cyntaf sydd wedi derbyn grant ac sy’n uchelgeisiol am newid systemau a llywio’r dyfodol ledled y DU.
Byddwn yn parhau i gefnogi sefydliadau sy’n gwneud mwy i helpu cymunedau i ddod ynghyd a gwneud ein cymdeithas yn fwy cysylltiedig. Yn yr un modd, rydym yn cydnabod bod cysylltiadau â ffrindiau, cymdogion a phobl sydd â diddordebau cyffredin yn hanfodol ar gyfer bywydau hapus a bodlon.
Rydym hefyd yn cynyddu ein ffocws a’n buddsoddiad wrth greu newid parhaol i blant a phobl ifanc fel rhan o’n nod cymunedol i gefnogi cymunedau i helpu plant a phobl ifanc i ffynnu.
Rydym yn awyddus i glywed gan sefydliadau uchelgeisiol sy’n blaenoriaethu ymgysylltiad ystyrlon plant a phobl ifanc yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw a’u cymunedau; yn enwedig y rheiny sy’n cael llai o gyfleoedd i’w llais gael ei glywed neu ei weithredu arno.
Mae diddordeb gennym hefyd mewn grwpiau sy’n helpu sefydliadau eraill i feithrin capasiti neu seilwaith i ymgysylltu a gwrando ar ragor o blant a phobl ifanc.
Bydd Cronfa’r Deyrnas Unedig yn parhau i gefnogi sefydliadau sy’n:
- Buddio cymunedau ledled y DU (drwy weithio mewn gwahanol leoliadau, neu drwy rannu dysgu rhwng gwledydd)
- Cynyddu eu heffaith drwy ehangu eu gwaith (drwy helpu rhagor o bobl, neu wneud mwy ar gyfer y bobl y maen nhw’n gweithio â nhw’n barod)
- Cefnogi pobl sy’n profi tlodi, anfantais a gwahaniaethu
- Helpu gwneud newidiadau arwyddocaol i wasanaethau neu systemau sy’n effeithio ar fywydau bob dydd pobl.
Mae’n rhaid i unrhyw sefydliadau sy’n ymgeisio fodloni’r holl feini prawf hyn i gael eu hystyried. I gael manylion llawn am bwy sy’n gallu ymgeisio a’r hyn yr ydym yn chwilio amdano, ewch i dudalen we Cronfa’r Deyrnas Unedig.
Enghreifftiau o’r mathau o brosiectau y gallem eu hariannu
Mae’r enghreifftiau isod yn cynnig ysbrydoliaeth ar gyfer yr uchelgeisiau yr hoffem eu gweld gan grwpiau llwyddiannus. Hoffem ariannu amrywiaeth o brosiectau sy’n bodloni ein meini prawf cymhwysedd ac yn agored i glywed am waith newydd a chyffrous sy’n digwydd ledled y DU.
- Mae Prosiect A yn adeiladu ar ei dystiolaeth effaith hyd yn hyn ac yn bwriadu ehangu ymhellach i leoliad arall. Gan weithio mewn partneriaeth traws-sector, bydd y prosiect yn dod â thrigolion ynghyd ag arweinwyr cymunedol i adnabod a gweithredu ar faterion sy’n bwysig iddynt. Bydd hyn yn dangos ei fudd DU-gyfan drwy rannu dysgu gyda phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol er mwyn eu galluogi i archwilio’r gwaith yn eu cyd-destun eu hunain.
- Mae Prosiect B yn adeiladu ar ei waith mewn tri lleoliad yng Nghymru a Lloegr, gan ehangu i ardal arall yn Yr Alban. Mae’r prosiect yn annog cysylltiadau rhwng unigolion, grwpiau lleol a chyrff statudol i leihau ynysrwydd cymdeithasol. Mae’n ceisio newid systemau drwy adeiladu seilwaith i gynnig rhwydwaith cymorth i gymunedau sydd wedi’u hynysu’n gymdeithasol.
- Mae Prosiect C yn gwneud gwaith hollbwysig i gefnogi pobl ifanc sydd wedi profi trawma drwy adeiladu ar eu cryfderau er mwyn iddynt allu newid y systemau yr oeddent ynddynt. Bydd yr arian yn eu galluogi i greu adnodd arferion gorau y gellir ei rannu â sefydliadau eraill sy’n gweithio â phobl ifanc yn y maes.
- Sefydliad cymunedol creadigol yw Prosiect D a arweinir gan bobl ifanc, i bobl ifanc. O greu cylchgronau a gweithdai llyfrau comics i hybiau cyhoeddi ieuenctid; mae’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau a ddyluniwyd i gefnogi a chryfhau lleisiau pobl ifanc ymylol 8 – 25 oed, lleisiau nad ydynt yn cael eu clywed yn aml.
Ydych chi’n credu y gallai eich prosiect fod yn addas? I gael manylion llawn ar gymhwysedd a sut i ymgeisio, ewch i dudalen Cronfa’r Deyrnas Unedig, neu anfonwch e-bost at TheUKFund@tnlcommunityfund.org.uk.