Yr hyn mae’n ei olygu i fod yn gyflogwr oed-gyfeillgar wrth i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol lofnodi adduned genedlaethol
Dyma Fiona Joseph, Rheolwr Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant, yn rhannu pwysigrwydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn llofnodi’r Adduned Oed-Gyfeillgar i Gyflogwyr – rhaglen genedlaethol i gyflogwyr sy’n cydnabod pwysigrwydd a gwerth gweithwyr hŷn.
“Rydym yn falch o lofnodi’r Adduned Oed-Gyfeillgar i Gyflogwyr, gan ymuno â dros 250 o sefydliadau sydd wedi ymrwymo i wella’r gweithle i bobl 50 oed ac yn hŷn a gweithredu er mwyn eu helpu i ffynnu mewn gweithlu aml-genhedlaeth.
“Clywsom am yr Adduned Oed-Gyfeillgar i Gyflogwyr gan gydweithiwr sy’n gweithio gyda’r Centre for Ageing Better. Dyma’r union fath o fenter yr hoffem gymryd rhan ynddi, fel sefydliad sydd wedi ymrwymo i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle.
“Yn ein strategaeth recriwtio, rydym yn annog pobl hŷn yn gadarnhaol i ymgeisio i’r Gronfa, ac mae tua 37% o’n gweithlu presennol yn 50 oed neu’n hŷn. Rydym yn falch iawn o hyn ac yn ei ystyried fel mantais.
“Mae llofnodi’r adduned wedi cynnig cyfle i ni ddysgu o ddoniau pobl hŷn yn y gweithle, ac i fanteisio ar fuddion gweithio aml-genhedlaeth.”
Mae’r Adduned Oed-Gyfeillgar i Gyflogwyr yn gofyn am ymrwymiad i gamau gweithredu penodol blynyddol i hyrwyddo gweithlu sy’n amrywiol o ran oedran – “Rydym wedi ymgynghori â’n panel staff mewnol, y Fforwm EDI Cydweithwyr, ac yna creu gweithgor bach i ystyried pa gamau yr hoffem eu cymryd. Gyda’n gilydd, penderfynom benodi Hyrwyddwyr Cynhwysiant Oedran yn y Gronfa.”
Bydd Hyrwyddwyr Cynhwysiant Oedran yn hyrwyddo gwerth gweithlu amrywiol o ran oedran drwy:
- Cyfeirio cydweithwyr at adnoddau lles cyfredol
- Adnabod cyfleoedd dysgu a datblygu i gydweithwyr
- Gwrando ar brofiadau cydweithwyr hŷn ac adrodd yn ôl i’r Fforwm EDI Cydweithwyr a’r Tîm Pobl i hwyluso gwelliant parhaus
- Cynorthwyo gyda digwyddiadau oed-gyfeillgar yn y swyddfa
- Cefnogi cydweithwyr sy’n ymddeol.
“Rydym yn gobeithio y bydd cydweithwyr yn elwa o gael pwynt cyswllt i archwilio materion sy’n ymwneud ag oedran, ac yn cael y cyfle i ddathlu heneiddio’n dda.
“Mae ymchwil o’r Centre for Ageing Better yn dangos bod anghydraddoldebau arwyddocaol yn y ffordd y mae pobl o wahanol grwpiau’n profi henaint. Rydym yn edrych ar oedran drwy lens groestoriadol ac yn gobeithio y byddwn yn dysgu gan ein cydweithwyr yn y sefydliad am brofiadau pobl hŷn sydd er enghraifft, o gefndir ethnig leiafrifol, sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd ac sy’n LHDTC+.”
Dyma Lisa Wells, Swyddog Ariannu ac aelod o’r Fforwm EDI Cydweithwyr yn rhannu rôl y rhwydwaith wrth lofnodi’r adduned: “Mae’r Fforwm EDI Cydweithwyr yn cymryd rhan weithredol wrth hyrwyddo diwylliant mwy amrywiol a chynhwysol yn y Gronfa.
“Fel gweithiwr hŷn, mae diddordeb arbennig gen i yn y ffordd y gall y Gronfa gefnogi pobl ar yr adeg hon, o ran cydbwysedd rhwng y gwaith a bywyd personol, datblygu sgiliau’n barhaus, cynllunio ar gyfer ymddeoliad ac iechyd a lles yn gyffredinol.
“Rydw i wedi cefnogi nifer o grantiau sy’n berthnasol i oedran. Yr un mwyaf diweddar yw Age@Work sy’n gweithio gyda phobl hŷn a chyflogwyr ledled Gogledd Iwerddon, Cymru a’r Alban i hyrwyddo gwerth a chyfraniad oedran yn y gweithle.
“Rwyf wrth fy modd fod y Gronfa’n ymrwymo i fenter debyg drwy lofnodi’r Adduned Oed-Gyfeillgar i Gyflogwyr, a fydd yn cefnogi’r sefydliad i ddathlu’r sgiliau a’r profiad y mae pobl hŷn yn eu cynnig i’w rôl a’u cefnogi i ffynnu fel rhan o weithlu aml-genhedlaeth.”
Fel Hyrwyddwr Cynhwysiant Oedran, bydd Lisa’n hyrwyddo gwerth gweithlu sy’n amrywiol o ran oedran.
“Credaf yn gryf na ddylai unrhyw un gael eu diffinio gan eu hoedran ac rwy’n hyderus y bydd yr adduned yn helpu sicrhau bod cyfraniad pawb yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi beth bynnag eu hoedran neu eu swydd yn y Gronfa.
“Bydd yr adduned hefyd yn amlygu pwysigrwydd pobl yn gwneud dewisiadau hysbys am batrymau gwaith, cynllunio ar gyfer ymddeoliad neu’r gefnogaeth sydd ei hangen i barhau i weithio am gyhyd ag yr hoffent.”
Dywedodd Stephen Gould, Swyddog Ariannu a Hyrwyddwr Cynhwysiant Oedran arall: “Credaf fod y Gronfa’n dechrau o safle cryf o ran cynhwysiant oedran ond rwy’n teimlo’n gadarnhaol iawn am yr ymrwymiad pellach i ddod yn gyflogwr oed-gyfeillgar.
“Mae gan amrywiaeth o ran oedran yn y gweithle fanteision enfawr. Gall cyfuniad o gydweithwyr iau a hŷn yn gweithio gyda’i gilydd arwain at gynhyrchiant, cyd-gefnogaeth a datrys problemau, gan ddefnyddio profiadau a safbwyntiau newydd.
“Bydd gan Hyrwyddwyr Cynhwysiant Oedran rôl hollbwysig i’w chwarae wrth gefnogi cydweithwyr gydag amrywiaeth o faterion oedran yn ogystal ag amlygu gwelliannau y gellir eu gwneud a dathlu llwyddiannau.”
Ychwanegodd Fiona Joseph: “Byddwn yn annog sefydliadau eraill sy’n ystyried yr adduned i fynd amdani. Mae’n ffordd i edrych ar broblemau sy’n wynebu gweithwyr hŷn – boed yw hynny’n gynllunio gyrfa, materion ariannol, unigrwydd, perthnasoedd a gwahaniaethu ar sail oedran. Bydd llofnodi’r adduned yn pwysleisio eich ymrwymiad i ddeall anghenion gweithwyr hŷn, a gobeithio cael gwared ar ragfarn ar sail oedran yn y gweithle.”
Dysgwch am yr Adduned Oed-Gyfeillgar i Gyflogwyr ar wefan Centre for Ageing Better.