Pŵer partneriaethau i fynd i’r afael â newid hinsawdd
Dyma Nick Gardner, Pennaeth Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn adlewyrchu ar ymrwymiad y Gronfa i weithredu ar yr hinsawdd ac ymweliad diweddar â phrosiect sy'n defnyddio pŵer partneriaethau i wneud gwahaniaeth mawr yn eu cymuned leol.
Pan fydd pobl yn dod at ei gilydd gyda gweledigaeth gyffredin, gall pethau mawr ddigwydd. Cefais fy atgoffa o hyn mewn ymweliad prosiect diweddar â Baltic Centre for Contemporary Art yn Gateshead, sydd wedi dod yn gartref i North East Young Dads and Lads (NEYDL), elusen rhieni sy'n gweithio gyda grŵp o bobl ifanc sy'n aml yn cael eu hanwybyddu ac yn eu cefnogi i chwarae rhan weithredol ac ystyrlon ym mywydau eu plant, o fewn teuluoedd a'r gymdeithas ehangach. Mae'r hen felin flawd yn symbol o adfywio, gan ddod â gobaith a llawenydd i drigolion ac ymwelwyr trwy gelf ysbrydoledig.
Pŵer Partneriaeth
Yn Baltic, cwrddais ag aelodau NEYDL a'u sylfaenydd, Kevin Stoodley, a esboniodd sut maen nhw'n helpu tadau ifanc i feithrin sgiliau a hyder, ar yr un pryd â chefnogi cysylltiad eu cymuned leol â byd natur mewn lleoliad trefol. Ar gyfer y prosiect Birds, Bees, Bikes and Trees, mae NEYDL wedi ffurfio partneriaeth fentrus ac uchelgeisiol gyda Baltic a Phrifysgol Newcastle, i ddod yn weithredwyr hinsawdd annhebygol, gan reoli cychod gwenyn a thrwsio hen feiciau.
Pŵer y Gymuned
Ar ben yr adeilad eiconig hwn, 138 troedfedd uwchben Afon Tyne, gwelsom y cychod gwenyn yn cael eu gosod ar y teras to yn Baltic. Roedd hyn yn atgof trawiadol o sut roedd y bechgyn yn dysgu i gysylltu â byd natur; roedd un dyn ifanc eisoes wedi dechrau menter newydd yn gwerthu mêl o'r rhain a chychod gwenyn eraill o amgylch Gateshead. Er mwyn darparu digon o ddeunyddiau crai i'r mêl gael ei wneud, esboniodd y Gwenynwr Cymunedol Tom Jamieson wrthyf sut yr oedd angen iddynt ail-wylltio rhannau o'r dirwedd drefol, gan greu ardaloedd o borthiant naturiol i'r gwenyn.
Gyda nifer y gwenyn yn y DU yn gostwng (rydym eisoes wedi colli 13 rhywogaeth o wenyn, ac mae 35 arall mewn perygl), mae'r prosiect hwn yn dyst byw i bŵer cymuned a phartneriaeth. Ar un lefel mae'r gwenyn yn brysur yn gweithio gyda'i gilydd i beillio ein blodau a gwneud mêl, tra ar lefel arall mae'r prosiect yn dwyn ynghyd grŵp o ddynion ifanc, sydd â hunaniaeth gyffredin fel tadau i'r genhedlaeth nesaf, sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddod â byd natur yn ôl i galon y ddinas.
A thrwy drwsio beiciau, mae'r tadau ifanc wedi dewis cysylltu eu hangerdd dros feicio gyda diddordeb newydd mewn atgyweirio ac ailddefnyddio.
Mynd i'r afael â Newid Hinsawdd
Rydym yn gwybod, ledled y DU, bod newid hinsawdd yn bwysig i gymunedau, felly mae'n bwysig i ni. Gydag 80% o oedolion y DU bellach yn pryderu am newid hinsawdd, mae'n cael ei gydnabod fwyfwy fel problem gyffredinol ein hoes. Mae'r rhan fwyaf o'r rhai a holwyd hefyd yn poeni am effaith newid hinsawdd ar eu cymuned leol.
Rydym bellach wedi gwneud cynaliadwyedd amgylcheddol yn un o'n pedwar nod allweddol yn ein strategaeth Cymuned yw’r man cychwyn. Gyda lansiad ein Cynllun Corfforaethol (2024-27) newydd, rydym yn ymrwymo o leiaf 15% o'n harian i brosiectau sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd amgylcheddol. Rydym hefyd wedi ymrwymo i fod yn ariannwr amgylcheddol adfywiol; mae ein Cynllun Amgylchedd yn rhoi mwy o fanylion ar sut y byddwn yn adeiladu ar ein safle fel ariannwr cymunedol mwyaf y DU i gyflawni canlyniadau amgylcheddol cadarnhaol.
Cronfa Gweithredu Hinsawdd
Mae ein rhaglen hinsawdd flaenllaw, y Gronfa Gweithredu Hinsawdd, yn ymrwymiad 10 mlynedd gwerth £100m i gefnogi prosiectau gweithredu hinsawdd dan arweiniad y gymuned fel Birds, Bees, Bikes and Trees. Mae dros £86 miliwn eisoes wedi'i ddyfarnu i 118 o brosiectau i alluogi pobl ledled y DU i weithredu yn erbyn newid hinsawdd yn eu cymunedau lleol. Gyda'n hymrwymiadau strategol newydd, byddwn yn gweld prosiectau sy'n canolbwyntio ar yr hinsawdd a byd natur yn cael eu hariannu'n gynyddol trwy ein holl raglenni, gan gefnogi gweithredu hinsawdd dan arweiniad y gymuned ac ymateb i angen lleol.
Ar gyfer rownd ddiweddaraf y Gronfa Gweithredu Hinsawdd - Ein Dyfodol Ni - nid oes rhaid i ymgeiswyr fod yn sefydliad sy'n canolbwyntio ar yr hinsawdd neu'r amgylchedd i wneud cais. Rydym yn awyddus i gefnogi partneriaethau gyda syniadau mentrus a chyffrous wedi'u hysbrydoli gan fywydau a diddordebau beunyddiol pobl. Hoffem gyrraedd pobl a allai fod yn newydd i weithredu hinsawdd, ac mae gennym ddiddordeb arbennig mewn prosiectau sy'n cynnwys pobl, llefydd a chymunedau sy'n profi tlodi, gwahaniaethu ac anfantais.
Prosiectau'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd ar draws y DU
Ymhlith llwyddiannau diweddar eraill mae The Community Foundation for Northern Ireland sy'n gweithio mewn partneriaeth â Derry City and Strabane District Council, The Conservation Volunteers, a’r Acorn Food Network. Mae'r bartneriaeth wedi trosoli £6.2 miliwn arall o fuddsoddiad cyfalaf i adeiladu Fferm Acorn, hwb tyfu bwyd a gweithredu hinsawdd gyda chanolbwynt cromen geodesig.
Derbyniodd y prosiect £1.7m gan y Gronfa Gweithredu Hinsawdd i uwchsgilio pobl leol, buddsoddi mewn technolegau tyfu bwyd newydd, cynnal ymchwil academaidd a chadarnhau ei weledigaeth hirdymor o ddyfodol hunangynhaliol. Mae'r bartneriaeth wedi sefydlu Derry fel 'Lle Bwyd Cynaliadwy' sy'n cysylltu â rhwydwaith ehangach o dros 60 o ddinasoedd ledled y DU.
Yng Nghymru, mae'r pum Ymddiriedolaeth Natur yn gweithio gyda'i gilydd i ysgogi pobl ifanc rhwng 9 a 24 oed i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol yn uniongyrchol. Gyda grant £2.4 miliwn gan y Gronfa Gweithredu Hinsawdd, mae'r bartneriaeth yn grymuso ac yn ysbrydoli pobl ifanc i weithredu dros fyd natur a'r hinsawdd yn eu cymunedau lleol i leihau eu heffaith amgylcheddol.
Mae Cumbria Action for Sustainability yn rhaglen bum mlynedd uchelgeisiol a gyd-ddyluniwyd gan 11 partner a'r gymuned leol i wneud Cumbria yn ddi-garbon erbyn 2037. Mae wedi derbyn £2.5m gan y Gronfa Gweithredu Hinsawdd i weithio gyda grwpiau cymunedol, awdurdodau lleol, y GIG, yr heddlu, parciau cenedlaethol, busnesau a'r gymuned ffermio, i ddod o hyd i ddatrysiadau i drafnidiaeth, gwastraff, adeiladau a defnydd tir a lleihau allyriadau mewn bywyd bob dydd ar draws Cumbria.
Yn yr Alban, mae partneriaeth rhwng tri sefydliad yng Nghaeredin, Communities Reduce, Reuse, Recycle, yn anelu at feithrin gallu mewn cymunedau ethnig leiafrifol i gyfrannu at y targed lleol o gyrraedd sero net erbyn 2030 a tharged Llywodraeth yr Alban erbyn 2045. Diolch i £700,000 gan y Gronfa Gweithredu Hinsawdd, bydd yn cefnogi Edinburgh and Lothians Regional Equality Council (ELREC), Networking Key Services, a Strengthening Communities for Race Equality Scotland (Score Scotland) i herio arferion gwastraff a defnydd anghynaliadwy ledled y ddinas.