Cwrdd â'r tîm: ein Cynghorwyr Llais Ieuenctid | Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Y mis diwethaf, fe wnaethom gyhoeddi bod Cronfa y DU nawr yn ceisio ariannu prosiectau sy'n anelu at greu newid trawsnewidiol tymor hwy drwy helpu plant a phobl ifanc i ffynnu. Dyma un o'n hymrwymiadau beiddgar fel rhan o'n strategaeth newydd i fynd i'r afael â rhai o'r materion cymdeithasol mawr sy'n wynebu cymunedau'r DU.
Gall cymdeithas elwa drwy wrando mwy ar farn pobl ifanc a thrwy gydnabod eu gallu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, rydym am sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn rhan annatod o'n holl waith.
Y Diwrnod Rhyngwladol Ieuenctid hwn, rydym ni’n falch iawn o rannu gyda chi ein bod ni wedi recriwtio tîm o Gynghorwyr Llais Ieuenctid, a fydd yn gweithio gyda'n timau ariannu i helpu i ddylunio a siapio'r penderfyniadau sy'n effeithio ar bobl ifanc a'u cymunedau. Dewch i gwrdd â'r tîm yn ein blog diweddaraf.
Cwrdd â Tilly
Tilly (hi/ei), 21, Trebanos (De Cymru)
Dechreuodd cyfranogiad Tilly mewn Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid yn ôl yn 2020, bythefnos wedi'r cyfnod clo cyntaf pan ddaeth yn aelod o banel cynghori Tîm Llais Ieuenctid Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Fe wnaeth mentor Tilly gydnabod ei hymdrech i helpu eraill a'i hannog i wneud cais.
Dywed Tilly ei bod hi wedi gwirioni o'i chyfarfod cyntaf, a dyma oedd ei sylweddoliad cyntaf y gall helpu pobl ifanc y tu hwnt i'w chymuned leol. Trwy gydol ei hamser yn y tîm Llais Ieuenctid, dywed Tilly ei bod wedi magu hyder ac wedi ennill llawer o brofiad ac mae hi'n gyffrous ddefnyddio’r rhain i helpu mwy o bobl ifanc a chael effaith hyd yn oed yn fwy.
Chwaraeodd Tilly rôl allweddol hefyd yn Meddwl Ymlaen, rhaglen grant gwerth £10 miliwn i alluogi pobl ifanc i arwain fel y gallant ddychmygu a chreu dyfodol mwy gwydn ac iach yn feddyliol i bobl ifanc yng Nghymru.
Y tu allan i'w gweithredaeth, mae gan Tilly ddiddordeb brwd mewn chwaraeon. Mae hi wrth ei bodd â'r gampfa a gyda thenis ac wedi bod yn ymwneud â'r Gweilch ers iddi fod yn bymtheg oed, gan weithio gyda'r 'Gweilch yn y Gymuned' i gefnogi'r gymuned trwy rygbi a chwaraeon eraill.
Mae Tilly yn gyffrous i gynnig syniadau newydd ynglŷn â sut rydym ni’n ariannu ac yn cefnogi pobl ifanc ac mae'n edrych ymlaen at ymgymryd â'r her a'r cyfrifoldeb o sbarduno newid systemau ar gyfer llais ieuenctid.
"Mae lleisiau pobl ifanc yn bwysig a bydd cael ein llais yn agor llygaid pobl i ddeall mai dyma ein dyfodol."
Cwrdd â Rachael
Rachael (hi/ei) 22, Llundain
Dechreuodd Rachael ar ei thaith gwaith ieuenctid yn 2014 wrth wirfoddoli ar gyfer prosiect a ariennir o'r enw Headstart Newham. Cafodd Rachael y cyfle i eistedd ar nifer o baneli ieuenctid, lle’r oedd hi ac eraill yn eirioli dros well adnoddau iechyd meddwl mewn ysgolion, parthau ieuenctid ac yn y cartref. Roedd Rachael yn rhan o grŵp o bron i 30 o bobl ifanc, pob un ohonynt yn ymroddedig i wella bywydau pobl eraill.
Oddi yno, llwyddodd Rachael i gael ei recriwtio i Dîm Llais Ieuenctid cyntaf Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn 2020 yn 2020.
Yn ystod pandemig Covid-19, nod y tîm oedd gwella ansawdd llais Ieuenctid ledled y DU drwy ariannu a chynnal digwyddiadau i helpu eraill i wella llais ieuenctid o fewn eu sefydliadau. Cynhaliodd y tîm ddigwyddiadau rhithwir i ddathlu diwrnodau ymwybyddiaeth allweddol, gan gynnwys Diwrnod Rhyngwladol Ieuenctid.
Ddiwedd 2023, gofynnwyd i Rachael eistedd ar y panel gwneud penderfyniadau Y Gronfa Miliwn o Oriau, lle gallai gynnig ei mewnwelediadau ar yr hyn sy'n bwysig i bobl ifanc ac unwaith eto fod yn rhan o'r ymdrech i newid.
Dros y blynyddoedd, mae Rachael wedi sylweddoli cymaint sydd gan bobl ifanc i'w ddweud a pha mor bwysig yw buddsoddi ynddyn nhw a'u dyfodol. "Fy ysgogiad mwyaf yw'r buddsoddiad hwnnw yn y genhedlaeth i ddod, gallu gwrando ar eu problemau a bod yn rhan o newid cymdeithasol".
Y tu allan i weithgareddau Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid, mae Rachael yn wyddonydd cyfrifiadurol gyda swydd llawn amser fel Ymgynghorydd Technoleg. Ac yn ei hamser sbâr (er ei bod yn anodd credu fod ganddi unrhyw amser sbâr) mae hi wrth ei bodd yn chwarae gemau ac ysgrifennu barddoniaeth a straeon byrion.
Mae Rachael fwyaf cyffrous am gael y cyfle i chwarae rhan allweddol mewn newid cymdeithasol ar lefel genedlaethol. "Dwi eisiau bod yn llais i bobl ifanc a gallu cyfleu eu problemau".
Cwrdd â Katie
Katie (hi/ei) 22, Newtownabbey (Gogledd Iwerddon)
Ymunodd Katie â Thîm Llais Ieuenctid Gogledd Iwerddon yn 2022. Mae Katie yn dod ag ystod eang o brofiad ar ôl bod yn rhan o ddau sefydliad a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Mae Murray a Rhwydwaith Celfyddydau a Diwylliant Newtownabbey (NACN).
Yn ei rôl ar y panel Llais Ieuenctid, teimlodd Katie werth o siarad â phobl ifanc am faterion a rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu.
"Fel merch ifanc anabl, roeddwn i eisiau bod yn llais i unrhyw un ag unrhyw anabledd yn fy nghymuned leol."
Gwelodd Katie y Tîm Llais Ieuenctid fel catalydd ar gyfer newid, a chyfle i greu ymwybyddiaeth o'r angen i'n cymunedau a'n sefydliadau ystyried hygyrchedd i bobl anabl.
Nawr, fel Cynghorydd Llais Ieuenctid, mae Katie yn edrych ymlaen at adeiladu ar ei phrofiad, gweithio gyda mwy o elusennau a dysgu am y broses o asesu ceisiadau am gyllid.
Yn ei hamser hamdden, mae Katie'n caru treulio amser gyda theulu a ffrindiau. Mae Katie hefyd wrth ei bodd yn mynychu cyngherddau - fe welodd Taylor Swift yn Nulyn yn ddiweddar ac o fod yn Swifty, mae’n dweud ei bod hi'n noson na fydd hi byth yn ei hanghofio!
Cwrdd â Tia
Tia (hi/ei) 20, Caerdydd (De Cymru)
Ymunodd Tia â'r Tîm Llais Ieuenctid yn 2023 ond mae wedi bod yn ymwneud yn weithredol â Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid ers bron i 6 mlynedd. Dechreuodd ei thaith pan ymunodd â Bwrdd Ieuenctid Canolfan Mileniwm Cymru, ac ers hynny mae wedi gwasanaethu ar nifer o Fyrddau ac yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn weithredwraig yn ei chymuned.
Pan ofynnwyd iddi beth wnaeth ei hysbrydoli i gymryd rhan mewn Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid, dywedodd: "Cefais fy magu yn wynebu cryn dipyn o adfyd. Fel person ymylol, rwyf wedi cael profiad o'r pethau negyddol sydd gan gymdeithas i'w cynnig. Mae fy nhad yn ysbrydoliaeth allweddol i mi, oherwydd mae wedi gwneud llawer o waith gyda phobl ifanc yn y gymuned ac mae wedi helpu i chwyddo lleisiau Pobl Dduon yn fawr - felly rwy'n credu bod actifiaeth wastad wedi ei ymgorffori ynof fi."
"Cefais brofiad gwael ychydig flynyddoedd yn ôl ac yn hytrach na cherdded i ffwrdd, penderfynais fod yn rhaid i bethau newid. Dyna oedd y tro cyntaf i mi sylweddoli fy mod i eisiau bod yn wneuthurwr newid, yn aflonyddwr positif."
Yn dilyn dod yn Gynghorydd Llais Ieuenctid, mae Tia yn dweud ei bod hi'n gyffrous am y cyfle i ddefnyddio'r sgiliau mae hi wedi'u hennill ar raddfa genedlaethol. "Y peth ro'n i wrth fy modd am fod yn rhan o dîm Llais Ieuenctid yw bod pobl ifanc wir wedi cael dweud eu dweud. Bydd y rôl Ymgynghorol yn adeiladu ar hynny ac yn rhoi cyfle i mi weld penderfyniadau ariannu o'r dechrau i'r diwedd, a fydd yn hynod werth chweil."
Y tu allan i'r gwaith, mae gan Tia lawer o dalentau – gof geiriau go iawn, mae hi'n caru gemau geiriau, ysgrifennu ac mae'n fardd gair llafar medrus. Mae hi hefyd wrth ei bodd â'r theatr wedi cyfarwyddo a pherfformio mewn cynyrchiadau ac mae ganddi ddiddordeb brwd mewn coginio.
Am y newyddion diweddaraf ac i glywed mwy am y gwaith y bydd ein Cynghorwyr Llais Ieuenctid yn ei wneud, dilynwch Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfryngau cymdeithasol.
X: @TNLComFund
Instagram: @TNLCommunityFund
LinkedIn: The National Lottery Community Fund
Facebook: The National Lottery Community Fund