Dros £5 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol yn cael ei ddyfarnu i grwpiau cymunedol ledled Cymru.
Mae 177 o grwpiau cymunedol a sefydliadau ledled Cymru’n dathlu cyfran o £5 miliwn a ddyfarnwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am eu gwaith pwysig o helpu dod â chymunedau ynghyd.
Derbyniodd Riding for the Disabled Association ym Mro Morgannwg £47,250 i brynu ‘efelychydd ceffylau Racewood’. Mae’r efelychydd marchogaeth yn galluogi marchogion ag anableddau i fwynhau gweithgareddau marchogaeth therapiwtig mewn amgylchedd diogel a rheoledig drwy gydol y flwyddyn. Mae’r efelychydd yn golygu bod marchogion yn gallu magu hyder a mwynhau gweithgarwch corfforol. Bydd y graffeg cyfrifiadurol gwych yn galluogi marchogion i archwilio 4,000 erw o dir, yn amrywio o grwydro trwy bentref, marchogaeth trwy’r goedwig neu ar y traeth. Mae’r nodweddion rhyngweithiol yn galluogi’r marchog i ymgysylltu â’r amgylchedd.
Dywedodd Lyne Mordecai, hyfforddwr grŵp marchogaeth ac ymddiriedolwr:
“Mae Riding for the Disabled Association (RDA) ym Mro Morgannwg wrth eu boddau ac yn gyffrous bod ein cais am grant wedi bod yn llwyddiannus. Pan fydd ein marchogion yn llwyddo i wneud rhywbeth a allai cael ei ystyried yn heriol, mae eu hymdeimlad o bleser a balchder yn eu cyflawniad yn aml yn arwain atynt yn dyheu i wneud rhagor mewn meysydd eraill o’u bywyd. Mae’r bobl yr ydym yn eu cefnogi’n creu perthnasoedd pwysig, mae’r perthnasoedd hyn yn eu helpu i oresgyn heriau, ffynnu a byw bywydau mwy llawn. Bydd yr efelychydd ceffylau’n ddull gwych o ddarparu sesiwn marchogaeth; gan ysbrydoli hyder, ymarfer corff therapiwtig a mwynhad pur.”
Derbyniodd Karma Seas CIC ym Mhen-y-bont ar Ogwr grant £10,000 i brynu fan i gludo’r offer arbenigol ar gyfer y therapi syrffio ar lawr gwlad y maen nhw’n ei gynnig i bobl anabl ac ymylol. Mae symud offer mwy’n lleihau faint o waith codi a chario y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud yn ddiogel ac yn tynnu rhwystrau logistaidd darparu’r sesiynau cynhwysol hyn.
Dywedodd Lisa Thomas – Cyfarwyddwr Sefydlu a Hyfforddwr Syrffio: “Rydym wrth ein boddau ac mor ddiolchgar i’r Loteri Genedlaethol am ariannu fan ar gyfer Karma Seas CIC. Mae’n drawsnewidiol i ni allu symud ein hoffer syrffio addasol a chadeiriau olwyn i’r traeth, gan ddarparu llawer mwy o gyfleoedd cynhwysol i blant ac oedolion ag anableddau corfforol cymhleth.”
Bydd Sound Progression Ltd yng Nghaerdydd yn defnyddio grant £100,000 dros y ddwy flynedd nesaf i ddarparu rhaglenni cerddoriaeth pwrpasol i bobl ifanc 16-24 oed, gan archwilio creadigrwydd trwy gerddoriaeth gyda ffocws penodol ar gerddoriaeth drefol. Byddant yn trefnu cyrsiau a gweithdai mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol ledled Caerdydd, gan drafod pynciau fel cynhyrchu cerddoriaeth, ysgrifennu rap, peirianneg sain, creu fideos a gwybodaeth am y diwydiant.
Dywedodd un o gyfranogwyr y rhaglen:
“Ers gweithio gyda Sound Progression, dwi wedi bod yn treulio llawer mwy o amser yn y stiwdio. Maen nhw wedi fy helpu i ddatblygu fy ngherddoriaeth, rhoi awgrymiadau da i mi a fy helpu i ddod o hyd i sain broffesiynol i fy ngherddoriaeth, yn hytrach na recordio yn fy ystafell wely. Mae wedi rhoi profiadau newydd i mi ac ers i mi weithio gyda nhw, dwi’n teimlo bod fy mywyd wir wedi newid.”
Gyda chymorth grant £9,650, bydd Empower Inspire CIC yng Nghastell-nedd Port Talbot yn darparu’r prosiect ‘Move Together’ i unigolion a’u teuluoedd sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl, gan gynnwys y rhai hynny sy’n byw â dementia. Byddant yn cynnig gwersi symud i leihau ynysrwydd, gwella lles meddyliol a symudedd.
Dywedodd Joanne Juliff, Cyfarwyddwr Empower Inspire CIC: “Rydym wrth ein boddau i dderbyn y grant hwn i allu cynnig ein menter newydd sbon ‘Moving Together’, dosbarth symud wedi’i anelu’n benodol at unigolion y mae eu symudedd wedi dioddef o ganlyniad i’r pandemig. Mae’r dosbarthiadau hyn, o dan arweinyddiaeth arbenigol yr athrawes ddawns gymwysedig Emily Robinson, yn ymwneud â llawer mwy na symud. Maen nhw’n ymwneud â chydbwysedd, cydsymudiad, hwyl, magu hyder, cymuned a chyfeillgarwch – gyda choffi, cacen a sgwrs ar y diwedd i wobrwyo eu hymdrechion.”
Derbyniodd CRADLE Charity yn Rhondda Cynon Taf £4,500 i ehangu eu gwasanaethau ledled Cymru, gan ddarparu cymorth corfforol ac emosiynol i’r rhai hynny sydd wedi colli beichiogrwydd.
Dywedodd Louise Zeniou, Prif Weithredwr CRADLE Charity:
“Rydym wrth ein boddau i dderbyn cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, i gefnogi datblygiad a thwf gwasanaethau CRADLE ar draws pob bwrdd iechyd yng Nghymru. Bydd ein gwaith yn ategu’r gofal a ddarperir gan y gweithwyr iechyd proffesiynol. Bydd y gefnogaeth hon yn sicrhau y bydd gan bob ysbyty yng Nghymru fynediad at lenyddiaeth CRADLE ddwyieithog, am ddim. Bydd baneri arwyddbostio’n galluogi staff, cleifion a theuluoedd i gyrchu’r gefnogaeth trwy’r llwybr CRADLE. Bydd y cyllid hefyd yn cefnogi datblygiad y gwasanaeth CRADLE sydd ar fin lansio, ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gan gefnogi Ysbyty’r Tywysog Siarl, Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Cefnogir hyn gan Tilbury Douglas Construction.
Wedi’i gefnogi gan grant £9,990, bydd Peak – Art in the Black Mountains Ltd ym Mhowys yn cynnig cyfres o weithgareddau crochenwaith i ofalwyr ifanc, di-dâl, y rhai hynny sydd wedi’u hynysu’n gymdeithasol, neu’n profi iechyd meddwl gwael. Mae’r gweithgareddau hyn yn rhoi’r cyfle i bobl gysylltu â’r rhai hynny yn eu cymuned ac ennill sgiliau.
Dywedodd Louise Hobson, Dirprwy Gyfarwyddwr Peak Cymru:
“Gyda diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, rydym ni’n ehangu ein darpariaeth crochenwaith yn yr Hen Ysgol yng Ngrug Hywel, gan sefydlu grŵp i bobl ifanc ac i drigolion lleol. Gwyddom fod rhaglenni crochenwaith yn gallu cefnogi ein cymuned wledig mewn sawl ffordd – boed yw hynny trwy ddatblygiad creadigol, cefnogi iechyd meddwl a lles, annog hyder, datblygu sgiliau neu dyfu rhwydweithiau. Rydym wrth ein boddau y bydd y grant hwn yn ein galluogi i ehangu’r ddarpariaeth hon.”
Dathlodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yr holl sefydliadau gan ddweud:
“Rydym yn falch i fod y cyllidwr gweithgarwch cymunedol mwyaf yn y DU. Rydym ni’n cefnogi grwpiau ar lawr gwlad ac elusennau sy’n gwneud pethau anhygoel ac mae’n wych i weld y prosiectau hyn yn dod â’u cymunedau ynghyd.”
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru