Rhwydwaith Pontio
Mae'r Rhwydwaith Pontio yn dyheu am fyd lle bydd gan bobl yn eu cymunedau lleol y gallu i ddelio â'r heriau cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n effeithio arnynt. Yn y byd hwnnw, bydd cymunedau'n fwy trefnus ac wedi'u cysylltu â'i gilydd; yn fwy ymwybodol o gyfleoedd, ac yn gallu gweithredu'n well pan fyddant yn codi; yn gallu helpu i osod agenda newid yn well, gan ddal mwy o bŵer o fewn y prosesau gwneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.
Yn y bôn, breuddwyd y Rhwydwaith Pontio yw pŵer ac asiantaeth gymunedol ffyniannus, yn seiliedig ar egwyddorion y model Pontio, sef cyfiawnder cymdeithasol a chydnerthedd cymunedol, fel y'i dehonglwyd gan y cymunedau eu hunain. Er mwyn cyflawni'r nod hwn, dyfarnwyd ychydig dros £5,900,000 o arian y Loteri Genedlaethol i'r Rhwydwaith Pontio ar gyfer eu prosiect trawsnewidiol a newid hirdymor deng mlynedd 'Tyfu seilwaith, rhwydweithiau a galluedd Pontio ym Mhrydain' gan raglen Tyfu Syniadau Gwych Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Bydd y prosiect* yn adeiladu ar y gwaith anhygoel y mae grwpiau Pontio wedi bod yn ei wneud dros y 10 mlynedd ddiwethaf yn eu cymunedau lleol.
Mae ymrwymiad y Rhwydwaith Pontio i newid a arweinir gan y gymuned yn sail i'w gred mewn sybsidiaredd; wrth ddatganoli pŵer a gwneud penderfyniadau i'r lefel briodol: mor ganolog ag sy'n angenrheidiol er mwyn i'r gwaith fod yn effeithiol, ond mor agos at y gymuned â phosib er mwyn galluogi cyfranogiad pwrpasol a grymus gan y rhai sydd yn y sefyllfa orau i wybod beth sydd ei angen yn y gymuned.
“Rhan o'n gweledigaeth yw creu mwy o seilwaith i gefnogi'r datblygiad hwnnw i ddigwydd," meddai Mike Thomas, Gweithiwr Datblygu Strategol. “Rydym am gefnogi'r grwpiau Pontio lleol i adeiladu'r hyn y credant yw eu gweledigaeth o gymuned ffyniannus, rhoi seilwaith iddynt feddwl yn fwy systemig, am gael gweledigaeth fwy cyfannol, yn ogystal â dysgu oddi wrthynt beth a fu'n llwyddiannus fel y gellir ei rannu ag eraill.”
O ran pwy yw'r cymunedau hynny, mae Mike yn glir iawn am safle canolog cynwysoldeb yng ngweledigaeth y Rhwydwaith Pontio. O fewn cymunedau a rhyngddynt, mae nodau'r Rhwydwaith Pontio dros y deng mlynedd nesaf a thu hwnt yn cydnabod y ffaith bod mynediad at adnoddau, pŵer ac asiantaeth wedi'i ddosbarthu'n anwastad, ac maent yn ceisio unioni'r sefyllfa hon. Er enghraifft, mae datganiadau cynghorau lleol ar yr argyfwng hinsawdd (lle maent yn bodoli) yn dibynnu ar ddaearyddiaeth, demograffeg, adnoddau, dwysedd poblogaeth, a myrdd o ffactorau eraill yn ardal y cyngor. Mewn rhai rhannau o'r DU, mae deddfwriaeth, megis Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, yn galluogi newid, ond mewn rhannau eraill, mae newid wedi'i gyfyngu gan ffactorau graddfa facro megis adnoddau prin, neu ddiffyg arbenigedd.
“Nid yw hyn yn ymwneud â grŵp bach yn unig, ond â phwy arall sydd yn y gymuned, sydd wedi'i effeithio fwyaf, sydd eisoes â'r ateb i ryw raddau," meddai Mike.
Ecolegau ar wahanol raddfeydd
Mae'r Rhwydwaith Pontio yn rhan o ecosystem gymhleth sy'n amlhaenog, ac mae Mike yn ei disgrifio fel un sy'n cynnwys dwy lefel, neu raddfa, yn fras.
Mae'r cyntaf, meddai, yn cynnwys cymunedau, grwpiau Pontio, ac unigolion o fewn y cymunedau hynny sy'n cysylltu â'i gilydd a sefydliadau sy'n berthnasol iddynt. Mae gan bob grŵp Pontio yn y DU (y mae tua 300 ohono), gysylltiadau â sefydliadau eraill. Ar y lefel hon, mae Mike yn disgrifio rôl y prosiect fel un sy'n hwyluso hyd yn oed mwy o gysylltiadau, yn enwedig gyda grwpiau a rhwydweithiau y mae eu gwaith y tu hwnt i gylch gwaith materion sydd yn draddodiadol yn rhai 'gwyrdd'.
Yr ail, meddai Mike, yw'r rhwydwaith pontio ar raddfa uwch, lle mae'r Rhwydwaith Pontio'n ceisio dod â sefydliadau at ei gilydd i ddod o hyd i synergeddau sy'n eu galluogi i gynyddu eu heffaith ar lawr gwlad. Fel rhan o'r llinyn hwn, bu iddynt gynnal yr 'Uwchgynhadledd Beth Nesaf' yn ddiweddar, a ddaeth â sefydliadau ac ymgyrchwyr cymunedol ledled y DU at ei gilydd i adeiladu pŵer cymunedol. Maent hefyd yn gweithio fel rhan o rwydwaith o sefydliadau, o'r enw clymblaid CTRLshift, sy'n ceisio darparu gofod i'r sefydliadau hynny sy'n gweithio ar drosglwyddiadau systemaidd ar draws amrywiaeth o sectorau - o ddiwygio i ddewisiadau amgen radical - gydweithio a symbylu cymunedau lleol a rhanbarthol i gamu i mewn ac arfer asiantaeth dros eu dyfodol. Ar hyn o bryd mae'n cynnwys pobl o Regenerate Devon y Gymdeithas Permaddiwylliant, Asedau a Rennir, Big Local, Timebank Hull and East Riding, a mwy.
Pŵer i'r bobl
Mae'r prosiect yn cymryd ysbrydoliaeth o'r 'model Tramwyo ar gyfer newid, lledu, dyfnhau ac ymestyn: dyfnhau'r mudiad drwy fynd yn fwy sefydledig a galluogi cymunedau i weithredu'n fwy effeithiol; ehangu drwy feithrin mwy o weithgarwch mewn mwy o leoedd, gydag ystod fwy amrywiol o bobl; ac ymestyn drwy wneud y gwaith yn fwy cydnerth a medru cael ei atgynhyrchu'n well.
I'r perwyl hwn, un o'r pethau y bydd y Rhwydwaith Pontio yn ei wneud gyda'r ariannu sy'n bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yw ffrwd grantiau i ddarparu cyllid sefydlu a chymorth am ddim i gymunedau a grwpiau lleol er mwyn meithrin gallu a chydnerthedd. Dywed Mike y byddant yn helpu'r grwpiau hyn i adeiladu eu hecosystemau eu hunain, yn enwedig drwy eu cefnogi i feddwl am bwy sy ddim yn elwa o'r gwaith eto, a'r hyn y mae angen mynd i'r afael ag ef mewn cymunedau er mwyn eu helpu i ffynnu mewn ffordd gynhwysol.
Byddant hefyd yn gweithio gyda grwpiau i greu strwythur hyb o fewn y mudiad Pontio yng Nghymru a Lloegr, i alluogi grwpiau Pontio lleol i gael llais o fewn y rhwydwaith cenedlaethol, ac i'w galluogi i ryngweithio â'r mudiad Pontio rhyngwladol (sy'n gweithredu mewn mwy na 30 o wledydd ledled y byd). Trwy greu'r seilwaith ar gyfer mwy o gysylltedd rhwng grwpiau, bydd y gwaith hwn yn gwella cydnerthedd yr ecosystem bontio.
Un o'r heriau mawr y bydd Pontio yn ei hwynebu wrth gyflawni'r nodau hyn, serch hynny, yw adeiladu ar gysylltiadau sy'n bodoli eisoes i greu cymuned ffyniannus o grwpiau cysylltiedig.
“Mae ychydig fel pan fyddwch mewn priodas," esbonia Mike, "a does neb yn dawnsio. Ac yna mae tri o bobl yn codi ac yn dechrau dawnsio. Ac ymhen dim amser, mae pawb yn dawnsio. Mae'n rhaid i chi gael y tri o bobl i ddawnsio, ac yna unwaith y byddwch wedi gwneud hynny gobeithio y cewch lawer mwy o bobl sydd eisiau dod i'r parti.”
Yn ymarferol, dywed Mike mai'r cwestiwn yw sut i greu seilwaith fel bod pobl, yn gyntaf oll, am ei ddefnyddio ac ymgysylltu ag ef, ac yn ail, mae'n creu manteision i gymunedau heb fod yn ormod o faich iddynt ymgysylltu ag ef. Mae pobl yn deall ac yn barod i siarad am broblemau cymdeithasol mawr - ond mae cynyddu eu gallu i wneud y gwaith i fynd i'r afael â'r problemau hynny yn parhau i fod yn heriol.
Rhan o'r ateb fydd lleihau'r ddibyniaeth ar lafur gwirfoddol. Fel y mae ar hyn o bryd, meddai Mike, mae'r mudiad Pontio yn wirfoddol yn bennaf.
“Mae'n rhaid i ni feddwl llawer mwy am sut y gellir creu bywoliaeth o'r gwaith hwn," meddai, "a sut y gall pontio fynd yn ddull gweithredu hyfyw hirdymor. Allwch chi ddim gwneud hynny heb i bobl allu gwneud bywoliaeth allan ohono.”
Mae'r cyllid sefydlu y mae'r Rhwydwaith Pontio eisoes wedi'i ddosbarthu, gan ddefnyddio cyllid ymateb COVID gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol hefyd wedi ildio deilliannau pwerus iawn, fel trefnu gweithgareddau gweledigaeth gyda chynghorau lleol i sbarduno newid. Gyda "buddsoddiad go iawn", mae Mike yn credu y gallai'r grwpiau hyn gael effaith fwy o lawer.
Gallwch chi gadw i fyny â'r hyn y mae'r Rhwydwaith Pontio yn ei wneud ar eu gwefan, www.transitionnetwork.org (ailddatblygu ar y gweill; dilynwch ar Facebook a Twitter) a'u hymateb Covid, Pontio: Prosiect Bounce Forward yma (dilynwch ar Facebook a Twitter). Gallwch chi ddysgu mwy am y prosiect CTRLshift yma.
* Cyllid wedi'i gadarnhau am dair blynedd, gyda chyllid ar ôl hyn i'w gytuno gyda Phwyllgor Ariannu'r DU.
Credydau llun:
Anita Roy
Fanny Didou