Farming the Future
Mae gan Farming the Future freuddwyd - breuddwyd ar y cyd, uchelgeisiol o adeiladu ac ymhelaethu ar y mudiad amaethecoleg yn y DU fel mai dyma'r brif system fwyd yn y DU. I'r perwyl hwn, dyfarnwyd £5 miliwn i A Team Foundation, fel cyd-sylfaenydd FTF, dros ddeng mlynedd drwy raglen Tyfu Syniadau Gwych Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol* i barhau a datblygu'r gwaith trawsnewidiol a hirdymor hwn.
Beth yw amaeth-ecoleg? Yn ôl FTF, "mae amaeth-ecoleg wedi datblygu fel dewis amgen, ac ymwrthedd, i'r model diwydiannol o amaethyddiaeth sy'n canolbwyntio ar symleiddio, diwydiannu, ungnwd a marchnadoedd allforio. Mae'r sylfeini ar gyfer y mudiad hwn yn seiliedig ar wybodaeth draddodiadol, mynegiant diwylliannol a phrofiadau ffermio hirdymor. Mae amaeth-ecoleg yn cymhwyso egwyddorion a chysyniadau ecolegol i ffermio a thyfu; creu cytgord rhwng planhigion, anifeiliaid, pobl a'r amgylchedd, tra'n mynd i'r afael ag agweddau cymdeithasol ar system fwyd gyfiawn." Mae'r diffiniad hwn yn cyd-fynd â dealltwriaeth gyffredin arall, sy’n cynnwys y 10 egwyddor o amaeth-ecoleg a nodwyd gan Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig.
Mae FTF yn gydweithfa - yn cynnwys gweithwyr tir, addysgwyr, ymchwilwyr, sefydliadau, mentrau cydweithredol a chyllidwyr - y mae pob un ohonynt wedi ymrwymo i wireddu'r weledigaeth hon o'r dyfodol. Nid yn unig maen nhw’n breuddwydio am wawr newydd i amaethyddiaeth, ond hefyd am ffordd newydd o ariannu mudiadau. Yn hytrach na chwilio am gyllid yn y modd o'r brig i lawr sy'n draddodiadol i ddyngarwch, mae FTF yn chwilio am ddewisiadau amgen, gan geisio ariannu'r mudiad amaeth-ecoleg mewn ffordd sy'n fwy perthynol, cydweithredol ac addasol, gan ddysgu'n gyson o'r wybodaeth mae'n ei chasglu a'i rhannu.
Hefyd, mae FTF yn edrych ar gyllid fel ffordd o ddod â sefydliadau (gan gynnwys cyllidwyr) at ei gilydd a meithrin ymdeimlad o ddigonedd, gan wrthbwyso'r prinder sydd mor aml yn rhoi actorion mudiadau mewn cystadleuaeth, yn hytrach na chyd-greu.
Ecoleg a thegwch
Er bod amrywiaeth yn allweddol i amaeth-ecoleg a bioamrywiaeth, sydd wedi'u hymgorffori o fewn y 10 egwyddor, mae'n debygol bod rhywfaint o ddiffyg amrywiaeth yn dal i ailadrodd ei hun, gan adael y mudiad mewn perygl o fod yn ungnwd.
Nod FTF yw tarfu ar y duedd hon drwy ganoli tegwch a meithrin ecosystem bwyd a ffermio amrywiol a chefnogol sydd gyda'i gilydd yn rhannu gwybodaeth a strategaeth ac yn cynnig cefnogaeth ac ymgysylltiad ar y cyd. Maen nhw wedi ymrwymo i ymateb i anghenion y mudiad amaeth-ecolegol a chael eu llunio ganddynt.
"Mae'n rhaid Farming the Future wrando'n wirioneddol ar yr hyn sydd ei angen," meddai Anna van der Hurd, Prif Weithredwr A Team Foundation, cyd-grewyr FTF.
Wrth adeiladu model ariannu sy'n gydweithredol, yn gyd-greadigol ac yn ymatebol, mae FTF yn cyfrannu at ddatblygu cymunedau lleol ffyniannus a phwerus ledled y DU. Eisoes, mae FTF wedi ariannu prosiectau sy'n gweithio ar faterion cymunedol yn amrywio o fynediad i fwyd lleol a gynhyrchir yn amaeth-ecolegol ar gyfer cymunedau sydd wedi'u diogelu yn Lancaster, i rymuso ffermwyr BPOC (Du/Pobl Groenliw) i ddechrau eu gyrfaoedd ar y tir, i ymchwiliad i werth bwyd lleol ar draws y llinell waelod triphlyg, gan ganfod bod £3.70 arall yn cael ei gynhyrchu mewn gwerth cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol am bob £1 sy’n cael ei gwario gan gwsmeriaid ar gynlluniau blychau llysiau neu farchnadoedd ffermwyr.
Y blynyddoedd i ddod
Wrth edrych ymlaen at gyflawni'r gwaith hwn, a wnaed yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, dros y degawd nesaf mae Anna yn ychwanegu, "Mae Farming the Future wedi ymrwymo am yr hirdymor... Mae angen y math hwnnw o orwel ar newid tirwedd ecosystemau. Mae cael Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ymrwymo i'r gwaith hwn am hyd at 10 mlynedd yn enfawr gan ei bod yn dangos eu dealltwriaeth ddofn o'r angen am fuddsoddiadau hirdymor sydd eu hangen i greu newid ystyrlon."
Ar hyd y ffordd, mae FTF yn gobeithio ehangu cwmpas a chyrhaeddiad eu ecosystem. Er enghraifft, er bod derbynwyr grantiau wedi bod i raddau helaeth yn Lloegr hyd yma, maen nhw’n bwriadu ehangu eu rhwydweithiau ledled y DU dros y flwyddyn nesaf. Yn y tymor hwy, bydd FTF yn dyfarnu mwy o arian, yn denu mwy o gyllidwyr sy'n cyd-fynd â gwerthoedd, ac yn cefnogi lleisiau a sefydliadau sy'n dod i'r amlwg, yn enwedig y rhai sy'n gweithio gyda chymunedau ymylol.
Ni fydd y daith hon heb ei heriau, ac mae FTF yn cydnabod hyn. Er enghraifft, wrth i fwy a mwy o arian lifo drwodd, bydd angen cydbwyso hyblygrwydd, addasrwydd ac ymatebolrwydd sydd mor greiddiol i'r ffordd mae FTF yn gweithredu gydag anghenion rheoleiddiol, biwrocrataidd cynyddol mwy o gyllidwyr a sefydliad mwy.
Ar y llaw arall, mae llawer i'w gyffroi yn ei gylch. Er enghraifft, bydd "gallu dod â chymaint o adnoddau i sector amaeth-ecolegol y DU â phosibl" yn garreg filltir ynddo'i hun, meddai Anna. "Mae'n faes sydd angen llawer mwy o arian," meddai.
O safbwynt ehangach, mae gan FTF y gallu i "rwydweithio'n fwy gyda sefydliadau tebyg ac i weithio mewn partneriaeth â nhw yn fyd-eang," meddai Anna. "P'un a ydynt yn rhai sy'n bodoli eisoes, neu'r rhai y byddwn yn eu cyd-greu a'u cefnogi."
Ni all FTF wneud hyn ar ei ben ei hun. "Mae lens bwyd yn cyffwrdd â phopeth," meddai Anna. Mae'r mudiad bwyd a ffermio amaeth-ecolegol "yn borth i lawer o faterion pwysig, gan gynnwys yr hinsawdd, cyfiawnder economaidd a chymdeithasol, addysg, cyfiawnder tir, iechyd a lles, diwylliant, ac iechyd," a bydd angen cefnogaeth cyllidwyr ar draws y sectorau hynny ar FTF i feithrin gallu'r mudiad i greu newid, meddai.
"Mae'n hawdd edrych ar ynni... neu ymyriadau meddygol ar gyfer iechyd, yn hytrach na chyfraniadau cyfannol fel sut rydym yn ffermio ac yn bwydo ein hunain," meddai Anna. "Mae Amaeth-ecoleg yn ateb i'r holl faterion hyn."
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn mae Farming the Future yn ei wneud, gallwch danysgrifio i'w cylchlythyr ar eu gwefan: www.farmingthefuture.uk. Neu, gallwch gysylltu â Rheolwr y Rhaglen Olivia Oldham arolivia@farmingthefuture.uk.
* Cyllid wedi'i gadarnhau am dair blynedd, gyda chyllid ar ôl hyn i'w gytuno gyda Phwyllgor Ariannu'r DU.