Cadeirydd
Mae’r Fonesig Julia yn ymgyrchydd brwd ac ymarferol sydd wedi ennill enw da yn rhyngwladol am “gysylltu’r rhai sy’n ddigyswllt”, gan ysbrydoli unigolion a sefydliadau i weithio gyda’i gilydd er budd pawb. Yn ystod ei gyrfa helaeth, mae hi’n gyson wedi hyrwyddo cydweithio tymor hir ar draws sectorau yn y cymunedau tlotaf, gan gefnogi arweinwyr cymunedol, ac annog ymgysylltiad pobl ifanc, i helpu i feithrin capasiti lleol a chreu cymdeithas sifil sy’n fwy gwydn ac sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth, cynaliadwyedd ac atebion lleol cyd-destunol.
Mae’r Fonesig Julia wedi cadeirio Teach First, y National Literacy Trust a Place Matters – oll yn elusennau sy’n gweithio i ddeall a thaclo anghydraddoldeb yn y cymunedau hynny sy’n profi’r tlodi, anfantais a’r gwahaniaethu mwyaf. Mae hi’n cadeirio Pwyllgor yr Ystadegydd Gwladol ar Ddata Cynhwysol ac ar Gomisiwn Twf Cynhwysol yr EMCCA. Mae hi’n gyd-sylfaenydd ymgyrch #iwill sy’n cefnogi pobl ifanc i weithredu’n gymdeithasol trwy wirfoddoli, ymgyrchu ac eirioli. Mae’r Fonesig Julia wedi gwasanaethu fel Ymddiriedolwr ar Fwrdd y Fair Education Alliance, y Careers and Enterprise Company, yr Youth Futures Foundation, Teach for All ac fel Noddwr Right to Succeed. Dechreuodd ei gyrfa gyda’r Industrial Society gan wasanaethu fel Prif Weithredwr Busnes yn y Gymuned am ddwy flynedd ar bymtheng cyn gweithio i Dywysog Cymru ar y pryd fel Cynghorydd Arbennig i Elusennau’r Tywysog.