Kate Young yw Cyfarwyddwr y Fforwm Cymru Gyfan i Rieni a Gofalwyr, sef y rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer gofalwyr teuluol pobl ag anableddau dysgu, sy’n ymgysylltu â dros 4,000 o deuluoedd ledled Cymru.
Kate yw Is-gadeirydd Cynghrair Cynhalwyr Cymru a chynrychiolydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer y Trydydd Sector yng Nghymru ar y Cyngor Partneriaeth. Mae’n rhan o sawl Grŵp Cynghori’r Gweinidog a fforymau polisi sy’n trafod pynciau fel taliadau uniongyrchol, Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, Eiriolaeth, Arolygu Gwasanaethau ac yn fwyaf diweddar, Bwrdd Rhanddeiliaid Brechlyn Covid i Gymru. Bu Kate hefyd yn Gadeirydd Pobl yn Gyntaf y Fro am ddeng mlynedd ac yn Ymddiriedolwr Cymru ar gyfer Cronfa’r Teulu y DU am bum mlynedd.
Mae gan Kate ddealltwriaeth gadarn o’r weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru a’r cyfleoedd a heriau diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd y mae’n ei chynnig i gymunedau. Mae ganddi ymrwymiad cryf i’r syniad bod cymunedau wrth wraidd newid, gan gredu bod ein natur unigryw ac amrywiol fel gwlad, pan fyddwn yn dod ynghyd, yn rym gwirioneddol dros newid, arloesi a chynhwysiant.
Mae’n eiriolwr angerddol dros hawliau a dewis personol, gyda diddordeb arbennig mewn anabledd, gofalwyr a chydraddoldeb. Fel gofalwr i’w brawd sy’n byw ag anableddau dysgu difrifol ac awtistiaeth, mae ganddi ddealltwriaeth bersonol a phrofiad bywyd o fodel cymdeithasol anabledd a’r problemau anghydraddoldeb o fewn cymdeithas yng Nghymru.