Ein tîm Llais Ieuenctid Cymru
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw cyllidwr mwyaf gweithgarwch plant a phobl ifanc ledled y DU.
Mae dros draean o’n cyllid yn mynd tuag at y grwpiau ar lawr gwlad lleiaf yr holl ffordd i elusennau mawr DU-cyfan i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ffynnu. Yn 2020, gwnaethom recriwtio panel o bobl ifanc ledled Cymru i gyd-ddatblygu ein rhaglen Meddwl Ymlaen gyda ni. Mae’r gwaith hwn yn parhau wrth i ni geisio sicrhau bod lleisiau pobl ifanc wedi’u cynnwys yn ein gwaith i gyd, boed yw hynny trwy’r grantiau a wnawn, y bobl rydym ni’n eu dylanwadu neu’r pethau rydym ni’n eu dysgu.
Trwy banel ymgynghori Tîm Llais Ieuenctid Cymru, rydym yn ceisio mynd i’r afael â’r materion y mae pobl ifanc a’u cymunedau yn eu wynebu, gyda’r nod o lywio newid arwyddocaol a chadarnhaol mewn cymunedau.
Mae Tîm Llais Ieuenctid Cymru’n cyfarfod â’n Tîm Gwybodaeth a Dysgu yng Nghymru ac yn penderfynu fel tîm ar ba waith i ganolbwyntio arno a sut i gyflawni hyn. Maen nhw hefyd yn derbyn cefnogaeth ac arweiniad gan ein staff fel rhan o becyn hyfforddiant wedi’i deilwra i ddatblygu eu sgiliau a’u profiad.
Ar hyn o bryd, rydym ni’n recriwtio dau aelod newydd i ymuno â’n tîm. Os oes diddordeb gennych, darllenwch ein hysbyseb.
Os oes unrhyw ymholiadau gennych neu os hoffech chi drafod y grŵp ymhellach, mae croeso i chi gysylltu â ni cymru@cronfagymunedolylg.org.uk