Pwyllgor Ariannu Deyrnas Unedig

Dame Julia Cleverdon DCVO CBE

Dame Julia Cleverdon DCVO CBE

Mae’r Fonesig Julia yn ymgyrchydd brwd ac ymarferol sydd wedi ennill enw da yn rhyngwladol am “gysylltu’r rhai sy’n ddigyswllt”, gan ysbrydoli unigolion a sefydliadau i weithio gyda’i gilydd er budd pawb.

Yn ystod ei gyrfa helaeth, mae hi’n gyson wedi hyrwyddo cydweithio tymor hir ar draws sectorau yn y cymunedau tlotaf, gan gefnogi arweinwyr cymunedol ac annog ymgysylltiad pobl ifanc i helpu i feithrin capasiti lleol a chymdeithas sifil fwy gwydn sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth, cynaliadwyedd ac atebion lleol cyd-destunol.

Mae’r Fonesig Julia wedi cadeirio Teach First, y National Literacy Trust a Place Matters – oll yn elusennau sy’n gweithio i ddeall a thaclo anghydraddoldeb yn y cymunedau hynny sy’n profi’r tlodi, anfantais a’r gwahaniaethu mwyaf.

Wedi iddi arwain adolygiadau Llywodraethol i lywodraethau Llafur a Cheidwadol dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae hi bellach yn cadeirio Pwyllgor yr Ystadegydd Gwladol ar Ddata Cynhwysol. Mae hi’n gyd-sylfaenydd ymgyrch #iwill sy’n helpu pobl ifanc i weithredu’n gymdeithasol trwy wirfoddoli, ymgyrchu ac eirioli. Mae hi wedi gwasanaethu fel Ymddiriedolwr ar Fwrdd y Fair Education Alliance, y Careers and Enterprise Company, yr Youth Futures Foundation, Teach for All ac fel Noddwr i Right to Succeed. Dechreuodd ei gyrfa gyda’r Dechreuodd ei gyrfa gyda’r Industrial Society gan wasanaethu fel Prif Weithredwr Busnes yn y Gymuned am ddwy flynedd ar bymtheng cyn gweithio i Dywysog Cymru ar y pryd fel Cynghorydd Arbennig i Elusennau’r Tywysog.

Dr Simone Lowthe-Thomas

Dr Simone Lowthe-Thomas

Mae Dr Lowthe-Thomas yn Brif Swyddog Gweithredol Asiantaeth Ynni Hafren-Gwy - elusen ynni cynaliadwy sy'n gweithio yng Nghymru a siroedd y gororau. Cyn iddi ddod yn Brif Swyddog, roedd ganddi rolau niferus yn y sefydliad hwnnw, gan gynnwys Cyfarwyddwr Cymru a Phennaeth Ynni Cymunedol. Mae hi hefyd yn Is-lywydd Effeithlonrwydd Ynni a Thlodi Tanwydd yn Federene (Ffederasiwn Asiantaethau Ynni Ewrop). Enillodd ei PhD ym Mhrifysgol Caerdydd, gan astudio Cnydau Ynni a Biomas.

Roedd Dr Lowthe-Thomas yn aelod o fwrdd sefydlu Ynni Cymunedol Cymru a threuliodd ddeng mlynedd ym Mhrifysgol Caerdydd fel Cydymaith Ymchwil.

John Mothersole

John Mothersole

Mae John Mothersole wedi dal swyddi uwch mewn llywodraeth leol yn ninasoedd y DU gan gynnwys Llundain, yn fwyaf diweddar fel Prif Weithredwr Cyngor Dinas Sheffield. Ers sefyll i lawr o'r swydd honno ym mis Rhagfyr 2019 ar ôl 11 mlynedd, mae John wedi ymgymryd â chyfres o rolau anweithredol sydd bellach yn cynnwys Cadeirydd-Dynodwr Coleg Sheffield, ymddiriedolwr elusen gofal cymunedol, aelodaeth o Fwrdd Cynghori Ysgol Reoli Prifysgol Sheffield a Chadeirydd Canolfan Addysg Meadowhall. Cyn cael ei ddewis yn Gadeirydd Pwyllgor Lloegr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, roedd John yn aelod o'r pwyllgor hwnnw.

Mae John wedi bod yn ymwneud yn helaeth â'r agenda bolisi ar gyfer dinasoedd y DU drwy'r rhwydwaith Dinasoedd Craidd, menter Pwerdy'r Gogledd a chyda'r Llywodraeth i sicrhau cytundebau datganoli i ddinasoedd a dinas-ranbarthau a chymryd rhan mewn teithiau masnach.

Roedd ei yrfa gynnar yn y celfyddydau, yn Llundain a'r Gogledd-ddwyrain yn bennaf, ac mae'n gweld ailagor y Roundhouse yn Llundain a’r ailddatblygu a ganlyn, fel uchafbwynt y rhan honno o'i yrfa.

Mae John yn byw yn Sheffield er bod ei wreiddiau yn y Gogledd-orllewin. Gan mai dim ond yn ddiweddar y mae wedi sefyll i lawr o fod yn Brif Weithredwr, mae'n dal i geisio gweithio allan beth yw ei hobïau!

Kate Still

Kate Still

Kate yw Cyfarwyddwr yr Alban ar gyfer Ymddiriedolaeth y Tywysog, elusen ieuenctid flaenllaw sy'n cefnogi pobl ifanc i fyw, dysgu ac ennill. Bu'n aelod o Fwrdd ERSA am flynyddoedd lawer, yn Gadeirydd Cymorth Cyflogaeth yr Alban ac yn Gymrawd y Sefydliad Cyflogadwyedd. Dechreuodd Kate ei gyrfa fel athro ar ôl cwblhau MA (Anrh) mewn Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Glasgow.

Mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad perthnasol o ddarparu rhaglenni addysg, prentisiaethau, sgiliau, cyflogadwyedd a menter gymunedol ac adfywio ar draws sawl sector, gan gynnwys 15 mlynedd yn y sector Elusennau. Mae gan Kate awydd angerddol i wneud gwahaniaeth ynghyd â'r awch i gael effaith ar faterion tlodi, cydraddoldeb ac amrywiaeth a chyfiawnder cymdeithasol. Mae Kate wedi dal rolau arwain strategol ar lefel yr UE a'r DU gan gynnwys rheoli rhaglenni cymorth yr UE i Ganol a Dwyrain Ewrop. Yn gyn-aelod o Fwrdd Partneriaeth Ewropeaidd Strathclyde, cwblhaodd ei hymchwil MPhil mewn Polisi Ewropeaidd ym Mhrifysgol Strathclyde yn 2011.

Mae hi wedi dal rolau Cyfarwyddwr o'r blaen gyda Rathbone a Wise Group. Mae Kate wedi treulio dros bedair blynedd yn gwirfoddoli gyda'i chyngor cymuned lleol.

Paul Sweeney

Paul Sweeney

Mae gan Paul brofiad helaeth o weithio yn y sectorau gwirfoddol, cymunedol a chyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon.

Rhwng 1987 a 1994 ef oedd Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Wirfoddol Gogledd Iwerddon, a oedd yn cefnogi mentrau hunangymorth yn y gymuned.

Ymunodd â Gwasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon (NICS) ym 1994, ar secondiad i ddechrau, fel cynghorydd ar ddatblygu cymunedol a chymodi. Trwy gydol ei yrfa ddilynol yn y NICS roedd ganddo nifer o swyddi uwch gan gynnwys Dirprwy Ysgrifennydd yn Swyddfa’r Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog, Ysgrifennydd Parhaol yr Adran dros Ddiwylliant, y Celfyddydau a Hamdden ac Ysgrifennydd Parhaol yr Adran Addysg.

Ers ymddeol o’r NICS yn 2017 mae Paul wedi ymgymryd â rôl ymddiriedolwr mewn nifer o sefydliadau ni-er-elw sy’n ymwneud ag adfywio, diwylliant a phobl ifanc.

Meddai: “Rwy’n ei hystyried yn fraint cael fy mhenodi i’r rôl hon ac i gael y cyfle i adeiladu ar lwyddiant grantiau’r Gronfa dros y blynyddoedd sydd i ddod.

“Mae’r sector Wirfoddol, Gymunedol a Mentrau Cymdeithasol ledled Gogledd Iwerddon wedi ymateb i heriau COVID-19 gydag arweinyddiaeth, gwytnwch a thosturi. Credaf fod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol mewn lle da i barhau i gefnogi pobl leol wrth i ni ail-adeiladu yn dilyn pwysau mawr y pandemig.”