Mae 63 cymuned yng Nghymru'n dathlu dechrau cyfnod y Nadolig gyda grantiau o'r Gronfa Loteri Fawr gwerth cyfanswm o £3,732,133. 93 a ddyfarnwyd dros y mis diwethaf.
Wrth i'r Gronfa Loteri Fawr gyhoeddi dros £592,549 o grantiau heddiw, bydd 42 o gymunedau'n dysgu eu bod wedi llwyddo gyda'u cheisiadau am grantiau y mis yma. Dyfarnwyd grantiau mwy sylweddol rhwng £10,001 a £100,000 i bedwar o brosiectau mewn tair sir: un yn Sir Fynwy, dau yng Ngheredigion ac un yng Nghaerdydd.
Mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi cyhoeddi pedwar penodiad newydd heddiw. Mae'r rhain yn cynnwys tair rôl newydd i ymuno a thimau dylunio gwasanaeth a digidol y Gronfa a Phennaeth Cyfreithiol newydd - Eleanor Boddington – sydd wedi ymuno â'r Gronfa gan y Gronfa Buddsoddi Plant.
Mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn newid ei henw yn y Flwyddyn Newydd. O 29 Ionawr enw ariannwr cymunedol mwyaf y Deyrnas Unedig, sy'n dosbarthu 40% o'r arian ar gyfer achosion da a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, fydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.