Mae’r prif sefydliadau dyfarnu grantiau yng Nghymru, sy’n cyfarfod yn rheolaidd fel Fforwm Arianwyr Cymru, yn cydweithio’n agosach nag erioed i sicrhau bod arian yn mynd i’r elusennau, sefydliadau a chymunedau yng Nghymru sydd ei angen fwyaf yn ystod y clo mawr. Rhyngddynt mae £20 miliwn eisoes wedi'i ddosbarthu i gymunedau ledled Cymru.
Mae Southall Black Sisters, sefydliad i fenywod sy'n canolbwyntio ar herio trais domestig a thrais ar sail rhywedd ar draws Llundain, wedi derbyn bron £90,000 o arian y Loteri Genedlaethol.
Heddiw (4 Mehefin 2020), cyhoeddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ei bod wedi dyfarnu £4.5 miliwn dros y mis diwethaf i 91 o brosiectau cymunedol ledled Cymru, y mae llawer ohonynt yn helpu pobl i gefnogi ei gilydd trwy'r argyfwng COVID-19.
Mae cymunedau ledled Ynys Môn yn cydlynu rhwydwaith trawiadol o dros 850 o wirfoddolwyr, i gefnogi’r rhai sydd fwyaf agored i niwed trwy bandemig COVID-19, diolch i grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Heddiw, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cyhoeddi dyfarniadau dros £5 miliwn i fwy na 160 o elusennau a phrosiectau cymunedol llai dan arweiniad gwirfoddol ledled Cymru, y mae llawer ohonynt yn helpu pobl i gefnogi ei gilydd trwy'r argyfwng COVID-19.
Wrth i effaith mesurau i reoli COVID-19 gynyddu, mae’r Gronfa’n parhau i ddyfarnu grantiau a chefnogi cymunedau lleol i ddelio â’r heriau o bobl yn aros yn eu cartrefi.
Yn sgil y sefyllfa bresennol gyda Covid-19 (coronafierws), mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru wedi cytuno i oedi Rownd 6 o Gronfa Cymunedau’r Arfordir Llywodraeth Cymru.
Mae 74 mudiad yn dathlu cyfran o bron i filiwn o bunnoedd mewn grantiau gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol mis yma. Mae'r Sefydliad Brenhinol ar gyfer Pobl Ddall yn un o'r mudiadau hyn.
Heddiw cyhoeddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fod bron i £300,000 wedi’i ddyfarnu i gymunedau yng Nghymru i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.