Heddiw cyhoeddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fod dros hanner miliwn o bunnoedd wedi'i ddyfarnu i gymunedau yng Ngwynedd i fynd i'r afael â newid hinsawdd, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Bydd cymorth ychwanegol ar gael i bobl sy’n delio â dementia, unigrwydd a iechyd meddwl diolch i £3.6 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol a gyhoeddir heddiw.
Mynychodd 35 o grwpiau cymunedol o bob rhan o Gymru ddigwyddiad croeso Hwb i’r Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Daeth y grwpiau, o rwydwaith eang ac amrywiol, at ei gilydd yn rhithiol i gael cymorth i gymryd camau amgylcheddol a chael effaith gadarnhaol drwy leihau eu hôl troed carbon, er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Heddiw, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru yn ail-lansio ei chynllun grant gwerth £10m cyn Diwrnod Digartrefedd y Byd ddydd Sadwrn (10/10/2020) sy'n tynnu sylw at drafferthion pobl sy'n dioddef digartrefedd yn fyd-eang.
Mae ffigurau newydd yn dangos heddiw fod dros £400 miliwn wedi mynd i gymunedau ledled y DU ers y clo mawr*, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Er gwaethaf yr heriau a gyflwynwyd gan COVID-19, mae chwaraewyr wedi parhau i gefnogi'r Loteri Genedlaethol, gan alluogi miliynau lawer o arian grant y mae mawr ei angen i barhau i lifo i brosiectau lleol anhygoel ac achosion da.
Mae dros 50 o sefydliadau cymunedol ledled y DU wedi cael cyfran o fwy na £2 filiwn o arian gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i adeiladu ar y creadigrwydd a'r tosturi a welwyd mewn cymunedau ac ar draws cymdeithas sifil yn ystod pandemig COVID-19 a'i ymhelaethu arno.
Heddiw mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi adroddiad newydd yn rhannu dysgu a mewnwelediad o brosiectau amgylcheddol diweddar a wnaed yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.