Mae'r Bartneriaeth Awyr Agored wedi derbyn £2,920,462 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ail greu llwyddiant eu prosiect wedi'i seilio ar Eryri, ond y tro yma ledled y DU. Byddent yn lansio mewn pum rhanbarth, gan gychwyn gyda Dwyrain Ayrshire (Yr Alban), Newry (Gogledd Iwerddon) a Cumbria (Lloegr).
Heddiw, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi lansio Cronfa Gweithredu Hinsawdd gwerth £100 miliwn a fydd yn galluogi pobl a chymunedau i arwain wrth fynd i'r afael a'r argyfwng hinsawdd.
Mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi cyhoeddi pedwar penodiad newydd heddiw. Mae'r rhain yn cynnwys tair rôl newydd i ymuno a thimau dylunio gwasanaeth a digidol y Gronfa a Phennaeth Cyfreithiol newydd - Eleanor Boddington – sydd wedi ymuno â'r Gronfa gan y Gronfa Buddsoddi Plant.
Mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn newid ei henw yn y Flwyddyn Newydd. O 29 Ionawr enw ariannwr cymunedol mwyaf y Deyrnas Unedig, sy'n dosbarthu 40% o'r arian ar gyfer achosion da a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, fydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.