Heddiw cyhoeddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fod dros hanner miliwn o bunnoedd wedi'i ddyfarnu i gymunedau yng Ngwynedd i fynd i'r afael â newid hinsawdd, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Bydd cymorth ychwanegol ar gael i bobl sy’n delio â dementia, unigrwydd a iechyd meddwl diolch i £3.6 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol a gyhoeddir heddiw.
Mynychodd 35 o grwpiau cymunedol o bob rhan o Gymru ddigwyddiad croeso Hwb i’r Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Daeth y grwpiau, o rwydwaith eang ac amrywiol, at ei gilydd yn rhithiol i gael cymorth i gymryd camau amgylcheddol a chael effaith gadarnhaol drwy leihau eu hôl troed carbon, er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Heddiw, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru yn ail-lansio ei chynllun grant gwerth £10m cyn Diwrnod Digartrefedd y Byd ddydd Sadwrn (10/10/2020) sy'n tynnu sylw at drafferthion pobl sy'n dioddef digartrefedd yn fyd-eang.
Cyhoeddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol £1.8m pellach o arian grant, ar gyfer 68 o grwpiau cymunedol, gan gefnogi pobl ar hyd a lled Cymru i wella o effeithiau COVID-19.
Heddiw cyhoeddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fod bron i £3 miliwn wedi’i ddyfarnu i gymunedau yng Nghymru i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Heddiw, ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Ieuenctid, cyhoeddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ei bod yn partneru â phobl ifanc o bob rhan o Gymru i helpu i lywio sut y defnyddir ei harian grant yn y dyfodol.