Y mis hwn mae 196 o grwpiau cymunedol wedi derbyn cyfran o £9,634,929 o gyllid y Loteri Genedlaethol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’r grantiau hyn yn dod â chymunedau ynghyd ledled Cymru, gan gynnwys cynnig cymorth ymarferol i bobl ag anableddau.
Heddiw mae 48 o gymunedau ledled Cymru wedi derbyn £2 filiwn o arian y Loteri Genedlaethol. Heddiw, cyhoeddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru ei rownd ddiweddaraf o grantiau, gan gynnwys cymorth i gymunedau drwy’r argyfwng costau byw.
Mae gan y Gronfa Gweithredu Hinsawdd ddiddordeb mewn cefnogi prosiectau sydd wedi’u llywio gan y gymuned a fydd yn helpu cymunedau i fanteisio ar y cyfleoedd sy’n codi wrth i ni symud tuag at ynni mwy cynaliadwy yn y dyfodol.
Y mis hwn, mae 90 o grwpiau a sefydliadau cymunedol ledled Cymru’n croesawu’r Flwyddyn Newydd gyda’r newyddion eu bod wedi derbyn grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
mae Mynegai Ymchwil Cymunedol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dangos bod pobl ledled y wlad yn darogan pwysau cynyddol ar wasanaethau cymunedol lleol oherwydd effaith costau byw.