Rydym yn dathlu wythnos gwirfoddolwyr (1 - 6 Mehefin 2019) gan gyhoeddi bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu £3,200,162 mewn grantiau i 59 cymuned yng Nghymru y mis hwn.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn buddsoddi dros £2m o arian y Loteri Genedlaethol ar brosiect i gefnogi pobl hŷn i aros, neu ddychwelyd i waith yng Ngogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru.
Cafodd grantiau mwy daeth i gyfanswm o bron i £300,000 eu dyfarnu i dri grŵp y mis hwn: Swansea Mind Abertawe, Paul Popham Fund Renal Support Wales a Bridges Centre, Monmouth.
Mae tri grŵp cymunedol lleol yng Nghymru wedi ennill pleidlais gyhoeddus i fachu hyd at £50,000 gan y Loteri Genedlaethol fel rhan o Brosiectau'r Bobl eleni. Dyfarnwyd y grantiau ar ôl i Starlings Aberyswyth, Dal Dy Dir ym Mhowys, a Keep Wales Tidy yn Abertawe a Rhondda Cynon Taf, ennyn hyder y cyhoedd gyda'u cynlluniau.
Mae llawer o bobl yn breuddwydio am ennill y Loteri Genedlaethol ond dychmygwch sut y byddech yn teimlo wrth dderbyn grant gan y Loteri Genedlaethol dros eich cymuned? Y mis yma, mae grantiau gwerth cyfanswm o bron £3 miliwn wedi'u dyfarnu yng Nghymru.
Mae 63 cymuned yng Nghymru'n dathlu dechrau cyfnod y Nadolig gyda grantiau o'r Gronfa Loteri Fawr gwerth cyfanswm o £3,732,133. 93 a ddyfarnwyd dros y mis diwethaf.