Derbyniodd Hope Church Merthyr Tudful, elusen tlodi bwyd, grant o £78,000 am eu prosiect. Dechreuodd gwaith cyfredol Hope Church yn ystod y cyfnod clo cyntaf wrth iddyn nhw fynd siopa dros bobl nad oeddent yn gallu gadael y tŷ, cyn esblygu i ddosbarthu parseli bwyd argyfwng a chynnig gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn.
Mae 177 o grwpiau cymunedol a sefydliadau ledled Cymru’n dathlu cyfran o £5 miliwn a ddyfarnwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am eu gwaith pwysig o helpu dod â chymunedau ynghyd.
Heddiw, dyfarnodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol £10.8 miliwn mewn grantiau trwy ei rhaglen Meddwl Ymlaen i naw partneriaeth sy’n cefnogi iechyd meddwl a gwytnwch pobl ifanc ledled Cymru.
Mae Rhondda Hub for Veterans yng Nghymoedd Cymru’n un o 83 o grwpiau cymunedol yng Nghymru sy’n dathlu derbyn cyfran o fwy nag £1 miliwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, cyllidwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU.Dyfarnwyd £10,000 i Rhondda Hub for Veterans, i fynd i’r afael â digartrefedd, gan gefnogi pobl yn Y Rhondda sydd wedi gadael y lluoedd arfog. Mae’r grŵp hefyd yn helpu â materion sylfaenol fel diweithdra a phroblemau iechyd meddwl.
Mae tri partneriaeth newydd yng Nghymru yn dathlu ar ôl derbyn dros £8.3 miliwn o arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i helpu taclo digartrefedd. Bydd cynllun newydd i wobrwyo hyd at £3 miliwn o ariannu i fynd i’r afael â digartrefedd gwledig yn cael ei gyhoeddi’n fuan.