Derbyniodd Cancer Aid Merthyr Tudful £10,000 i ail-agor eu canolfan galw-i-mewn dyddiol, gan gynnig cymorth ymarferol ac emosiynol i’r rhai hynny y mae eu bywydau wedi cael eu heffeithio gan ganser. Mae’r grŵp hefyd yn cynllunio i helpu cadw cleifion a gofalwyr yn gynnes y gaeaf hwn wrth wynebu’r argyfwng costau byw.
Cyhoeddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol flaenoriaethau newydd ar gyfer grwpiau cymunedol sy’n ymgeisio am gyllid i gefnogi cymunedau gyda’r argyfwng costau byw.
Heddiw, mae Cronfa Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn gwneud hyd at £8 miliwn ar gael i brosiectau cymunedol ledled y DU sy’n canolbwyntio ar y cyswllt rhwng natur a hinsawdd.
Derbyniodd Hope Church Merthyr Tudful, elusen tlodi bwyd, grant o £78,000 am eu prosiect. Dechreuodd gwaith cyfredol Hope Church yn ystod y cyfnod clo cyntaf wrth iddyn nhw fynd siopa dros bobl nad oeddent yn gallu gadael y tŷ, cyn esblygu i ddosbarthu parseli bwyd argyfwng a chynnig gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn.
Mae 177 o grwpiau cymunedol a sefydliadau ledled Cymru’n dathlu cyfran o £5 miliwn a ddyfarnwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am eu gwaith pwysig o helpu dod â chymunedau ynghyd.